Neidio i'r cynnwys

B. T. Hopkins

Oddi ar Wicipedia
B. T. Hopkins
FfugenwB. T. Hopkins Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Rhagfyr 1897 Edit this on Wikidata
Lledrod Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 1981 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ffermwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Benjamin Thomas Hopkins, yn ysgrifennu fel B.T. Hopkins (3 Rhagfyr 189721 Ionawr 1981).[1] Bu'n feirniad amlwg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.[2]

Ganed ef yn ardal Lledrod, Ceredigion yn 1897. Bu farw ei fam yn fuan ar ôl ei eni, a magwyd ef gan ei fodryb gerllaw Blaenafon. Priododd yn 1937, a bu’n ffermio Brynwichell ym mhlwyf Blaenpennal, ger y Mynydd Bach hyd nes iddo ymddeol yn 1964. Roedd yn rhan o gylch llenyddol Jenkin Morgan Edwards ac Edward Prosser Rhys.[2]

Mae’n fwyaf adnabyddus am ei gywydd Rhos Helyg, sy'n moli bywyd amaethyddol a diwylliant Cymraeg ei fro.[2] Ceir cofeb iddo a beirdd lleol eraill ar lan Llyn Eiddwen, ger y Mynydd Bach.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Rhos Helyg a cherddi eraill (1977)

Gweler hefyd:

  • Bro a Bywyd Beirdd y Mynydd Bach (Cyhoeddiadau Barddas, 1999)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Bardd, Blaenor a Bonheddwr", Goleuad, 11 Mawrth 1981 Archifwyd 2015-05-29 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 15 Tachwedd 2013
  2. 2.0 2.1 2.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru