Preseli (cerdd)

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Gymraeg gan Waldo Williams yw Preseli. Lluniodd y gerdd pan oedd yn byw yn Lloegr, felly'n edrych ar y Preseli o'r tu allan. Ceir bortread o bobl Y Preseli fel pobl sy'n deall sut i weithio hefo'i gilydd heddychlon, ac mai 'her' Waldo Williams i'r byd ydy i bawb yn y byd bod fel pobl Y Preseli. Hefyd daeth her i fro'r Preseli a daeth o dan fygythiad o du Swyddfa'r Rhyfel. Roedd y weinyddiaeth eisiau cymryd tiroedd y Preseli er mwyn ymarfer y fyddin, ond cododd y bobl leol mewn protest effeithio yn erbyn hyn, gyda Waldo Williams yn cyfrannu yn y brotest gyda'r gerdd yma. Yn y gerdd mae Waldo Williams yn datgan ei gariad at fro ei febyd, ac rydym yn cael darlun o'r tirlun a'r gymdeithas. Gwelir themâu cenedlgarwch, brogarwch, gwerthoedd cymdeithasol, rhyfel a heddwch.

Waldo Williams[golygu | golygu cod]

Waldo (Goronwy) Williams oedd un o beirdd enwocaf y Gymraeg (Medi 30fed 1904 - 20 Mai 1971) yr 20g. Roedd yn heddychwr, yn grynwr, yn genedlaetholwr ac yn sosialydd.

Mesur y gerdd[golygu | golygu cod]

Penillion pedair llinell yn odli yn y ffurf 'a/b/c/b' sydd yn y Preseli. Mae nifer y sillafau ym mhob llinell yn amrywio, gyda llinellau 1 a 3 yn hirach na linellau 2 a 4 ym mhob pennill. Nid yw hi'n gerdd gynganeddol, ond mae ambell gynghanedd ynddi.

Iaith ac arddull[golygu | golygu cod]

Rhestrai Waldo Williams mynyddoedd yn ardal Y Preseli, sef "Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd". Cyfeiriai'r gerdd at un o 'Eiriau Mawr' Waldo, sef Tŷ, er enghraifft "Mur fy mebyd". Ceir symbolaeth o oleuni yn y gerdd, fel y dyfyniad "estyn yr haul i'r plant o'u plyg" sy'n awgrymu fod pobl Y Preseli yn gweithio'n galed i roi gobaith i eu plant.

Mae'r gerdd yn ymddangos yn y flodeugerdd O Fôn i Fynwy