Neidio i'r cynnwys

Moel Fenlli

Oddi ar Wicipedia
Moel Fenlli
Awyrlun o 'r gogledd-ddwyrain yn y bore bach
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr511 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1313°N 3.2497°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd152.4 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMoel Famau Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBryniau Clwyd Edit this on Wikidata
Map

Mae Foel Fenlli yn gopa mynydd ac yn fryngaer a geir ym Mryniau Clwyd yn Sir Ddinbych, Cymru; cyfeiriad grid SJ164600. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a Llanferres uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd.

Dosbarthiad

[golygu | golygu cod]

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 358.5metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 510.9 metr (1676 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.

Y fryngaer

[golygu | golygu cod]
Moel Fenlli
Moel Fenlli
Moel Fenlli, Llanbedr Dyffryn Clwyd

Moel Fenlli yw'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 10ha o dir ar gopa bryn o'r un enw[2] sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd o'r dwyrain. Ar gopa'r bryn ceir carnedd o Oes yr Efydd.[3]

Dyddia'r amddiffynwaith i gyfnod rhwng y ganrif gyntaf CC a'r 4g OC, fwy neu lai y cyfnod y bu'r Rhufeiniaid yn Ynys Prydain. Lleolir y prif amddiffyniad ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y gaer, uwchlaw'r bwlch. Ceir mynedfa gynnar yn y gornel orllewinol ac yn diweddarach yn y gornel de-ddwyreiniol. Ceir olion cytiau crwn tu mewn i'r gaer. Darganfuwyd darnau o briddlestri gwyn a choch, haearn, saethau callestr a gwydr pan gloddiwyd y safle yn 1849. Yn 1816 cafwyd hyd i gelc o dros 1,500 o ddarnau pres Rufeinig, yn dyddio o'r cyfnod 307-360 OC yn bennaf. Darganfyddwyd tua 60 o dai Celtaidd y tu fewn i'r gaer.[4]

Tarddiad yr enw

[golygu | golygu cod]

Mae'r enw'n awgrymiadol. Mae'n bosib y daw o enw'r cawr Cymreig Benlli Gawr y cyfeirir ato weithiau yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol a gan Nennius yn yr Historia Brittonum. Cyfeiria Cynddelw Brydydd Mawr (12g) at Fenlli Gawr yn ei farwnad i osgordd y Tywysog Madog ap Maredudd o Bowys.[5]

Delweddau

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. “Database of British and Irish hills”
  2. Coflein[dolen farw]
  3. Ellis Davies, Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire (1929).
  4. "Gweler gwefan siroedd cyfagos". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-31. Cyrchwyd 2008-12-07.
  5. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, 2 gyfrol (Cyfres Beirdd y Tywysogion, Caerdydd, 1991, 1995).

Dolennau allanol

[golygu | golygu cod]