Sgwrs:Moel Fenlli

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yr enw[golygu cod]

Moel Fenlli (heb ei dreiglo) faswn i'n ei roi'n deitl. Unrhyw wrthwynebiad? Llywelyn2000 09:05, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Dim yn arbennig. Mae 'na ddigon o engreifftiau o 'Foel hyn-a-hyn' lle mae'r treiglad yn dynodi mai 'Y Foel..' oedd y ffurf gysefin (e.e. Foel Fras yn y Carneddau; cymh. hefyd sawl 'Bontnewydd' etc.). Mae'n dibynnu i gryn raddau felly ar sut mae rhywun yn dehongli 'Fenlli', fel enw neu ansoddair. Ond os ydy pobl leol yn cyfeirio ato fel 'Moel Fenlli' mae hynny'n ddigon da i mi. Anatiomaros 16:54, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Yn hollol; y pwynt diwetha ydy'r pwynt pwysig, a Moel sy'n cael ei ddweud, nid Foel. Dwi'n byw dan ei chysgod ers 30 mlynedd. Yn sbio arni'n deffro'n y bora, a'r haul yn maldodi'i bronnau.... Llywelyn2000 22:11, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Moel Fenlli (a'i bronnau) pia hi felly! Anatiomaros 22:27, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]