Hen Ystog

Oddi ar Wicipedia
Hen Ystog
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.547206°N 3.053954°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO286948 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref yng nghymuned Yr Ystog, Powys, Cymru, yw Hen Ystog[1] (Saesneg: Old Churchstoke neu Old Church Stoke).[2]

Mae cofnod cyntaf y lle yn dyddio o ganol yr 16g. Mae'r pentref yn cynnwys sawl ffermdy ffrâm bren o'r 17g a'r 18g, yr hen Oak Inn o'r un cyfnod, a chapel Methodistaidd o'r 19g.[3]

Ar un adeg roedd ffynnon sanctaidd yn y pentref, a fyddai'n cael ei haddurno â blodau a brwyn.[4]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Hydref 2021
  3. "Nodweddion Tirwedd Hanesyddol: Bro Trefaldwyn: Yr Ystog", Gwefan Clwyd-Powys Archaeological Trust; adalwyd 21 Hydref 2021
  4. A. J. Bird, History on the Ground (Gwasg Prifysgol Cymru, 1977), t.90
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU