Aberffraw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: pt:Aberffraw
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B cat
Llinell 32: Llinell 32:
{{Trefi Môn}}
{{Trefi Môn}}


[[Categori:Tŷ Aberffraw]]
[[Categori:Pentrefi Môn]]
[[Categori:Pentrefi Môn]]
[[Categori:Cymunedau Môn]]
[[Categori:Cymunedau Môn]]

Fersiwn yn ôl 10:43, 9 Medi 2009

Aberffraw
Ynys Môn

Mae Aberffraw yn bentref ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, rhwng Rhosneigr a Llangadwaladr, yng ngogledd Cymru. Mae'n cymryd ei enw o Afon Ffraw. Yn Oes y Tywysogion Aberffraw oedd maenor cwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw. Ers cyfnod cynnar iawn roedd yn gartref i brif lys teyrnas Gwynedd, cartref traddodiadol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd.

Daearyddiaeth

Mae Afon Ffraw yn tarddu yn Llyn Coron, ryw filltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, ac yn rhedeg heibio i'r pentref lle mae pont un bwa a godwyd yn 1731 yn ei chroesi. Bellach mae pont ddiweddarach yn cludo'r A4080 dros yr afon. Mae'r pentref wedi'i leoli ar dir gwastad, tywodlyd braidd, ar lan ogleddol Afon Ffraw. I'r de o'r afon ceir Tywyn Aberffraw. Yr unig adeilad o ddiddordeb heddiw, ar wahân i'r hen bont, yw Eglwys Beuno.

Hanes a thraddodiad

Aberffraw o'r de

Yn Ail Gainc y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr, cynhelir priodas Branwen â Matholwch, brenin Iwerddon, yn Aberffraw.

Aberffraw oedd prif dref cantref Aberffraw a chwmwd Malltraeth. Er mae pentref cymharol fychan yw Aberffraw heddiw, roedd yn bwysig yn yr Oesoedd Canol fel safle prif lys teyrnas Gwynedd. Defnyddiai teyrn Gwynedd yr ystîl (teitl) Tywysog Aberffraw neu Arglwydd Aberffraw. Yr oedd Aberffraw (a Gwynedd) yn un o Dair Talaith Cymru, ynghyd â Mathrafal a Dinefwr.

Nid oes olion o'r llys i'w gweld heddiw. Cafodd ei dinistrio gan y Saeson yn 1283 a defnyddiwyd rhai o'r trawstiau mawr a'r cerrig at godi castell Caernarfon. Tybir y safai ger y bont ar Afon Ffraw, ar ochr y pentref i'r afon honno heddiw.

Eglwys Beuno

Mae tŵr yr eglwys hynafol hon yn dominyddu'r pentref. Fe'i cysegrir i Beuno Sant. Mae ei chynllun corff dwbl yn fwy cyffredin yn Nyffryn Clwyd nag ar yr ynys. Mae'r rhan ddeheuol yn Normanaidd ei phensaernïaeth ac yn dyddio o'r 12fed ganrif. Mae'r porth deheuol yn dyddio o'r 14eg ganrif. Ailadeiladwyd y corff gogleddol yn y 19eg ganrif ar seiliau o'r 16eg ganrif.

Y pentref heddiw

Heddiw, mae'n un o'r pentrefi ar Lwybr Arfordirol Ynys Mon. Yn ôl y gyfrifiad yn 2001, poblogaeth y pentref yw 599 gyda 79.8% a'r gallu i siarad cymraeg. Mae Traeth Mawr, neu Traeth Aberffraw, yn draeth llydan, tywodlyd a deniadol gyda golygfa dda dros Eryri.

Enwogion

Am y tywysogion a gysylltir ag Aberffraw, gweler Teyrnas Gwynedd.

Atyniadau eraill

Nepell o Aberffraw mae Barclodiad y Gawres, carnedd siambrog gyn-hanesyddol, ac Eglwys Sant Cwyfan ar Ynys Cribinau.