Sgwrs Defnyddiwr:Thaf

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Safle pêl-droedwyr[golygu cod]

Byddwn i'n dweud 'Ymosodowr' am Striker. Blaenwr am Forward (os ti'n hen? ;-))--Ben Bore 17:36, 31 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Ie, digon teg, sgin i ddim diddordeb yn y gêm fy hun, dim ond trio tacluso erthyglau pobl eraill! Doeddwn i methu ffeindio rhestr o'r safleoedd unrhywle yn Gymraeg felly dyfalu wnes i, fuaset ti'n fodlon eu ategu nhw at yr erthygl Pêl-droed? Yn ôl rhif y safle efallai? Diolch. Thaf 20:27, 31 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Wedi ychwanegu at yr erthygl Pêl-droed, ond heb ymhlaethu ar y safleoedd eto (byddai'n ei gysoni o gyda'r dudalen yma . Mae 4 prif safle sef Gôl-geidwad, Amddiffynwr, Canol Cae, Ymosodwr. Does dim hard and fast safle ar gyfer pob rhif, mae'n dibynu ar pa formation mae'r tîm yn chwarae (rhai timau'n chwarae â 5 amddifynnwr, eraill gyda 4 ayyb). Sdim lot o bwynt gofyn i ti be di dy farn am dactegau Toshack felly ;-)--Ben Bore 16:13, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Yyyyyyy... Nai sticio at seiclo dwi'n meddwl! Thaf 18:38, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Beicio[golygu cod]

Am wn i, beicio/beiciwr sy'n gywir yn y Gymraeg, nid seiclo/seiclwr. Gweld eich bod wedi ychwanegu sawl erthygl diddorol ar y pwnc, ga'i eu symyd nhw? Diolch, --Llygad Ebrill 09:09, 3 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Ma'er ddau derm yn dderbyniol yn y Gymraeg. Defnyddir 'seiclo' yn fwy aml ym myd rasio ac oherwydd hynnu dwi'n meddwl mai dyma beth ddyle gael ei ddefnyddio yn hytrach na 'beicio'.
Gweler 'Cyclist' yng ngeiriadur y BBC a cycle yng ngeiriadur prifysgol Llanbed
Yr eithriad ydy 'Beicio Mynydd' a 'Beicio BMX'. Thaf 09:18, 3 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Wedi edrych yn Ngeiriadur y Brifysgol a.y.y.b., derbyn fod y ddau yn gywir, er fod well gen i "beicio" gan ei fod yn deillio'n naturiol o'r gair "beic". Dwi ddim yn gweld angen dilyn patrwm y Saesneg o reidrwydd: a ddefnyddir y gair "seiclo" ei hun yn amlach ymysg Cymry sy'n rasio ar feiciau? Dengys google 71,600 o dudalennau gyda'r gair beicio, o gymharu a 25,700 gyda seiclo. Felly mae'r ddau yn gywir (gyda'r union un ystyr am wn i), ond fod beicio yn fwy cyffredin. Dwi ddim am symyd erthyglau, ond mi wnai rhoi tudalen ailgyfeirio o feicio i seiclo. Diolch, --Llygad Ebrill 09:53, 3 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Mae Welsh Cycling yn cyfieithu ei enw ei hun fel Beicio Cymru, ac mae prif dudalen chwaraeon y BBC yn cyfeirio ato fel beicio. Daffy 11:25, 3 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Neu yn hytrach mae'r cyfeithwyr yn cyfeirio at 'Cycling' fel 'Beicio'...
Fel 'seiclwraig' fy hun, mi fuaswn i'n dadlau mai 'seiclwr' bydd rhanfwyaf o'r 'seiclwyr' Cymreig yn galw eu hunain. Thaf 11:42, 3 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Ailgyfeirio[golygu cod]

Pnawn da, Thaf. Am ryw reswm dydi'r meddalwedd ddim yn derbyn #ail-gyfeirio nac #AIL-GYFEIRIO chwaith (hen broblem). Rhaid sgwennu #AIL-CYFEIRIO neu #REDIRECT neu fydd o ddim yn gweithio. Mae'r olaf yn gweithio ar bob un o'r wikipedias eraill yn ogystal. Hwyl, Anatiomaros 13:05, 19 Medi 2007 (UTC)[ateb]

OK diolch, doeddwn i methu dallt pam oedd o ddim yn gweithio! Wnai ddim cwyno am y diffyg treiglo, dwi'n siwr bydd eraill wedi gwneud sylwadau ac wedi hen laru ar hyn! :D Thaf 13:10, 19 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Mae'n debyg ein bod ni'n dau yn ehangu ar yr erthygl ar yr un pryd ond nid yw meddalwedd wiki'n hoffi hyn a ddim yn gadael ei mi arbed fy newidiadau. Dwi'n cymeryd mai ychwanegu Gwybodlen wyt ti. Pan rwyt wedi gorffen, efallai hoffet ddefnyddio gwybodaeth o yma i ehangu ychydig ar yr erthygl:
http://cy.wikipedia.org/wiki/Defnyddiwr:Ben_Bore/Mwng
Sori os dwi'n torri ar draws be ti'n wneud. Dwi'n hoffi mynd o gwmpas yn twtio ac ehangu ar erthyglau sy'n boboli'n barod yn hytrach na dechrau rhai newydd - gobeithio nad oes ots gyda ti.--Ben Bore 13:02, 21 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Ie, er dwi'm yn cael fawr o hwyl hefo'r gwybodlenni! Croeso i ti ymyrryd rwan, mi adawai llonydd tan fory. Dwi wedi creu Nodyn:Gwybodlen Albymau Casgliad a Nodyn:Gwybodlen Albymau Creda hi neu beidio mae gen i waith go iawn i wneud rwan!! Thaf 13:13, 21 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Dwi ddim llawer o giamstar ar Wybodlenni fy hun (er dwi wedi llwyddo rhywsut i greu un ar gyfer Clybiau Pêl-droed ac ar gyfer Labeli Recordio). Dwi'n meddwl y dylid cadw at gael y wybodlen ar yr ochr dde a nid llenwi'r dudalen cyfan (sori os mai dyna ti'n drio wneud beth bynnag!) hefyd dwi ddim yn meddwl bod eisiau rhestr caneuon yn y wybodlen. Dwi'n ceisio copio Gwybodlen Albwm o'r Wikipedia Saesneg, ond mae'n un reit cymleth a dwi'n cael dim lwc. Sdim rhaid iddo fod mor ffansi, ond dwi'n meddwl dylid cynnwys cymaint o faesydd a phosib. Efallai gallwn ddechrau gyda un plaen ac efallai hoffai rhywun arall ei smartio i fyny. Beth am drio cytuno ar pa faesydd i'w cynwys yn gynta? Liciwn i weld y canlynol:
  • Enw'r Albwm
  • Delwedd o'r clawr
  • Rhyddhawyd
  • Recordiwyd (pryd, enw stiwdio, lle)
  • Math
  • Hyd
  • Label
  • Cynhyrchydd
  • Gwobrau (er sgynaim mynedd gyda gwobrau, byddai'n dda cynnwys 'Gwobrau RAP' ayyb)
  • Adolygiadau (o wefan BBC efallai, neu o [blog|flogiau] Cymraeg hyd yn oed?)
  • Trefn Cronolegol (efallai nid ar y dechrau, ond hoffwn weld hwn fel yn yr un Saesneg yn y dyfodol os di rhywun yn dallt sut!)
Be ti'n feddwl?--Ben Bore 15:32, 21 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Hyn yn gwneud synnwyr. Ro'n i'n meddwl fod o'n twyllo braidd ond cael rhestr traciau ar yr erthyglau fel esgus creu mwy o erthyglau... Wrth greu'r wybodlen fel ti'n cynnig, dylid hyn atal erthyglau di-bwynt i rhyw raddau. Yr unig eithriad allai feddwl amdani yw Casgliadau megis Ap Elvis sydd â sawl artist yn cyfrannu. Mi wnes i gyfieithu'r wybodlen hon o'r Saesneg Nodyn:Gwybodlen_Seiclwyr a dwi'n hoffi'r ffordd mae'n defnyddio'r tag 'noinclude'. Mae'n achub yr erthyglau rhag cael llond tabl o feusydd gwag pan nad yw'r maes yn gymwys â'r albwm. Thaf 08:26, 22 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Dilwyn Miles[golygu cod]

Diolch am dy gyfraniadau gwerthfawr. Rwyn sylwi dy fod wedi rhoi Dilwyn Miles yng nghategori beirdd. Wn i ddim am unrhyw ddarn o farddoniaeth ganddo. mae'n wir yr oedd yn gwisgo'r wisg wen ond mae'n dipyn o ddirgelwch sut y daeth hynny i fod. Dyfrig 09:48, 20 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Wedi newid hwn i'r categori awdur am y tro. Gan ei fod wedi ysgrifennu cwpl o lyfrau. Thaf 13:13, 21 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Cowbois Rhos Botwnnog[golygu cod]

Newydd weld dy erthyglau newydd am fandiau Cymraeg. Ychwanegiad pwysig iawn i'r wicipedia. Sylwais fod ti di sillafu Botwnnog yn anghywir, mae dwy 'n' yn yr enw. Dwi wedi cywirio hyn o fewn yr erthygl, ond dwi ddim yn siwr sut mae newid teitl/cyfeiriad URL erthygl - wyt ti?--Ben Bore 12:17, 15 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Sori, on i'n meddwl fod na dwy 'n' mewn Botwnnog! Sgin i'm syniad pam sillafais i o fel 'na... Ma' pawb yn gwneud pethau dwl weithiau :D Thaf 14:02, 15 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Croeso![golygu cod]

Croeso! Deb 16:58, 10 Gorffennaf 2007 (UTC)[ateb]

Pentrefi Powys[golygu cod]

Fe welwch fy mod wedi tynnu'r dolenni coch i bentrefi ym Mhowys oddi ar Nodyn:Trefi Powys. Mae'n arfer gennym ychwanegu enwau i'r nodiadau sir wrth iddynt gael eu creu am fod cymaint o bentrefi bychain mewn rhai ardaloedd o Gymru. Gellid yn hawdd ychwanegu rhai dwsinau os nad ugeiniau i restr Powys, er enghraifft. Nid fi a greodd yr arfer, ond mae'n syniad da dwi'n meddwl am fod y dolenni coch yn edrych mor hyll a bod gennym ni fwy na digon ohonyn' nhw yn barod (!). Gobeithio eich bod yn cytuno ac yn maddau imi am wneud hynny. Cofion, Anatiomaros 21:50, 8 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Gweinyddwr[golygu cod]

Llongyfarchiadau! Deb 17:47, 24 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Treulio amser - gwario arian[golygu cod]

Sori, dwi'n gwisgo fy het pedantig heddiw. Newydd sylwi bod amryw o dy erthyglau diweddar yn cynnwys y frawddeg 'gwariodd e/hi X amser...' yn lle 'treulio'. Dwi wedi newid pob un dwi'n siwr ond meddwl bydde ti'n gwerthfawrogi fi'n dweud wrthyt.--Ben Bore 16:14, 10 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Just a question[golygu cod]

I'm sorry I don't speak Welsh but I'm Argentinian and the truth is that I don't even speak English very well. We're having a problem at Spanish Wikipedia with the etymology of the word "Dorset". The article says that it comes from two Welsh words: Dwrn, which means "fist", and gwarae, that means "play". We have no references for that information and naturally there're no many Welsh speakers at Spanish Wikipedia, that's why I ask you if "fist" and "play" are actually the real meanings of the words Dwrn and gwarae. As I don't have an account in Welsh Wikipedia, I'd be really pleased if you answered my question here below. Thank you very much. Please, write in English! :) --201.252.199.248 01:53, 12 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

That is not quite correct but there seems to be some element of truth in it.
See [1] - Dorset means 'Settlement of Dorchester'. Dorchester is a Roman town at Durnovaria (Durnovaria is a Brythonic (not Welsh) name meaning place with fist-sized pebbles) (OE Dorsæt)

Hope this helps. Thaf 21:57, 13 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffyrdd Prydain[golygu cod]

Wedi ymateb ar y dudalen sgwrs. Diolch --Llygad Ebrill 23:14, 13 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Thanks --194.176.105.39 10:49, 30 Ebrill 2008 (UTC) (On en: I'm User:Dweller)[ateb]

Thanks to unified login, I now have an account here. --Dweller 11:16, 30 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Electoral Constituencies[golygu cod]

Please note my comments on Sgwrs Defnyddiwr:Paul-L -- Maelor  18:37, 5 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Mark Robert Davey[golygu cod]

Hiya Thaf! Ynghlyn a "Mark Robert Davey". Mae rhai o gysylltiadau yn gweithio - rhai ddim. Mae rhaid i fi newid testun eto. Oce - mae Cymraeg yn well ar ol dy help, tacluso iaith, diolch yn fawr. Dwi ddim yn defnyddio Cymraeg yn aml yn y dyddiau 'ma mae arna i ofn.

Dwi ddim yn hoffi: Symudodd Davey o Loegr i Dalysarn yn Nyffryn Nantlle ac wedyn i Gricieth, gyda'i deulu pan oedd yn naw oed. Dysgodd Gymraeg fel plentyn ac mae'n siarad yr iaith yn rhugl erbyn hyn." o Loegr - mi oeddwn i dweud "i Dalysarn". Cartref Llys Maldwyn - dim yn byw; hefyn yn arddangos > hefyd!; yn Llyfrgell y Brifysgol a Sacsoni Isaf, Göttingen, Yr Almaen - dim Llyfrgell y Brifysgol Cymru. Cofion caredig - beiciwr ydw i hefyd! Minwel

Dim problem, gweld bod ti wedi cywiro hwn rwan, dwi wedi newid manion hefyd. Edrych yn well rwan. Diolch. Thaf 09:23, 8 Mai 2008 (UTC)[ateb]

'Rwyt ti'n garedig. Mae mwy anodd i fi oherwydd y Gymraeg. 'Rwy'n gwerthfawrogi dy help yn fawr - diolch yn dalpe. Efallai wyt ti'n gallu helpu fi eto gyda erthyglau newydd yn y dyfodol? Os 'rwy'n gallu helpu ti - jyst gofyn, iawn! Mae diwrnod braf yng Nghymru heddi. Hwyl, Minwel.

Gwydir/Gwydyr/Gwyder a'r Wynniaid[golygu cod]

Dwi'n siwr y byddit yn sylwi fy mod wedi ailgyfeirio Castell Gwydyr. Roedd 'na erthygl Castell Gwydir yn bod yn barod! Dwi wedi copio'r rhan fwyaf o'r deunydd o'th erthygl i'r un oedd yma yn barod. Dwi mewn penbleth am yr enw; ceir yr amrywiadau cyffredin Gwydir a Gwydyr (yn Gymraeg a Saesneg), ond mae John Davies (yn Hanes Cymru) ac ambell un arall yn Gymraeg yn benderfynol mai Gwyder yw'r ffurf gywir!

Gyda llaw, mae 'na dudalen ar y Syr John Wynn enwog, awdur History of the Gwydir Family, yma hefyd. Rhag ofn i'r un peth ddigwydd eto! Cofion, Anatiomaros 20:36, 12 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Wps! Diolch am bwyntio hynnu allan. Mi wnes i chwilio ond yn amlwg ddim yn ddigon manwl, a doedd dim dolen rhyngwici o'r Saesneg felly wnes i gymryd yn ganiataol nad oedd un yn bodoli. Thaf 08:25, 13 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Gwybodlen teledu[golygu cod]

{{Gwybodlen Teledu | enw'r_rhaglen = Sabrina, the Teenage Witch | delwedd = | pennawd = | genre = Comedi
Ffantasi | creawdwr = [[Nell Scovell] | serennu = Melissa Joan Hart
Nick Bakay
Beth Broderick
Caroline Rhea | gwlad = Yr Unol Daleithiau | iaith = Saesneg | nifer_y_cyfresi = 7 | nifer_y_penodau = 163 | amser_rhedeg = 22 munud | rhwydwaith = ABC
The WB | rhediad_cyntaf = 27 Medi 1996 - 24 Ebrill 2003 | gwefan = | rhif_imdb = | rhif_tv_com = |}}

Sorri, ond dw i'n methu ychwanegu'r gwybodlen 'ma

Na rhyfedd, dwi'n gweld beth ti'n feddwl, od bod y wybodlen yn dal i weithio 'mhobman arall. Mi gai olwg. Thaf 08:21, 16 Mai 2008 (UTC)[ateb]
Wedi ffeindio'r gwall - wnest ti anghofio rhoi dau gronfachau sgwar tu ôl i'r creawdwr! Pethau bach gwirion yn gwneud byd o wahaniaeth ac yn andros o frustrating... Thaf 08:27, 16 Mai 2008 (UTC)[ateb]

diolch[golygu cod]

Thanks for sorting out my inept attempt to update the John McCain article - getting in a muddle with verb tenses. Alan 09:47, 5 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Blocio defnyddiwyr[golygu cod]

Alla i'm dadlau ayn erbyn blocio IP 193.39.172.1 - efallai bydd y sawl sydd wedi bod yn defnyddio'r IP ar gyfer golygiadau adeiladol yn cael cyfrif o hyn ymlaen. Dychmygaf mai Llyfrgell cyhoeddus yng Ngwynedd ydy o.

Newydd sylwi ar ddarn o fandaliaeth gan IP 212.219.245.3 sydd wedi ei gofrestru â chyngor Ynys Môn. Dw i'n dyfalu, yn enwedig o natur yr erthyglau â fandaleiddwyd mae plentyn ysgol sydd wrthi. Dw i wedi hanner meddwl yn y gorffenol gysylltu a'r adran TG ac adran gwynion y cynghorau hyn, yn enwedig os yw iaith anweddus wedi cael ei ddefnyddio, gan y gallant efallai weithio allan pwy ddefnyddiodd y cyfrifiadur ar y pryd ac efallai byddent yn cael rhybudd neu eu gwahardd o'r cyfrifiadur hwnnw beth bynnag - fyddai hynny'n mynd rhy bell ti'n meddwl? --Ben Bore 13:47, 26 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Croeso i ti eu dadflocio nhw os mai dyna wyt ti'n teimlo yw'r syniad gorau, neu efallai atal golygiadau anhysbys yn unig? Bydd yr rhai sydd wir eisiau cyfrannu yn creu cyfrif dwi'n credu.
Ynglyn â'r plentyn ysgol, dwi'm meddwl ddylen ni falle rhoi rhybydd ac os yw'n parahau, wedyn cysylltu hefo rhywyn? Thaf 13:59, 26 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Wicipedia DU[golygu cod]

Wikimedians in the United Kingdom are working to set up a chapter of the Wikimedia Foundation, which will aid and encourage people to collect, develop and effectively disseminate knowledge. A board of five members has been elected, and a company has now been set up. Membership applications are now invited, and will be processed as soon as we have a bank account. The organisation needs the support and involvement of people like you.

So far, most participants have been based on English-language projects, but we want to ensure that we work with and for Wikimedians in all languages. As Wicipedia yn Gymraeg is an important language native to the UK, we are making contact with you.

We need to know what a new UK chapter can do to assist your project, and how we can best work together to make that happen. We are also looking for people who can translate short pieces of text, such as the first paragraph of this message, to help publicise the activities of the chapter.

Please do comment, make suggestions, and feel free to ask us any questions, whether here, on MetaWiki, or on the wikimedia-uk mailing list. AndrewRT 23:07, 1 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Dyddiadau geni a marw[golygu cod]

Sut mae, Thaf? Dwi'n sylwi, ar ôl golygu manion yn yr erthygl ar Gwynfor Evans rwan hyn, dy fod yn cael gwared o'r dolenni wici ar y dyddiadau geni a marw ar ddechrau erthyglau bywgraffyddol. Ga'i ofyn pam? Dyna sy gennym ni yn achos pob erthygl am bobl, h.y. dyna yw ein "trefn" (a threfn y wicipedia yn gyffredinol, dwi'n credu). Rydym ni'n ceisio cael rhai pethau yn unffurf, er mwyn diwyg ayyb, ac mae hyn yn un ohonyn nhw. Methu deall felly pam rwyt ti'n newid hyn. Oni bai dy fod yn mynd i geisio gwneud hynny yn achos pob erthygl (ac i be?) mae'n mynd i arwain at anghysondeb. Cofion cynnes, Anatiomaros 17:25, 5 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Sori, mae'r drefn wedi newid ar y Wici Saesneg, felly roeddwn i'n cymryd yn ganiataol dylai'r patrwm gael ei ddilyn. Dylwn i heb gymryd unrhywbeth yn ganiataol efallai, ond ar y llaw arall dwi'n meddwl bod angen rhyw fath o lawlyfr steil yma ynglyn a fformatio rhifau a dyddiadau. h.y. peidio defnyddio commas, defnyddio'r atalnodi cywir, rhoi bwlch ai peidio ayb. Thaf 16:07, 7 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Drwg gen i am fod mor hir cyn ymateb, Thaf, ond roeddwn i'n brysur dros y penwythnos. Dwi'n gweld pam rwyt ti wedi cychwyn ar hyn rwan, ond dydwi ddim yn meddwl bod llawer o bwynt yno fo chwaith. Yn un peth, oes rhaid i ni ddilyn trefn y wicipedia Saesneg? Mae ganddyn nhw eu rhesymau, mae'n siwr, ond mae ganddyn nhw rhai cannoedd o bobl sy'n gwneud fawr dim byd arall ond cadw trefn ar bethau fel hyn hefyd. Dydym ni ddim yn y sefyllfa yna, yn anffodus. Mae newid hyn yn golygu gwneud miloedd lawer o olygiadau (dim yn siwr faint yn union, ond yn sicr mae 'na sawl mil o erthyglau bywgraffydol). Oes 'na bwynt felly? Mae'n goblyn o lot o waith a buasai'n rheitiach treulio'r amser yn gwneud rhywbeth sy'n mynd i gyfrif yn y pen draw (a beth os ydy pobl y wici Saesneg yn newid eu meddwl eto - ydym ni yn fod i'w dilyn nhw unwaith yn rhagor?!). Tasa hyn yn rhywbeth hawdd i'w wneud basai'n un peth, ond dwi ddim yn gweld y pwynt o gwbl, a dweud y gwir. Cofion, Anatiomaros 20:53, 8 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
ON Oes, mae angen canllaw arddull arnom ni, dwi'n cytuno. Un arall i'w rhoi ar y rhestr o bethau i'w gwneud! Anatiomaros 21:03, 8 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Yn cytuno y byddai'n dda o beth cael canllaw ar fformatio dyddiadau ayb o hyn ymlaen, heb bod hynny'n gosod rheidrwydd i ni newid y dyddiadau sydd wedi eu hysgrifennu'n barod, nac ychwaith yn dy hadel (atal) rhag bwrw iddi a newid pethau i gydymffurfio a chanllaw o'r fath. Elli di drafftio canllaw ar dudalen sgwrs Sgwrs_Wicipedia:Arddull? Gelli roi neges ar y caffi yn cyfeirio at y drafft er mwyn ein hysbysu ei fod yn barod i'w drafod. Lloffiwr 13:05, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dwi wedi dechrau arni ond bras iawn ydi o. Fel mae rhai yma yn hoff o bwyntio allan, mae fy Nghymraeg i'n warthus felly mi adawai i rhywyn arall ei ysgrifennu'n llawn. Doedd gen i ddim bwriad mynd trwy pob erthygl i geisio cysoni, ond roeddwn am ysoni erthyglau roeddwn yn digwydd golygu wrth dacluso categorïau a mynd trwy'r rhestr "categorïau sydd eu hangen". Thaf 10:24, 10 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Diolch iti am ddrafftio canllaw ar hwn. Rwyf wedi mentro newid y dylid i argymhellir fel nad ydym yn creu rheol haearnaidd. Ysgrifennaf ragor pan gaf gyfle - ddim am sbel 'na'i ofon. Mwynhaeais fwrw golwg dros dy erthygl ar y llinell doriad hefyd - pwnc digon astrus yw hwnnw hefyd. Mae'n ddrwg gen i glywed bod rhywrai wedi bod yn beirniadu safon dy Gymraeg yn hallt - petawn i yn dy le aethwn i ati i ddarganfod gwallau yng Nghymraeg y rheiny wnaeth y sylwadau a'u cywiro! Lloffiwr 13:29, 10 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Wicipedia[golygu cod]

Sut mae, Thaf? Ga'i dynnu dy sylw at y nodyn yn y Caffi am ymateb Bwrdd yr Iaith i gais am gymorth? Hoffwn fedru anfon ein hymateb i'r cynnig i fod ar eu desg erbyn bore dydd Llun. Hwyl, Anatiomaros 18:18, 13 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Fandal Disney[golygu cod]

Sut mae, Thaf? Diolch am gywirio'r erthygl ar "Find[i]ng Nero". Un o driciau rhywun o UDA sy'n adnabyddus iawn ar en: fel 'y Fandal Disney' oedd y cyfranwr. Roedd hyn yn enghraifft gymharol ddiniwed mewn cymhariaeth â rhai o'i gastiau. Mae'n cael ei "kicks" allan o ddrysu golygwyr wici. Mae 'na ragor o fanylion ar dudalen sgwrs Alan. Byddwch yn wyliadwrus iawn o unrhyw gyfranwr diarth i erthyglau am ffilmiau animeiddiedig/Disney. Os ydy'r cyfeiriad IP yn un o Georgia UDA neu'r cyffiniau gallech fod yn sicr mai'r "Disney Vandal" sydd yma eto. Blociwch y d**l am byth os ydy o wedi creu cyfrif neu am 3-6 mis os yn gyfeiriad IP. Diolch, a chofion cynnes. Anatiomaros 14:56, 13 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n gweld mai "llun swyddogol yr ysgol, 1986" ydy un o'r ffynonellau a roddaist ti i'r erthygl. Ond mae bron yn amhosib i wirio ffynhonnell fel hyn (er nad wyf yn ei anghredu). Allet ti enwi'r llyfr, cylchgrawn, neu beth bynnag, lle gwelaist ti'r llun? Diolch. Alan 17:49, 16 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Fi sy'n berchen ar y llun! Thaf 09:09, 17 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Gaa bod manylion perchenog y llun i'w gael ar [dudalen y delwedd], oes angen rhoi "llun gan Eric.." o dan y delwedd yn yr erthygl?
Rydym ni'n siarad am luniau gwahanol! Am lun swyddogol yr ysgol, nid ffynhonnell "wiradwy" iawn ydy hi os ni chyhoeddwyd, ond dim ots efallai. Am y llun gan Eric Jones, rhaid dangos y briodoliaeth er mwyn ufuddhau telerau'r drwydded. Dwi'n tybio mai digon yw enwi'r ffotograffydd ar dudalen disgrifio'r llun yn hytrach na'r erthygl, ond nid cyfreithiwr ydw i... Alan 15:17, 17 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Erthyglau newydd[golygu cod]

Sut mae Thaf? Mae'n braf dy weld yn cyfrannu nifer o erthyglau eto, felly paid â chamddeall y pwynt dwi'n mynd i godi :-) Mae gennym ni 'gytundeb anysgrifenedig', fel petai, i adael y dewis o 'Erthyglau newydd' i Deb. Y rheswm dros hynny yw nad ydy ei Chymraeg yn ddigon da iddi gyfrannu erthyglau sylweddol (a fyddai'n cael eu dewis i fod ar y rhestr efallai) ac felly mae hi wastad yn dewis erthyglau gan bobl eraill; mae hyn yn ffordd i osgoi unrhyw ymrafael neu anghydfod ynglŷn â'r dewis a hefyd i osgoi sefyllfa gyda pawb yn ychwanegu erthyglau mae nhw newydd sgwennu at y rhestr yn ôl eu mympwy. Dwi'n meddwl fod hyn yn deg i bawb yn y pen draw ac yn ffordd hwylus i osgoi anhrefn (ydy, mae'n gallu bod yn siom i weld rhyw erthygl arall yn cael ei dewis yn lle'r un rwyt ti wedi treulio awr yn rhoi sglein arni, ond rhaid derbyn hynny weithiau). Gobeithio dy fod yn cytuno fod hynny'n gwneud synnwyr. Cofion gorau, Anatiomaros 15:29, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Diolch, wedi bod bach yn brysyr gyde bywyd 'go iawn' ond dwi'n ôl am y tro... Mae dy bwynt yn ddigon teg, doeddwn i heb sylwi mai hynnu oedd yr achos o'r blaen. Mi wnai adael iddo fod felly. Thaf 15:41, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Thaf. Braf dy gael yma eto a braf cael yr erthygl am Cwrtycadno hefyd - cyfle i mi sgwennu rhywbeth am y dyn rhyfeddol hwnnw, 'John Harries, Cwrtycadno'! Hwyl, Anatiomaros 15:50, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Translation request[golygu cod]

Please, could you translate the following article?

Joseph Smith, Jr. (December 23, 1805 – June 27, 1844) was the founder of the Latter Day Saint movement, also known as Mormonism, and an important religious and political figure during the 1830s and 1840s. In 1827, Smith began to gather a religious following after announcing that an angel had shown him a set of golden plates describing a visit of Jesus to the indigenous peoples of the Americas. In 1830, Smith published what he said was a translation of these plates as the Book of Mormon, and the same year he organized the Church of Christ.

Thanks for your help.

Chabi

The article Joseph Smith, Jr. has now been started. Thaf 08:20, 16 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
A lot of thanks for your help, feel free to ask me any translation request into Spanish, Catalan or Galician. Chabi.

Plaid newydd?[golygu cod]

Diolch am y nodiadau meta newydd, Thaf, ond rhaid i mi ofyn beth ydy Plaid Lloegr Newydd (h.y. yn Saesneg)? Methu cael hyd i unrhywbeth tebyg ar "en:". Cofion, Anatiomaros 22:13, 30 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

en:New England Party Thaf 22:23, 30 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Amlwg, dwi'n gwybod, ond am ryw reswm neu'i gilydd dydy o ddim yn troi i fyny yn y blwch chwilio o gwbl (newydd drio unwaith eto, gyda'r un canlyniad). Od iawn! Anatiomaros 22:28, 30 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Newydd weld dy fod wedi helpu gyda'r baneri[golygu cod]

Newydd weld i ti fy helpu y bore ma ar Rhestr gwledydd yn nhrefn CMC (PGP) y pen. Dwn i ddim sut y methais i ti! Mae'n rhai fy mod ar goll yn lân yn y gwaith! Mae pump neu chwech o faneri yn dal ar goll. Wyddost ti sut i'w llunio? Cymer gip ar fy nhudalen sgwrs. Diolch i ti eto. Llywelyn2000 12:32, 2 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Bois bach... buost brysur! Diolch i ti! xxx Llywelyn2000 20:59, 2 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Hen bryd![golygu cod]

Diolch am gychwyn ar y gwaith o greu'r categorîau ar gyfer cymunedau Ffrainc, Thaf. Roeddwn i wedi meddwl am wneud hyn fy hun rywbryd, ond mae'n lot o waith ac mae pethau eraill wastad yn galw am fy amser. Os wyt ti eisiau cymorth rho wybod imi (medraf greu y categorïau daearyddiaeth newydd, er enghraifft). Diolch i ti eto am hyn. Hwyl, Anatiomaros 14:56, 11 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Croeso, roeddwni'n meddwl basai'n well gwneud hyn rwan cyn bod cannoedd o erthyglau iw newid!! Roeddwn i'n credu bod pob rhanbarth yn haeddu categori daearyddiaeth gan eu bod nhw i gyd tua'r un maint a Chymru os nad yn fwy... Croeso i ti greu rhain. Thaf 14:59, 11 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Ia, mae hynny'n gwneud synnwyr. Dim angen system categorïau rhy gymhleth ond mae hynny'n swnio'n dda i mi. Dof yn ôl ar ôl cael panad a phicio i lawr i'r siop gornel (angen rhywbeth i de heno!). Anatiomaros 15:05, 11 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Dadwneud heb edrych . . .[golygu cod]

Diolch am ddileu'r fandaliaeth ar erthygl Yr Ods, ro'n i yn barod wedi dadwneud golygiadau rhyw defnyddiwr anhysbys a geisiodd wneud hyn, i fod yn onest oherwydd fe dybiais fod dilead o dalp mawr o destun yn "amlwg" yn fandaliaeth. Gwers wedi'i dysgu, felly! --Adam (Sgwrs) 02:16, 15 Medi 2009 (UTC)[ateb]

beicio[golygu cod]

Sut mae, Thaf. Rwyt ti'n dweud dy fod ti'n hoff o feicio. Allet ti wella'r adran Beic#Beicio yng Nghymru, sy'n hollol wael ar hyn o bryd? Diolch yn fawr. Alan 06:47, 11 Hydref 2009 (UTC)[ateb]

Diolch am hynny! Alan 13:04, 11 Hydref 2009 (UTC)[ateb]
Dim problem - mwy i ddod! Thaf 11:37, 12 Hydref 2009 (UTC)[ateb]

...was there again. I blocked them for a day as emergency action, but according to the block log, it might be worth looking at it again and maybe make it a longer block. Best regards, --Thogo 10:49, 20 Hydref 2009 (UTC) (sorry for writing in English)[ateb]

25,000fed erthygl[golygu cod]

Dwi'n credu taw Conservatoire de Paris yw'r 25,000fed erthygl, llongyfarchiadau iti am greu carreg filltir arall (Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 oedd y 20,000fed). :) --Adam (Sgwrs) 11:14, 28 Hydref 2009 (UTC)[ateb]

Duw, am gyd-ddigwyddiad bach neis! Thaf 11:22, 28 Hydref 2009 (UTC)[ateb]

Ysgol Gyfun Gwyr[golygu cod]

Esgusodwch fi syr. Dwi'n gweld eich bod chi'n dileu llawer o dudalennau drwg felly dwi'n tybio eich bod chi'n weinyddwr uwchradd fan hyn.

Mae rhywun wedi ychwanegu enwau o ddisgyblion at yr erthygl am Ysgol Gyfun Gŵyr. A fedrech chi ddileu'r hen fersiynau, sy'n cynnwys yr enwau, o'r dudalen "hanes", os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr am eich cymorth.

Y wiwer wen 13:56, 9 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Faswn i'n hapus iw wneud ond yn anffodus dwi'm yn meddwl fod hyn yn bosib. Beth am ehangu'r erthygl fesul tipyn fel bod y golygiadau'n diflannu oddiar waelod y rhestr hanes diweddar!? Thaf 14:01, 9 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi gweld hyn ar y seit Saesneg. Ydy o'n helpu?

MediaWiki currently provides no way for administrators to directly delete only selected revisions; the only way to accomplish this is to first delete the entire article and then to restore the revisions one does not want to see deleted.

Rhaid bod yn weinyddwr. Gyda gwregys du efallai. Y wiwer wen 14:13, 9 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Iesu! (sur :fr:)[golygu cod]

(fr)

Bonjour.

L’article Iesu! a été proposé à la suppression sur la wikipedia francophone. Je pensais à une promotion interwiki, en raison des dates de création identique et d’une création par une adresse IP, mais un utilisateur a très justement fait remarqué que tu étais à l’origine de l’article gallois.

Pourrais-tu venir donner ton avis s’il-te-plait ?

Merci d’avance. Nemoi s’est exprimé ici le 12:28, 16 Rhagfyr 2009 (UTC).

(en)

Hello.

The article "Iesu!" has been proposed for deletion on the french wikipedia.

Could you please come to help us ?

Thanks a lot. Nemoi has spoken here on 12:28, 16 Rhagfyr 2009 (UTC).

Achos ei bod yn Gymraeg, ynlle llydaweg, bydd heb ei thynnu. Bianchi-Bihan 17:43, 23 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Es i weld erthyglau Gwasg Gomer Ffrangeg hefyd. Bianchi-Bihan 19:00, 23 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Diolch. Bianchi-Bihan 17:34, 23 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Neges bwysig i bob gweinyddwr[golygu cod]

Yn dilyn trafodaeth yn y Caffi (gweler yma), mae Luke wedi creu tudalen newydd ar gyfer materion gweinyddol, sef Negesfwrdd gweinyddiaeth. Y syniad yw defnyddio'r Caffi ar gyfer negeseuon cyffredinol a defnyddio'r bwrdd newydd fel lle i drafod a datrys - gobeithio - materion fel nodiadau, categorïau, fandaliaeth a phethau eraill sy'n rhan o waith gweinyddwyr. Bydd yn gymorth i gadw trafodaethau gyda'i gilydd ac yn rhyddhau lle yn y Caffi. Hoffwn ofyn i bawb sy'n weinyddwr ei roi ar eu rhestr gwylio a'i ddefnyddio. Gobeithio bydd yr arbrawf yn llwyddiant ac yn gwneud ein gwaith yma yn haws. Anatiomaros 21:58, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Eurovision[golygu cod]

Diolch yn fawr iawn am eich gwaith ddiweddar ar fy nhudalen Eurovision! Dw i'n wir yn sorri am fy nghamgymeriadau - dw i'n dal dysgu'r iaith. Diolch eto! Ewrotrashfreak 16:18, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Paid a poeni, oleiaf ges i gyfle i dacluso'r wybodlen cyn i ti gopio fo dwsin o weithiau! Rho waedd os wyt ti eisiau help yn creu unrhyw wybodlenni eraill. Pob lwc yn creu gweddill yr erthyglau Eurovision, digon i gadw ti'n brysur! Thaf 16:46, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Hai eto, allwch edrych ar fy nodyn am Gân i Gymru os gwelwch yn dda? Os chi'n edrych ar Cân i Gymru 2009 gallwch gweld y problem ond allwn i ddim ei drwsio... Diolch! Ewrotrashfreak 20:48, 27 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Vandalism[golygu cod]

(Sorry for writing in English.) Please have an eye on 212.219.240.38, according to the block log they have a long history of misbehaviour on this project. Best regards, --Thogo 11:59, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Thank you. As it's an educational IP I placed a permanent block on anonymous edits but permitted them to create an account - so that anyone who really does want to participate can still do so. Let's hope that works! Thaf 12:14, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Block[golygu cod]

Please rangeblock 212.219.240.0/25 for persistent vandalism. IPs are 212.219.240.40 212.219.240.38 and 212.219.240.74. Pmlineditor 12:39, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Anyways, thanks. :) Pmlineditor 12:47, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
I have no idea how to do a rangeblock but I've blocked that one anyway, will try and keep an eye out!Thaf 12:48, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Thaf, doing a range block would just be a case of entering it exactly as shown above, i.e. "212.219.240.0/25". This will block everything in the range 212.219.240.0 to 212.219.240.127, i.e. 128 addresses. The larger the number after the "/", the fewer addresses are blocked. A "/32" is equivalent to blocking a single address; a "/31" would block 2 addresses, a "/30" would block 4 addresses, and so on in powers of 2 up to a "/16", which would block 65536 addresses. It is possible to specify network ranges that are even broader than this (even /0 which is the whole of IPv4 address space, effectively the whole internet), but Mediawiki is sensible enough to not support blocking anything broader than a /16.
It seems that the range 212.219.240.0 - 212.219.240.63 (i.e. 212.219.240.0/26) is registered to Rhondda Cynon Taff County Borough Council, and 212.219.240.64 - 212.219.240.127 (i.e. 212.219.240.64/26) is registered to Caerphilly County Borough Council. Given these separate registrations, I would be reluctant to block the /25 as a single range (well I'm not an admin anyway, but you know what I mean), although there may be separate cases for blocking each of the two constituent /26 sub-ranges, possibly with different durations. That said, Pmlineeditor has only quoted one address in the Caerphilly range, and I don't think a single address can justify a range block. The two addresses in the Rhondda Cynon Taf range possibly might justify one, but even in that case I think it's better to wait and see if any more addresses emerge. Luke 15:57, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

twitter - cycling[golygu cod]

Ha, stumbled on your twitter channel via this. Have you seen the lame govt response to that petition you linked? Pathetic civil servants. 2601 signatures, and that's the best they could come up with. I'd have signed it myself if I'd seen it in time. Luke 19:56, 17 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

ward/gward[golygu cod]

Ga i dynnu eich sylw at Sgwrs:Ysbyty Stoke Mandeville, os gwelwch yn dda. Diolch, Luke 23:17, 19 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Rhywbeth[golygu cod]

Sorry about that. The edit in question should drop off the bottom of the Newidiadau diweddar pretty soon anyway, as it gets filled up with the entertaining argument going on between certain other users. Grab some popcorn and take a ringside seat. - (That was a bit quick, a submission already. I thought it would have gone a few more rounds at least. I hadn't even finished my popcorn.)

Llunau[golygu cod]

Sut mae. Rydw i'n gweld rwyt ti wedi newid y geiriau fel "File" etc i eiriau Cymraeg. Ydy rhaid i mi ddefnyddio Cymraeg yn y "code"? Mae yn gweithio hefyd gyda'r Saesneg. Oes rhestr geirau Cymraeg mae'r wici yn deall gyda'r geiriau Saesneg? Os does dim rhestr, rydw i'n gallu copio tudalenau arall. Diolch. Dysgwr 09:02, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Does dim rhaid, ond gan fod y côd Cymraeg yn bodoli a wici Cymraeg yw hon, mae'n gwneud synnwyr eu defnyddio. Dwi ddim yn meddwl bod rhestr yn bodoli ond dwi'n siwr fase pawb yn gwerthfawrogi taset ti'n defnyddio'r Gymraeg pan mae'n bosib. Diolch am dy gyfraniadau! Thaf 09:04, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Rydw i wedi defnyddio Google Translate i helpu i i deall dy ateb. Rydw i'n deall mae'n dda i defnyddio Cymraeg yn y côd. Bydda i trio i ddefnyddio y geiriau Cymraeg amser nesaf. Heb rhestr, rydw i'n gallu gwneud yn unig pryd rydw i'n gweld enghraifftau arall. Dysgwr 09:31, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Blwch defnyddiwr[golygu cod]

Helo, s'mai? Dwi newydd greu blwch i'w ddefnyddio i ddweud bod rhywun yn weinyddwr. Defnyddia'r cod {{Defnyddiwr:Xxglennxx/Blychau/Gweinyddwr}} os hoffet ti :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:41, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Hi! Can you write article Sulechów at your wiki (translate this: [2])? If yes, please do it and answer on my user page at Polish Wikipedia. Thanks for help! 99kerob 15:31, 17 Medi 2010 (UTC)[ateb]

croeso yn ôl[golygu cod]

Helô Thaf - dyma yw enw defnyddiwr dwi wedi ei weld llawer o weithiau yn hanesion yr erthyglau - mae'n braf eich bod chi wedi dod nôl i gyfrannu eto. Peredur ap Rhodri 15:16, 18 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Ydy wir. Croeso cynnes iawn i ti. Llywelyn2000 21:38, 18 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Cân yr Alarch/William Owen[golygu cod]

Rhag ofn nad wyt yn cadw rhestr wylio: http://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs:C%C3%A2n_yr_Alarch

Delweddi diweddar[golygu cod]

Helo, Thaf, sut mae? Dwi wedi bod i ffwrdd i'r Steddfod am yr wythnos, felly dyma pam mae'r negeseuon yn hwyr; rydych wedi uwchlwytho'r ffeiliau canlynol sydd yn colli tag trwydded, sydd i gyd bellach ar gael: [[Delwedd:Team Sky.png]], [[Delwedd:Team Sky Jersey 2011.gif]], [[Delwedd:Maindy Stadium, Cardiff.jpg]], [[Delwedd:Charlie and the Chocolate Factory.jpg]], [[Delwedd:Charlie and the Great Glass Elevator.jpg]]. Os nad ydych yn darparu'r tagiau ymhen tri diwrnod, bydd yn rhaid iddynt gael eu dileu. Dwi wedi cael pîp cyflym ar erthyglau en sy'n cynnwys y delweddi dan sylw, ac mae ganddynt y tagiau perthnasol... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:52, 6 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Doeddwn i mthu gweithio allan pa/sut i osod y tagiau. Roedd y dudalen iw weld yn or-gymleth. Buaswn i'n gwerthfawrogi os baset i'n fodlon gosod y tagiau perthnasol yn hytrach na jest eu dileu nhw gan bo ti'n amlwg yn gwybod sut! Diolch. Thaf 10:55, 7 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Heia, Thaf. Dwi'n fodlon ei wneud y tro yma, ond mae'n rhaid i ddefnyddwyr ddechrau mynd ati eu hunain. Dwi'n siŵr y gallwch werthfawrogi hynny. Y ffordd haws i'w wneud ydy dilyn en. Er enghraifft, efo Delwedd:Team Sky.png, dwi'r siŵr y daeth hi o fan hyn. Yno mi gewch y tagiau hawlfraint a gwybodaeth angenrheidiol. Felly, arni hi mae angen Nodyn:Non-free logo. Af ati i wneud y gweddill, ond yr unig beth dwi wedi'i wneud ydy copïo a phastio o en :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 13:04, 7 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Dwi'n deallt, diolch. On i methu gweld modd o ategu hwn gan ddefnyddio'r drop down menu ac nid yw nodiadau o en yn gweithio fel rheol. O leiaf dwi'n gwybod rwan. Thaf 11:33, 10 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Dim problem :) Wrth ailwampio'r nodiadau a'r dudalen uwchlwytho, dwi wedi cadw'r un enwau ag en ar eu cyfer nhw, felly dylen nhw weithio ar ein wici ni hefyd drwy gopïo a phastio nhw o en i fan hyn :) Oes os problemau gennych o hyd, jyst gofynnwch :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:12, 10 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Seiclwyr[golygu cod]

Wedi bod yn chilio am erthyglau gyda "yn ddiweddar" neu "eleni" ynddynt. Mae ambell un yn yn ymwneud a seiclwyr, ac yn dyddio o 2007/2008 ac yn son am pa dim maen't (neu roeddynt!) yn seiclo drostynt. Dwn i'm os oes diddordeb gyda ti eu diweddaru. Fel arall, dw i'n meddwl mai dileu'r cyfeiriad at dimau presonl fyddai orau. Hyn yn berthnasol i erthyglau eraill fyd sy'n time sensitive.--Ben Bore 14:37, 20 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]

Pwynt da, diolch. Mi ai drwyddyn nhw pan fydd genai gyfle a'u diweddaru. Mi wnai osgoi defnyddio termau fel yna o hyn ymlaen. Llwyth mwy o erthyglau iw ysgrifennu am Cymry addawol cyn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau'r Byd! Thaf 15:02, 20 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]

Traciau Seiclo Nodedig[golygu cod]

Be wyt ti'n feddwl o'r syniad o greu erthyglau ar rai o'r traciau seiclo gore yma yng Nghymru - a thu hwnt? Meddwl oeddwn i am Lwybrau seiclo Llandegla, ond dw i'n siwr fod llawer mwy ledled Cymru? A beth am ddiagram tebyg i Nodyn Camlesi / Rheiffyrdd? Llywelyn2000 09:14, 3 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Annwyl uwchlwythwr: Mae manylion ar goll gyda'r ffeil yr uwchlwythoch (File:Logo Ysgol Gymraeg Treganna.png). Mae hi naill ai'n colli disgrifiad a/neu fanylion eraill, a/neu drwydded ar ei thudalen ddisgrifio. Os oes modd, ychwanegwch y wybodaeth hon. Bydd hwn yn cynorthwyo i olygyddion eraill wneud y defnydd gorau o'r ddelwedd, a bydd yn fwy addysgiadol i ddarllenwyr.

Os na roddir y wybodaeth, dilëir y ffeil ymhen tri diwrnod i'r dyddiad hwn, sy'n sefyllfa nad yw'n ddymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.

Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 14:50, 7 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Bravo[golygu cod]

Bonjour, je vois que vous parlez français, alors je me permets de vous parler dans ma langue. Depuis hier j'ai fait beaucoup de contributions sur ce wiki, et j'ai vu que vous aviez fait un gros travail sur le cyclisme et la France. C'est très agréable de voir un étranger s'intéresser à à mon pays et écrire des articles sur ce sujet sur Wikipédia. Et concernant le cyclisme, je suis aussi un passionné, et j'ai vu vos articles qui sont très bien sur des coureurs ou des courses (le critérium du Dauphiné est passé chez moi cette année !). Ça me fait vraiment plaisir ! Continuez comme ça ! Sebleouf (sgwrs) 19:14, 5 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Article translation/collaboration request[golygu cod]

Hi Thaf, how are you? Mate, I am trying to find an editor/s who can help by translating User:Russavia/Polandball into Welsh. I noticed that you have worked on articles such as Cambrian Airways, and I was wondering if we could make a trade?

If you could translate that article into Welsh for me, I would be happy to upload approximately 40-50 Welsh aviation photos to Commons from amongst the 200,000 I have permission to upload. I have uploaded a number of photos relating to Welsh aviation to give you a brief idea of what I can upload, and I am keeping a gallery at User:Russavia of photos uploaded.

Would you be interested in such a "trade"? Do let me know, either by responding here, or on my talk page, or by emailing me. Cheers, Russavia (sgwrs) 23:04, 14 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Y gwledydd yn y gemau Olympaidd[golygu cod]

Sut mae Thaf? Buost brysur iawn! Dw i wedi bod wrthi'n arbrofi efo newid Nodion er mwyn gwneud y gwaith yn haws (ee ailgyfeirio), OND gan nad ydy'r baneri Cymraeg wedi'u henwi gydag Rhif IOC, yna mae'n amhosib, dw i'n meddwl. Felly dw i wedi gwneud Bot Request iddyn nhw wneud o'n otomatig. Gobeithio fod hyn yn iawn ac y gwneith safio ychydig ar dy arddwrn! Dw i'n yr un twll efo'r erthygl ar y medalau. Y drafferth ydy eu bon nhw'n newid y golposts o hyd! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:08, 29 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

[[Categori:Eisteddfodau yn ôl lleoliad]][golygu cod]

Mae dy olygiad yma yn rhoi'r erthygl ar Eisteddfod yr Urdd 2012 yng nghanol rhestr hir o Eisteddfodau Cenedlaethol. Mae hyn yn wir am 2010, 2011 a 2012. Dw i'n meddwl fod y ddau gategori hyn:

  • [[Categori:Eisteddfodau yn ôl lleoliad]] a
  • [[Categori:Eisteddfodau yn ôl blwyddyn]] yn cyfeirio at yr Eisteddfod Genedlaethol, ac nid at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Mae croeso i ti ddechrau dau gategori newydd ar gyfer eisteddfodau'r Urdd, wrth gwrs:

  • [[Categori:Eisteddfodau'r Urdd yn ôl lleoliad]] a
  • [[Categori:Eisteddfodau'r Urdd yn ôl blwyddyn]]

Byddai hyn yn beth da a gwerth ei wneud, ond mi gymerith flynyddoedd! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:14, 16 Awst 2012 (UTC)[ateb]

Ydy, ond nid yw'r categorïau yn ol blwyddyn//lleoliad ar gyfer Eisteddfodau Cenedlaethol yn unig. Dim ond digwydd bod mai rhain yw'r rhan helaeth sydd â erthyglau. Dwi ddim yn credu ei fod yn werth creu categori arwahan heb fod llawer mwy, ond er mwyn gwahaniaethu mae'r teitlau'n ddigon amlwg wrth edrych yn y categori ta waeth. Thaf (sgwrs) 09:47, 17 Awst 2012 (UTC)[ateb]

Delwedd Myrddin ap Dafydd (ac eraill o bosib)[golygu cod]

Mae golygydd di enw newydd olygu erthygl Myrddin ap Dafydd drwy dynnu ei lun oddi yno gan nad oes manyliod hawlfriant ar y delwedd. Mae ryw reswm, tydy o/hi ddim wedi dileu'r ffeil delwedd ei hun. Sylwaf mai ti sy wedi ei uwchlwytho, ymhell yn ol yn 2007. Triais olygu ffeil y delwedd i weld os oes modd newid/ychwnaegu manylion or fath unwiath bod y llun wedi ei lwytho i fyny, ond dw i ddim yn meddwl bod. Mond eisiau rhoi gwybod i ti, rhag ofn i ti sylwi bod dy ddelweddau'n diflannu yn y dyfodol.--Ben Bore (sgwrs) 08:02, 5 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Nodyn Ethoiladau[golygu cod]

Mae'r graffiau yma'n gweithio, bellach. :-) Llywelyn2000 (sgwrs) 22:17, 4 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Sori am ddiflannu, ond diolch i ti am drwsio rhain! Thaf (sgwrs) 08:27, 8 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Logo Wici Cymru / Llwybrau Byw[golygu cod]

Haia Thaf. Dw i wedi trio creu logo i Wici Cymru yn fama ac mae angen un i Lwybrau Byw!. Tybed wnei di ddanfon ebost i mi, os oes gen ti ddiddordeb, i ni drafod y contract! Cofion, Robin. BOT-Twm Crys (sgwrs) 16:51, 2 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Uwchlwytho ffeiliau, Dewin Uwchlwytho?[golygu cod]

Wikimedia Commons logo

Hello! Sorry for writing in English. As you're an administrator here, please check the message I left on MediaWiki talk:Licenses and the village pump. Thanks, Nemo 19:22, 18 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Croeso'n ol![golygu cod]

Mor braf dy weld yn ol wedi seibiant bychan! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:38, 20 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Using Google Translate to translate articles of poor quality.[golygu cod]

I'm sorry for using Google Translate to translate articles of poor quality and why was I blocked 6 years ago; I was just creating some articles in both my user and article namespaces and translating them; what's wrong with that? -- PK2 (sgwrs) 07:25, 31 Hydref 2015 (UTC)[ateb]

Iarllaeth Penfro[golygu cod]

Mae na goblyn o waith cywiro hon. Dw i wedi bod wrthi dros y blynyddoedd, ond gan nad wyt wedi ei chywiro (er bod tag wedi bod arni ers blwyddyn) yna mi af ati i guddio llawer o'r rhannau gwallus, neu gychwyn eto. Unrhyw farn neu syniadau eraill am hyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 20:13, 29 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]

Iaics![golygu cod]

Iaics - ti di bod yn brysur ar Wicipedia! neis dy weld di'n ol! PS - wyt ti wedi gweld hwn? Wici Rhuthun 1 (sgwrs) 12:47, 13 Medi 2017 (UTC)[ateb]

Yn anffodus (neu'n ffodus, gan bod cymaint o waith mlaen gen i!) alla i ddim rhoi'r amser i olygu'n aml. Ond mi wnai botshian rŵan ac yn y man.

How we will see unregistered users[golygu cod]

Hi!

You get this message because you are an admin on a Wikimedia wiki.

When someone edits a Wikimedia wiki without being logged in today, we show their IP address. As you may already know, we will not be able to do this in the future. This is a decision by the Wikimedia Foundation Legal department, because norms and regulations for privacy online have changed.

Instead of the IP we will show a masked identity. You as an admin will still be able to access the IP. There will also be a new user right for those who need to see the full IPs of unregistered users to fight vandalism, harassment and spam without being admins. Patrollers will also see part of the IP even without this user right. We are also working on better tools to help.

If you have not seen it before, you can read more on Meta. If you want to make sure you don’t miss technical changes on the Wikimedia wikis, you can subscribe to the weekly technical newsletter.

We have two suggested ways this identity could work. We would appreciate your feedback on which way you think would work best for you and your wiki, now and in the future. You can let us know on the talk page. You can write in your language. The suggestions were posted in October and we will decide after 17 January.

Thank you. /Johan (WMF)

18:11, 4 Ionawr 2022 (UTC)

Heb olygu ers dros flwyddyn[golygu cod]

Haia Thaf! Gobeithio dy fod yn cadw'n iawn!

Dw i'n gweld nad wyt wedi cyfrannu i wici ers 23 Hydref 2020 a dim ond llond llaw o olygiadau ers 2017. Os nad wyt yn dymuno parhau fel Gweinyddwr, mi rown yr arswydus swydd i berson arall sy'n awyddus i gadw'r fandaliaid mewn trefn - ac mae llawer iawn o erthyglau sy'n ymylu ar fandaliaeth yn ein cyrraedd y dyddiau yma. Os na chlywaf mewn mis, mi wna i ddiddymu dy hawliau fel Gweinyddwr, fel sy'n cae; ei nodi yn ein polisi yn fama: Wicipedia:Gweinyddwyr. Gelli ailymuno a'r grwp Gweinyddwyr unrhyw dro y dymuni wneud hynny.

Cofion cynnes... Robin aka Llywelyn2000 (sgwrs) 06:07, 1 Mehefin 2022 (UTC)[ateb]