Sgwrs Wicipedia:Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia/trafodaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Byddai'n braf pe bai Dafyddt neu Alwyn yn arwain gyda'r prosiect yma; enw arall, sydd wedi bod yn hynod o brysur yn y cefn ydy Elen, Trefnydd yr Eisteddfod, gan iddi gynorthwyo i greu Prosiectau Wici Mon a Wici Caerdydd. Mae Dafydd Tudur o'r LlGC yn un arall gweithgar a dibynnol iawn a allai arwain ar hwn - ond dw i ddim yn siwr os yw'r naill neu'r llall yn golygu Wicipedia. Mi ddanfonai ebyst atyn nhw, rhag ofn. Felly hefyd Gareth Morlais, Llyw Cymru - lladmerydd arall dros gynnwys agored a chynyddu nifer yr erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg ers blynyddoedd; ond efallai'n well ar gyrion y grwp am resymau amlwg.

Mae na dri sy'n derbyn cyflog am hyrwyddo prosiectau Cymraeg Wicimedia: Jason (LlGC), Aaron (WiciMon) a finna; dw i'n meddwl y byddai'n gryfach pe NA baem ni'n tri yn arwain ar hwn, ond yn hytrach yn gwneud y gwaith caib a rhaw. Cynigiwch i'ch hunain, bobl! ON Dw i wedi cael gair efo John Jones am hyn, a'r cais a roddodd ychydig funudau yn ol, ond fedr e ddim rhoi ei enw ar y ddogfen am resymau personol.

Lle mae yr hen 'Wici Cymru' a fu wrthi tan rhyw ddwy flynedd yn ol yn ffitio i mewn i hyn? Gan nad ydyn nhw / ni heb gyfarfod ers hynny, dydyn nhw ddim yn bodoli bellach (er bod unigolion yn cyfrannu ar adegau). Felly gallem ddefnyddio'r enw fel ail enw.

Lle mae Wikimedia UK yn ffitio i mewn efo hyn? Fy marn i ydy y dylai unrhyw waith yng Nghymru gael ei wneud dan ein baner ni ein hunain, dan faner 'Wicimedia Cymru'. Mi fyddaf i'n dal i weithio i Wikimedia UK fel Rheolwr, ond yn gyswllt rhwng y ddau gorff, yn gwisgo dwy het ar adegau, gan mai yr un yw'n hamcanion. Grwp Defnyddwyr fyddwn ni, ac felly ni fyddem yn derbyn nawdd, ond bydd yr arian a roddir i Gymru'n parhau i gael ei roi drwy Wikimedia UK.

Mae na lawer o brosiectau ar fin cael eu creu, a mi allaf weld y rhain yn dod o dan Wicimedia Cymru yn hytrach nag o dan Wikimedia UK: carwn farn y Llyfrgell Genedlaethol am hyn, felly hefyd Wici Mon, prosiect posib WiciCaerdydd a'r Eisteddfod. Mae na dau neu dri o brosiectau eraill ar fin cael eu creu a charwn weld y rhain hefyd dan faner Wicimedia Cymru.

Syniadau a beirniadaeth adeiladol plis! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:31, 15 Awst 2017 (UTC)[ateb]

Bodlon i arwain / cyd arwain. Gan fod y Cynulliad wedi bod yn hael ei gefnogaeth i rai o'n prosiectau oes modd crybwyll National Assembly of Wales a neu Government of Wales yn y cais? AlwynapHuw (sgwrs) 07:49, 16 Awst 2017 (UTC)[ateb]
Cytuno! Angen symud ymlaen efo hwn - neu a yw pawb ar eu gwyliau?!! Sian EJ (sgwrs) 11:38, 29 Awst 2017 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw, Jason.nlw, Lesbardd, John Jones, Oergell, Cymrodor, Deb:
@Prosiect Wici Mon, Adam, Stefanik, Dafyddt, Pwyll, Sian EJ, Jac-y-do:
@Duncan Brown, Deri Tomos, Ciwcymbr, Craigysgafn, Llywelyn2000: - dim ond Alwyn sydd wedi cynnig ei hun. Mae'n RHAID cael dau o leiaf! neu mi fyddwn yn tin-ymdroi yn niwl y ddegawd nesa! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:34, 30 Awst 2017 (UTC).[ateb]

O'n i'n meddwl mod i wedi cynnig fy hun yn rhywle, ond yn ofalus - faint o waith ydi'o! Ni fedraf ond parhau efo'r prosiect amgylcheddol - os ydy hynny'n ffitio efo'ch planiau. Duncan

Diolch am fy nghynnwys yn y rhestr hon, ond alla i ddim ymrwymo i swydd o'r fath ar hyn o bryd, yn anffodus.--Craigysgafn (sgwrs) 09:23, 30 Awst 2017 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr am fy nghynnwys ar y rhestr. Fe fyddwn i'n hapus iawn i gael fy ystyried i arwain. Dwi'n golygu yn achlysurol, ac, fel mae Llywelyn2000 yn ei nodi, yn gysylltiedig efo'r gwaith yn LlGCymru (mwy am fy nghefndir yn fy mhroffil). --PelaDiTo (sgwrs) 13:06, 7 Medi 2017 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr am fy nghynnwys ar y rhestr. Ymddiheuraf am beidio cynnig fy amser i (gyd-)arwain. Ond os oes angen cynigiwr ffurfiol arall er mwyn symud ymlaen, rwy’n fodlon gwneud hynny. --Deri (sgwrs) 12:01, 15 Medi 2017 (UTC)[ateb]

Oes wir angen/rhaid cael enw/cyfieithiad Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg? Cymrodor (sgwrs)

Dw i 'di ychwanegu 'Anffurfiol' ar ei ol - dim ond at ddefnydd y cais mae hwn, mewn gwirionedd, gan mai cais rhyngwladol ydy o.

Amcanion[golygu cod]

Cytuno ond yn cynnig newid "and in increasing the number of Welsh speakers" i "and increasing content and opportunities to use the Welsh language online and in technology". Mae hyn yn adlewyrchu yr hyn mae'n realistig i Wici Cymru ei gyflawni yn uniongyrchol. --Cymrodor (sgwrs) 09:44, 31 Awst 2017 (UTC)[ateb]

@Cymrodor: M. Roedd ychydig yn amwys, dw i'n cytuno. Sut mae'n edrych rwan? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:50, 8 Medi 2017 (UTC)[ateb]

Derbyn cadarnhad[golygu cod]

Derbyniwyd cadarnhad gan Wikimedia i'n cais fod yn llwyddiannus; rhaid i ddau berson rwan gofrestru / cyhoeddi'r manylion. @PelaDiTo, AlwynapHuw:. Diolch i bawb! Rwan mae'r gwaith yn dechra! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:44, 20 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000, PelaDiTo: Wedi edrych ar y ffurflen ac wedi ail-lenwi'r bylchau efo'r wybodaeth oedd yn y cais gwreiddiol. Ansicr o'r ateb i'r cwestiwn Please provide a link to your group's wiki page (oes tudalen o'r fath yn bodoli neu oes raid ei greu?). A hefyd y cwestiwn Please provide the name, email address, and Wikimedia user name for three group leaders dim yn gwybod cyfeiriadu e-bost y ddau arall AlwynapHuw (sgwrs) 04:38, 24 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]
@PelaDiTo, AlwynapHuw: Diolch Alwyn! Rhoddwyd copi o'r ddalen hon ar Meta yn fama. Cofia ychwanegu'r enw Cymraeg. Mi ddanfonaf ebyst y ddau arall ar ebost wici i ti. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:56, 24 Chwefror 2018 (UTC)[ateb]