Sgwrs Defnyddiwr:Deri Tomos

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
  Croeso!  

Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddionadur rhydd yn Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth am gyfrannu at Wicipedia, cewch ddechrau gan ymweld â'r tudalennau cymorth canlynol:
Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid a/neu Wicipedia:Cymorth. Croeso i chi ofyn cwestiynau yn y Caffi hefyd.

Fe obeithiwn ni y byddwch chi'n mwynhau cyfrannu yma.

Welcome. You can also ask questions in English in the café.

Cofion cynnes, Rhys Thomas 18:43, 26 Mawrth 2009 (UTC) Just un cwestiwn. Cwestiwn pwy yr ydych yn ateb yn y pwll tywyod? Pwrpas y pwll tywod yw i wneud golygiadau ar gyfer ymarfer- mae'r caffi a tudalenau sgyrsiau ar gyfer siarad a phobl. Os oes angen cymorth arnoch- just gofynwch :). Rhys Thomas 18:43, 26 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Cwestiwn da ! Neb, am a wn i. Roeddwn yn meddwl fy mod yn ymarfer yn y pwll tywod. Oes angen clirio ar ol gorffen ? Dim ond dechrau hunan-ddysgu ydw'i. Nid oeddwn yn disgwyl fod cymorth i'w gael, i ddweud y gwir. Buaswn yn dra diolchgar amdano, felly. Sut mae gofyn ? Fe'm synnwyd hefyd ar ba mor gyflym y sylweddolwyd fy mod wedi cywiro sillafu (un llythyren !) ar safle "Prion" - enw sydd wedi fy nghoglys ers blynyddoedd. (Wrth fentro i fyd cyhoeddus y Wici, dau beth sy'n fy mhoeni. Y gyntaf yw fy mod yn ansicr o'm sillafu a chystrawen (er waethaf CySyll). Yn ffodus mae gennyf gymorth profesiynol yn hyn o beth. Yn ail, ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, mae unffurfiaeth gystrawen a sillafu mor bwysig (llawn cymaint â defnydd termau, yn fy marn i). Er nad wyf yn athro ysgol, mi geisiaf ddefnyddio sillafu CBAC cyn belled ag y medraf ddod o hyd i engreifftiau. Megys, "Protein".) Deri Tomos
Helo Deri a chroeso! Dim ond nodyn cyflym i ddweud i beidio poeni'n ormodol am wallau sillafu a chystrawennau. Mae digon o bobl yma sy'n gallu golygu a chywiro erthyglau os oes angen. O ran termau gwyddonol a thechnolegol, dw i'n dueddol o ddefnyddio geiriadur Bruce Griffiths (neu'r Beibl, fel fydda i'n ei alw'n amlach na pheidio!) Os alla i fod o unrhyw gymorth pellach, jest gadewch neges ar fy nhudalen sgwrs. Hwyl am y tro, Rhodri77 09:37, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
O ie... Os oes angen gofyn cwestiwn arnoch, y lle gorau i wneud hynny yw yn y Caffi, a bydd rhywun yn siwr o'i ateb yn fuan. Rhodri77 09:38, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]


I ateb rhai o'ch cwestiynnau, fel mae Rhodri'n dweud, Y Caffi (yn y dewislen chwith yn y blwch 'panell llywio') ydy'r lle gorau i ofyn cwestiwn, neu ar dudalen sgwrs rhai o'r golygwyr (defnyddiwyr) profiadol.

Mae'n swnio'n spooky, ond mae defnyddwiyr eraill yn sylwi pan rydych mae unrhyw un yn golygu erthygl neu'n creu un newydd drwy glicio ar newidiadau diweddar, eto yn y panel llywio. Mae modd hefyd dewis 'gwylio' ethyglau penodol i weld pan gant eu golygu eto (unai drwy glicio 'gwylio' yn y tab ar ben erthygl, neu drwy newid 'fy newisiadau' yn y ronel dde uchaf fel bod pob erthygl rydych yn ei olygu yn cael u hychwanegu ar eich 'rhestr gwylio' yn awtomatig). Efallai nad ydy hyn o gymaint o ddiddordeb i chi ar hyn o bryd, ond mae'n ddefnyddiol i weinyddwyr a all prawfddarllen newidiadau ac edrych allan am fandaliaeth.

O ran eich Cymraeg, gall neb ond gwnuud eu gorau ac fe all eraill gywiro unrhyw beth amlwg - dyna gryfder wiki.

Yn olaf, pan ydych yn gadael sylw ar dudalen sgwrs neu yn y caffi, cofiwch arwyddo eich neges/sylw drwy deipio --~~~~ neu dim ond clicio ar (uwch ben y blwch teipio) ar ddiweddd eich neges (sy'n creu dolen las fel a ganlyn:).--Ben Bore 12:38, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Croeso! Glanhawr 13:14, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Unwaith eto, diolch am y sylwadau. Roeddwn wedi ceisio dyfalu (yn aflwydiannus) sut i osod llofnod. Nawr rwy'n gwybod. --Deri 15:18, 31 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

cyfeiriadau a hyperddoleni[golygu cod]

Does dim llawer o etiquette ar dudalennau sgwrs, ond petai chi'n cychwyn pwnc/codi cwestiwn o'r newydd, byddai'n well dechrau edefyn newydd ar waelod y dudalen o dan bennawd newydd - rhag ofn i rhwyun fethu rhywbeth newydd (ond roedd yn iawn ble roedd yn achos eich neges chi). Efallai bod chi wedi dallt hyn yn barod drwy help eraill, ond tric da i ddysgu sut (a weithiau pam) y gwaneth rhywun olygiad yw drwy edrych ar 'hanes' erthygl a chymharu'r golygiad diwethaf gyda fersiwn blaenorol, ac yna cymharu'r côd e.e. erthygl Dŵr. Gobeithio eich bod yn cael blas go iawn arni. --Ben Bore 15:13, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
O.N. Galwch fi (ac eraill yma) yn ti, nid chi os ydych yn gyfforddus a bod yn anffurfiol a dieithriaid :-) --Ben Bore 15:13, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Cymorth[golygu cod]

Help ! Mae'n oesoedd ers imi wneud rhywbeth sylweddol yma. Mae dosbarth tiwtorial imi wedi paratoi defynydd ar gyfer "Ribosom". Sut mae gosod defnydd heb ei orffen ar Wicipedia - cyn ei fireinio a'i rhyddhau ? Mae gen i atgof am y pwll tywod - ond dim atgof am sut i'w ddefnyddio. Deri Tomos

@Deri Tomos: - Smai Deri? Pastia fo yn dy barth di dy hun e.e. Defnyddiwr:Deri Tomos/pwll tywod neu urhyw dudalennau'n cychwyn gyda dy barthenw di ee Defnyddiwr:Deri Tomos/Ribosom. Gad neges ar fy nhudalen Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000, os wyt angen rhagor o gymorth. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:37, 25 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]

Esgusodwch fy anwybodaeth, ond oes gwahaniaeth rhwng yr erthygl hon:Bas (cemeg) a'r erthygl greoch chi:Bas? Os oes, bydd rhaid newid teitl yr ail un i ddangos y gwahaniaeth. Os nad oes, oes modd i chi eu cyfuno? (Byddwn i'n gwneud, ond nid gwyddonydd ydw i!) Diolch Llusiduonbach (sgwrs) 19:52, 16 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

Mea culpa. Mi ddefnyddiais proto-linciau (coch) a oedd yn bodoli eisioes i greu'r tudalen "Bas". Nid oeddwn wedi sylwi ar Bas (cemeg). Yn ddelfrydol byddai'n well dileu "Bas" - mi 'rydwy'n cofio'n fras y 3-4 linc y creais yr wythnos o'r blaen ac mae modd eu hail gyfeirio. Rwy'n cytuno mai'r tudalen "Bas (cemeg)" yw'r gorau i'w gadw. Nid wyf eto wedi dysgu'r technegau ail drefnu tudalennau, felly, os fedri symud yr holl gynnwys o "Bas" i "Bas (cemeg)" mi fyddai hynny'n ardderchog. Na'i edrych ar y cyfuniad i sicrhau fod y ddwy yn cydweddi. Ar ben hyn oll, nid wyf eto'n deall yn iawn sut i ychwanegu at "sgyrsiau". Os wyt yn darllen hwn, o leiaf mi fyddaf wedi dysgu rhywbeth ! (Maddeu'r oedi; rwyf wedi bod allan o'r wlad am y rhan fwyaf o'r pythefnos diwethaf.) Llusiduonbach (sgwrs) Hwyl a diolch, --Deri (sgwrs) 11:02, 30 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]
Rwy'n gweld eich bod chi wedi cael cyfle i'w cyfuno. Gwych a diolch! Llusiduonbach (sgwrs) 22:11, 1 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
@Llusiduonbach:Do, diolch. Mi fentrais arni. Ond nid oeddwn yn gwybod sut i ddileu tudalen "Bas" yn llwyr. Deallaf mai ail gyfeirio yn hytrach na dileu yw'r arfer (call), ond yn yr achlysur yma, go brin, bod neb wedi cyfeirio at y tudalen yn y cyfamser. Efallai byddai'n well ei ddileu i dwtio pethau. A oes modd ichwi wneud hynny ?(sgwrs) --Deri (sgwrs) 08:18, 4 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Wedi creu tudalen wahaniaethau ta beth, a fydd, yn y pen draw, yn edrych yn debyg i'r un Saesneg gobeithio. Llusiduonbach (sgwrs) 09:16, 4 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
@Llusiduonbach: Diolch o galon. --Deri (sgwrs) 10:47, 4 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Diolch![golygu cod]

Ga i jyst dweud ei bod hi'n braf gweld yr erthyglau gwyddonol yn cael eu gwella a'u hehangu fel hyn. Hen bryd, myn brain i! Diolch yn fawr iawn Deri a'r myfyrwyr fu wrthi hefyd. Mae'r ochr hanes yn bur dda, a'r Gymraeg hithau, ond neno'r Tad mae na dwll mawr ar yr ochr gwyddonol - ac mae'n brysur cael ei lenwi! Diolch Deri. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:26, 30 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

@John Jones: Diolch i chi. Da gwybod fod Deyrnladdwr yn ymddiddori mewn Cemeg. Cofiwch fi at Olifer. Roedd fy nghyfarwyddwr PhD, am gyfnod, yn gyfrifol am ei ben. (sgwrs) (Rwy'n ymddeol eleni, ac yn gobeithio cael mwy o amser i Ymwicipedio.) --Deri (sgwrs) 15:12, 30 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]
Deri! Fasech chi'n cymryd cip sydyn ar Ddifodiannau Mawr Bywyd os gwelwch yn dda? O en-wici y daeth, ond byddai cysondeb o ran termau'n beth da, wrth gwrs! Fe'i cenhedlwyd gen i o ddolen goch y eich tudalen Cretasaidd: mi fydda i'n dilyn arferion da Defnyddiwr:Llywelyn2000 fel arfer, ac un o'i bregethau mwyaf ydy na ddylid cael gormod o ddolenni cochion ar y ddalen! Diolch chofion anwylaf! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:48, 12 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
@John Jones: Ardderchog. Mae'n arweiniad caboledig iawn i'r pwnc. (Un peth bach iawn, yn yr ail ffigwr mi deimlaf mai genws sydd ei angen (dwywaith) yn lle genera. Ond nid wyf eto wedi dysgu sut i olygu arysgrifau ar ddiagramau). Diolch am y cyngor am y "coch". Roeddwn wedi hanner sylweddoli hynny wrth ail gydio yn y pethau yma gyda'm myfyrwyr yn ystod y tymor diwethaf. (Roeddwn hefyd yn araf i sylweddoli mai nad yr un geiriad oedd pob tro i'r darpar dudalennau a'r cyfeiriad coch.) Hanner yr hwyl yw sicrhau fod rhywbeth digonol i'w ddweud ar gyfer pob linc, ac mi geisiais fod yn fwy darbodus wedyn. Deallaf yn awr yr holl syniad o "prosiect" yn lle ychwanegu deunydd ar hap. (Yr wythnos hon bum wrthi'n paratoi tudalennau ar ddau wyddonydd Cymraeg a fu farw yn ystod y flwyddyn (ac y byddaf yn eu cofio mewn cyfarfod yn yr Eisteddfod). Rwy'n sylweddoli'n syth pa mor bwysig yw'r cyd-destun "Wicipedia" ac wedi penderfynu gosod hwn yn dasg i mi fy hun.
Mi 'roeddwn yn ymwybodol fy mod wedi esgeuluso Ddifodiannau Mawr Bywyd ond, gan ei fod yn bwnc eang (ychydig allan o'm maes arbenigol), y byswn yn ei nodi a'i adael i eraill. Mae'n faes gyda nifer o arbenigwyr Cymraeg yn ymwneud a hi. Mae'r hyn yr ydych wedi'i osod yn gyfaddawd ardderchog. Diolch. --Deri (sgwrs) 08:20, 13 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Dyma faes y frwydr heddiw, mi gredaf! Wicipedia Cymraeg. Falch gweld fod y cadfridog ei hun yn arwain! Mi newidiai'r lluosog 'genera' i 'genws' mewn chwap - ac unrhyw betha arall os gweli nam (mae gen i ddigon o'r rheiny!). Mi fydda i'n meddwl weithiau nad yr awdur yw'r person gorau i weld ei gangymeriadau ei hun! Diolch! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:34, 14 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
@John Jones:Mae Llywelyn yn wir wrth y llyw ! --Deri (sgwrs) 11:09, 14 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

@Dafyddt: Cyfarchion o'r gogledd a diolch. Rwy'n ceisio dysgu wrth weld y Tylwyth Teg yn mireinio'n cyfraniadau diweddar. Gweld dy waith ar ISBNau R. Elwyn Hughes (gwyddonydd). 'Dyw e' ddim yn ymddangos fod y linciau rhifau yn gweithio. A'i fi sydd wedi gosod y rhifau anghywir, neu a oes broblem arall ? --Deri (sgwrs) 08:31, 14 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Rhyfedd; mae'r un broblem ar en-wici - dyw'r chwiliad ddim yn mynd ymlaen i dudalen arall; mae'n rhaid fod rhyw syrfyr i lawr. Mi adawa i neges yn Meta. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:06, 14 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Diddorol, a diolch. --Deri (sgwrs) 09:09, 14 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]
Newydd adael neges yn fama ar Meta, gan mod i'n gyndyn o wneud dim gyda enwiki. Mae hyn fel sgota a chawn weld os cawn fachiad! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:12, 14 Gorffennaf 2016 (UTC)[ateb]

Share your experience and feedback as a Wikimedian in this global survey[golygu cod]

  1. This survey is primarily meant to get feedback on the Wikimedia Foundation's current work, not long-term strategy.
  2. Legal stuff: No purchase necessary. Must be the age of majority to participate. Sponsored by the Wikimedia Foundation located at 149 New Montgomery, San Francisco, CA, USA, 94105. Ends January 31, 2017. Void where prohibited. Click here for contest rules.

Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia survey[golygu cod]

(Sorry to write in English)

Ail ddefnyddio cyfeiriad "ref" o du fewn i "Chembox" a blychau tebyg ?[golygu cod]

Cyfeillion. All rhywun fy nghynorthwyo ? Rwyf newydd ddechrau defnyddio "Chembox" - ar ôl ddarganfod ei ddoniau gwyrthiol o drosi o'r Saesneg i'r Gymraeg. Hoffwn holi am ddau fanylyn. Yn gyntaf a oes rhaid cael "Nodyn:Chembox SystematicName" mewn coch ar ben y tudalen ? Yn ail (er fy mod yn amau fod y ddau gwestiwn ynghlwm a'i gilydd), mae Chembox yn cynnwys "ref" (rwy’n meddwl fod hwn oherwydd y "systematic name" y cyfeiriwyd ati eisioes). Er bod y cyfeiriad hwn yn ymddangos yn y rhestr cyfeiriadau, nid oes modd ei ail ddefnyddio (nid yw'n ymddangos yn y dewisiadau). Ar dudalen Ffosffad, er enghraifft, ymddangosodd yr ail gyfeiriad fel dewis [1]. Rwyf wedi ail gyfeirio at yr un ffynhonnell - ond mae hwn yn edrych yn drwsgl. A oes ateb ? (Rwy'r hefyd wedi gosod "eicon en" o fewn y Chembox - ydy hwn yn debygol o greu anhawster ? Mae'n gweithio yn iawn wrth osod Saesneg o flaen y cyfeiriad yn y rhestr.)

Cwestiwn cyffredinol arall am Sgwrsio. Sut mae cyfeirio at nodau/symbolau rheoli (megis y ddau fraced troellog ar "Chembox" ag "eicon", a'r saethau o amgylch "ref") wrth sgwrsio - a fyddant yn cawlio'r testun wrth eu defnyddio ? --Deri (sgwrs) 09:04, 26 Ebrill 2017 (UTC)[ateb]

Hylo Deri. Mae nifer o nodiadau yn llwytho nodiadau eraill i fewn felly mae angen eu creu nhw hefyd. Ar y dudalen olygu, ar y gwaelod mae'r adran "Defnyddir y nodiadau hyn yn y dudalen hon" yn dangos pa nodiadau a ddefnyddir a bydd y rhai ar goll mewn coch. Ond.. mae'r nodyn Saesneg yn bodoli ond wedi ei ddileu - Template:Chembox_SystematicName, felly does dim pwrpas iddo a dwi ddim yn siwr pam ei fod yn dal i'w gynnwys. Falle bod angen diweddaru y nodiadau Chembox... o'i gymharu a'r un enwiki. Nid Nodyn:Chembox sy'n ei gynnwys ond rhyw isnodyn arall a sai'n siwr lle. Byddai creu nodyn 'gwag' drwy glicio ar y Nodyn coch yn cael ei wared ond mae'r broblem yn ddyfnach.
O ran y ref, os dwi'n deall yn iawn - y broblem yw fod dau gyfeiriad yr union run fath yn y dudalen - un yn y wybodlen (SystemicName) ac un yn y paragraff yn dechrau "At lefel mwy macrosgobig, ffosffad". Gellir dileu ohonyn nhw yn nhestun y tudalen a wedi ei roi fewn eto drwy ail-ddefnyddio. Mae hyn yn creu <ref name="label"> gyda'r label/enw unigryw.
Ddim yn hollol siwr am y cwestiwn olaf, ond os weli di o'r paragraff uchod rwy'n cyfeirio at y Nodyn:Chembox gyda bachau sgwar a'r ref gyda bachau onglog a mae'n ymddangos yn synhwyrol ar y dudalen. Erthygl ardderchog ar Ffosffad gyda llaw. Hwyl! --Dafyddt (sgwrs) 10:04, 26 Ebrill 2017 (UTC)[ateb]
@Dafyddt: Diolch o galon. Mi af ati i dwtio ychydig mwy ar ochr dechnegol y tudalen. Mae gennyf lawer i'w ddysgu. (Y rheswm fod yr un cyfeiriad gennyf ddwywaith yw am nad oedd modd imi "weld" yr un gyntaf ar y fwydlen wrth geisio ei ail ddefnyddio. Rwy’n meddwl bydd dy esboniad o beth dylai fod o fewn y wybodlen yn datrys y broblem.) Hwyl a diolch am dy ymateb sydyn. --Deri (sgwrs) 10:41, 26 Ebrill 2017 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Diolch. Ond 'dwy'n ofni nad yw hynny wedi gwella pethau. Nid yw'r cyfeiriad yma yn ymddangos yn y dewis disgyn (drop down menu ?) o dan "Cite" am ryw reswm. --Deri (sgwrs) 15:25, 26 Ebrill 2017 (UTC)[ateb]
Pa hwyl Deri. Doedd yr wybodlen heb ei diweddaru ers dros dwy flynedd; ond er gwneud hynny mae na rhyw is-is Nodyn yn dal ddim yn ei le. Dw i wedi gadael neges ar ddalen crewyr y wybodlen - de-wiki (yr un Almaeneg) yn fama. Fe ddylen nhw ddod nol gydag ateb yn eitha sydyn. Rwyt ti yn llygad dy le mai'r broblem ydy'r linell "SystematicName", lle mae'r gyfeiriadaeth, ond mae angen rhywun gwell na fi i'w ddatrus. A phwy well na'r rhai hynny a greodd y wybodlen! Fe ddaw! Gyda llaw, mae Alwyn wedi creu erthygl arnat, fel y gweli. Os oes gwybodaeth anghywir neu ychwanegiad, paid a golygu dy hun (mi wnes i hynny ar fy un i dro'n ol, heb ddeall y rheol, a chael fy nghystwyo!) - 0nd yn hytrach, rho wybod ar ddalen Sgwrs yr erthygl a mi wneith rhywun ei newid! Ymlaen!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:44, 26 Ebrill 2017 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Ymddiheuriadau am absenoldeb y mis neu ddau ddiwethaf. Troi heddiw i geisio gwneud rhywbeth - a darganfod dy neges - a'r erthygl caredig amdanaf (!!!). (A hefyd dy sylwadau ynglŷn â cheisio "Cymreigeiddio" erthyglau ar bynciau megis gwyddoniaeth bur.) Nid wyf am frolio fy hun (yn ormodol!) ond mi fyddai llun, efallai, o fantais. A'i ar dudalen Sgwrs yr erthygl, fel yr awgrymi, y dylwn godi hwn ? Ar bwnc arall, edrychaf ymlaen at weld os daeth unrhyw beth o'th ymdrechion ynglŷn â "cite" mewn Chembox. Ar bwnc arall, eto, cefais gwmni Twm Elias a Duncan Brown yn ddiweddar. Nhw a'r criw Natur yn amlwg yn cael hwyl a chynnwrf wrth Wicia. Pob hwyl, --Deri (sgwrs) 10:09, 5 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
@Deri Tomos: Llun - ia plis! Fedri di uwchlwytho llun/iau ar Comin. Clicia yn fama a mi fedri uwchlwytho swp (hyd at 50) mewn un gwynt. Cofia adael neges ar dy ddalen sgwrs (hy dalen Sgwrs yr erthygl arnat!) os wyt eisiau ychwanegu neu newid unrhyw beth! Trwsiwyd y broblem wreiddiol ar y Nodyn:Chembox, ond dw i newydd sylweddoli fod y golygiad wedi achosi problem arall, fel y gweli gyda'r gair values. Dw i wedi doda hyn i sylw'r codiwr, ac mae'n siwr o ddod yn ol atan ni. Croeso i ti gyfathrebu gydag ef os nad ydw i'n medru dod yn ol yn ddigon sydyn. Wici Natur - ydyn, mae na sawl un wedi sylweddoli fod golygu Wicipedia'n cyrraedd mwy o bobl, ac y gellir tynnu llif o'n prosiectau i mewn i'r Bywiadur newydd, sydd bellach yn cynnwys 15,000 o luniau o Comin! Cofia hefyd fod Llyw Cym a @Jason.nlw: (y LLGC) newydd ddechrau prosiect ar greu 3,000 o erthyglau ar feddygaeth. O nerth i nerth! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:22, 20 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Ydy wir, mae'n gyfnod anturus iawn. Diolch am dy holl waith. --Deri (sgwrs) 14:40, 21 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]

Share your experience and feedback as a Wikimedian in this global survey[golygu cod]

WMF Surveys, 18:40, 29 Mawrth 2018 (UTC)[ateb]

Reminder: Share your feedback in this Wikimedia survey[golygu cod]

WMF Surveys, 01:38, 13 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia survey[golygu cod]

WMF Surveys, 00:47, 20 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Ychwanegu gwybodaeth i Wikidata[golygu cod]

Wrth twtio tudalen ar Griffith Evans, 'roeddwn am ychwanegu enw ei wraig a'i blant (ac o bosib anrhydeddau) i'r "blwch" Wikidata. Mi geisiais ychwanegi "Priod" fel maes newydd (golygu Wikidata), ond ni chafodd ei dderbyn. Sut mae gwneud hyn, os gwelwch yn dda ? --Deri (sgwrs) 22:43, 3 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Shwmae Deri. I ychwanegu priod, mae'n rhaid iddyn nhw fodoli fel unigolyn yn Wicidata ei hunan. Mae yna ddau Katie Evans yno ond ddim yr un perthnasol yn amlwg. Ar y cyfan dwi ddim yn ychwanegu cysylltiau teuluol yn Wicidata heblaw fod y bobol yna yn nodedig ac yn haeddu cofnod (a tudalen Wici) ei hunan. --Dafyddt (sgwrs) 11:56, 4 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Diolch am hwnna, Dafydd. Na'i adael y peth am y tro, felly. Ond efallai dof yn ôl am gymorth am bethau cyffelyb (Medalau ac anrhydeddau yn yr achlysur hwn) yn y dyfodol, pan fyddaf yn gwybod yn union yr hyn yr hoffwn ei wneud. (Dwy'n gobeithio llenwi sawl tudalen tebyg yn yr wythnosau nesaf.) --Deri (sgwrs) 13:17, 4 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

O diar. Dyma fi yn ôl am Wicidata. Wrth twtio tudalen Electron sylwais bod angen ychydig mireinio ar ei flwch Wicidata. Os gofiaf o'r sgwrs isod trwy "pethau" mae gwneud hyn. A fyddai modd i rhywun edrych ar fanylion Wicidata Cymraeg Electron, os gwelwch yn dda ? er engraifft y Positron yw gwrthwyneb yr electron (mae hwn yn iawn yn Wikidata Saesneg). Hefyd pam fo angen eglurhad Saesneg "elementary particle" ? --Deri (sgwrs) 09:47, 17 Awst 2022 (UTC)[ateb]

Wicidata ar Sêr[golygu cod]

Cyfeillion. Rwyf wedi fy ysbrydoli gan lyfr am y sêr i fentro cwpwl o dudalennau seryddol (wrth bod yn ymwybodol fy mod yn tresmasu i faes eraill !) A fyddai modd cael esboniad o sut i osod y Wicidata berthnasol, os gwelwch yn dda ? Mi 'rydwyf wedi edrych yn y caffi - ond dydw'i ddim yn deall yr hyn sydd yno am osod "Nodyn: Gwybodlen .." am sawl peth tebyg. Rwyf am ddechrau gyda'r seren Aldebaran. Hoffwn osod y Wicidata sydd ar y dudalen Saesneg ynddo. Dwy'n sylwi nad oes Wicidata cyffelyb ar dudalen "Sirius", sy'n bodoli. Efallai y medrwn ychwanegu hwnnw ar yr un pryd. (Mae modd gweld yr hyn rwyf wedi ei wneud hyd yma yn fy mhwll tywod - sy'n cynnwys "teulu" o dudalennau cysylltiedig.) Pob hwyl, --Deri (sgwrs) 07:29, 5 Mai 2021 (UTC)[ateb]

Pa hwyl Deri! Mae dy ddrafft yn y Pwll tywod yn ddigon swmpus i'w chychwyn fel dalen go iawn (yn y prif barth). Beth am wneud hyn yn gyntaf? Wedi gwneud hyn, bydd angen ei chysylltu a'r eitem priodol ar Wicidata: dos i Wicidata, teipia 'Aldebaran' i gael hyd i'r eitem arni. Yna bydd angen ychwanegu dy erthygl di. I wneud hyn, chwilia am 'Wicipedia' a chlicia 'golygu', yna cy, yna pastia deitl yr erthygl Gymraeg, sef 'Aldebaran'. Rwan fod dy erthygl wedi'i chysylltu efo'r eitem ar Wicidata, gallwn ychwanegu'r Nodyn cyffredinol Nodyn:Pethau, drwy bastio {{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }} ar frig dy erthygl.
O'i chymharu efo'r infobox Saesneg, prin iawn fydd yr wybodaeth. Mae'r un Saesneg yn swmpus iawn ac wedi'i chreu gan gyfaill imi sy'n seryddwr ar ynys Tenereef, sef Mike Peel. Os wyt am i'r holl wybodaeth ymddangos yn yr wybodlen, yna mi fydd yn rhaid copio a phastio'r Nodynau (templedi) o en i cy. Y bwriad yw cadw'r nifer o wybodlenni i ddim ond 3 (Pethau byw, Llefydd a Phethau), a'r dewis fydd naill ai cael 4ydd (sêr) neu ehangu'r wybodlen 'Pethau'. Os y gwnei di ddilyn yr uchod, a phastio {{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }} (sef y Wybodlen Pethau), yna gad i ni weld beth fydd yn ymddangos, a'i chymryd o fanno! Braf gweld erthygl wyddonol newydd yn cael ei chenhedlu! Tyrd nol ata i unrhyw bryd. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:59, 5 Mai 2021 (UTC)[ateb]
Wedi ceisio ymateb yn helaeth, ond y neges wedi diflannu i rywle ! Diolch o galon iti am y cymorth ymarferol a'r cefnogaeth. Mi gadwaf felly, am y tro, i'r "pethau bychain". --Deri (sgwrs) 08:49, 5 Mai 2021 (UTC)[ateb]
Efallai fod gwrthdaro rhwng dau olygiad yr un pryd deri! Newydd gael golwg pellach, ac nid o WD mae'r wybodaeth yn dod, ond gyda llaw a llygad, yn unigol. Nodyn:Telesgop wnaeth fy nghyfaill Peel! Peth od ydy'r cof! Mi weithiai ar yr wybodlen, fel bod rhagor o nodweddion yn cael eu tynnu o WD! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:53, 5 Mai 2021 (UTC)[ateb]
Newydd ychwanegu bron yr holl ndoweddion sydd ar yr eitem 'Sirius' (Q3409); wrth i ragor gael eu hychwanegu yn ystod y blynyddoedd nesa, gallwn eu rhoi ar Nodyn:Pethau hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:28, 5 Mai 2021 (UTC)[ateb]
Rhagorol. Wyt ti byth yn cysgu ? (Diddorol dy sylw am beth sy'n digwydd os ydy dau yn newid tudalen ar yr un pryd. Dwy'n sicr dyna beth ddigwyddodd.) Diolch, --Deri (sgwrs) 09:58, 5 Mai 2021 (UTC)[ateb]

Falens[golygu cod]

Annwyl Robin, Diolch unwaith eto. Un sylw bach. Dwy ddim yn siwr pam dy fod wedi tynnu "mesur o'r modd" o frawddeg gyntaf Falens. Onid disgrifiad yw falens yn hytrach na chyfrwng ? hwyl, --Deri (sgwrs) 10:15, 8 Mai 2021 (UTC)[ateb]

Sorri Deri, rwan dw i'n gweld hwn! Dw i'n cytuno, ac wedi ei droi nol. Braf gweld dy erthyglau newydd swmpus! Y cyfeiriadau'n gryf a solad! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 09:56, 18 Tachwedd 2023 (UTC)[ateb]
Diolch. Ga'i fanteisio wrth anfon gair - a yw'n arfer creu tudalen sgwrs ar gyfer pob tudalen bellach ? (Gweler fy sgwrs â Titus isod.) Hwyl, Deri Deri (sgwrs) 12:52, 18 Tachwedd 2023 (UTC)[ateb]

A wnewch chi ddefnyddio'r nodyn hon: {{WiciBrosiect Cymru}}

ar dudalen sgwrs pob erthygl sy'n ymwneud â Chymru a'r Cymry os gwelwch yn dda?

Diolch! Titus Gold (sgwrs) 22:22, 20 Hydref 2023 (UTC)[ateb]

Diolch am y neges. A oes angen am y nodyn ar y tudalen ei hun (a phob tudalen tebyg) yn ogystal ? Neu dim ond ar y tudalen sgwrs ? Nid oedd tudalen sgwrs yn yr achlysur hwn, ond mi greais un er mwyn cynnwys y nodyn. Gobeithio bod hwn o gymorth. Pob dymuniad da, Deri Deri (sgwrs) 23:08, 22 Hydref 2023 (UTC)[ateb]
Anghofiais eto am y tudalen sgwrs gyda Thomas Ceiri Griffith ! Ymddiheuriad a diolch, Deri Deri (sgwrs) 17:18, 16 Tachwedd 2023 (UTC)[ateb]
Sut mae gyfaill? Mae'r dudalen Sgwrs yn cael ei chreu'n otomatig; sdim angen ei chreu, felly! Mae gan Titus coblyn o wicibrosiect pwysig, lle mae'n datblygu erthyglau am Gymru. Er mwyn cynaeafu'r rhain mewn un ysgubor, mae'n gofyn i ni ychwanegu'r Nodyn bachog {{WiciBrosiect Cymru}} ar y dudalen sgwrs. Paid a phoeni os nad, ond mae'n ddull da i ddosbarthu erthyglau'n daclus. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 15:06, 20 Tachwedd 2023 (UTC)[ateb]