Defnyddiwr:Llusiduonbach
Maint cyflenwol[golygu | golygu cod y dudalen]
"Mae Swedeg Safonol Canolog a'r rhan fwyaf o dafodieithoedd Swedeg eraill yn cynnwys nodwedd "maint cyflenwol" prin pan fydd cystain ffonolegol fer yn dilyn llafariad hir a chytsain hir yn dilyn llafariad fer; dim ond mewn sillafau acennog y mae hyn yn wir ac mae pob segment yn fyr mewn sillafau diacen." Ffonotacteg Swedeg
Beth am rai acenion deheuol y Gymraeg, fel f'un i? Dyma sydd gen i o ran llafariaid unigol acennog mewn geiriau lluosill.
strwythur | ynganiad | enghraifft | ynganiad |
---|---|---|---|
ˈVV | ˈVˑV | eog |
[ˈeˑɔg] |
ˈV{b,d,g,v,ð,χ}V | ˈVˑCV | tadau |
[ˈtaˑdɛ] |
ˈV{m,n,l,r}V | ˈVˑCV / ˈVCˑV | tonau / tonnau |
[ˈtoˑnɛ / ˈtɔnˑɛ] |
ˈV{p,t,k,f,θ,s,ʃ,ŋ,ɬ,j,w}V | ˈVCˑV | gallu |
[ˈgaɬˑi] |
Os oes dwy gytsain ar ôl y llafariad, y gytsain ddi-lais gyntaf sy'n lled-hir. Os yw'r ddwy'n lleisiol, yr un gyntaf sy biau hi.
strwythur | ynganiad | enghraifft | ynganiad |
---|---|---|---|
ˈVC̥C̥V (gan gynnwys [t͡ʃ]) | ˈVC̥ˑC̥V | holltu |
[ˈhɔɬˑti] |
ˈVC̥C̬V | ˈVC̥ˑC̬V | dathlu |
[ˈdaθˑli] |
ˈVC̬C̥V | ˈVC̬C̥ˑV | antur |
[ˈantˑɪr] |
ˈVC̬C̬V (gan gynnwys [d͡ʒ]) | ˈVC̬ˑC̬V | blinder |
[ˈblɪnˑdɛr] |
Ceir eithriadau, wrth gwrs, e.e. mesen [meˑsɛn].
Os ydych yn gwybod am ymchwil i hwn o ran y Gymraeg, neu unrhyw iaith arall, hoffwn i ddysgu mwy.