Llanbedrgoch
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3°N 4.2°W |
Cod OS | SH509804 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
- Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).
Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, yw Llanbedrgoch ( ynganiad ) (hefyd Llanbedr-goch). Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A5025 rhwng Pentraeth a Benllech. Mae gwarchodfa natur Gors Goch yn gorwedd ar llyn rhewlifol hynafol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd dau enw amgen ar y pentref a'r plwyf yn y gorffennol, pan fu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, sef:
- Llanfair Mathafarn Wion. Enw'r plwyf, ar ôl treflan ganoloesol Mathafarn Wion (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a Llanfair Mathafarn Eithaf). Enw arall ar Fathafarn Wion oedd Mathafarn Fechan. Pennaeth lleol oedd Gwion; ceir Croes Wion ger Benllech.[1]
- Llanfeistr. Enw personol yw 'Meistr' yn yr achos yma.[1]
Gwnaed darganfyddiad diddorol yma yn 1994, sef olion sefydliad yn deillio o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archaeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1999 gerllaw'r pentref. Ychydig i'r gogledd-orllewin mae gwarchodfa natur Cors Goch.Yn Llanbedrgoch mae yna tŷ o'r enw ty croes. Maer tŷ croes yn un or bythynnod hynnaf yn Ynys Môn.[2] Roedd ysgol gyntaf Llanbedrgoch ar safle'r ganolfan.
Ysgol Gynradd Llanbedrgoch yw ysgol y pentref.
Agorwyd yr ysgol yn y flwyddyn 1901.
Ers talwm roedd yna siop, post a dau ofaint yn y pentref.
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Yr hen ganolfan
-
Tŷ Croes
-
Cefn yr ysgol
-
Cae yr ysgol
-
Yr ysgol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Redknap, Mark Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol (Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, 2000) ISBN 072000487x
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Cloddio gan Angueddfa Genedlaethol Cymru ar y safle Lychlynnaidd Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele