Dinas Porth Ruffydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

53°17′N 4°40′W / 53.28°N 4.67°W / 53.28; -4.67 (Dinas Porth Ruffydd.)

Dinas Porth Ruffydd
Dinas Porth Ruffydd
Dinas Porth Ruffydd, Trearddur

Mae Dinas Porth Ruffydd yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Trearddur yn Ynys Mon, Cymru; cyfeirnod OS: SH222794.

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Cerdin; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN121.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. Gwefan y BBC
  4. Gwefan CPAT