Castell Caerau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Caerau, Dolbenmaen
Math caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.9718°N 4.2218°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH50904392 Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw CN044 Edit this on Wikidata

Mae Castell Caerau yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Dolbenmaen yn Gwynedd, Cymru; cyfeirnod OS: SH508439.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Bryngaer fach yw hon ond gyda mur amddiffynnol sylweddol o gerrig mawr hir (headers) sy'n dros 1 metr ar eu hyd. Cafodd ei chodi ar fryncyn creigiog sy'n gadael digon o le i gwt neu ddau yn unig - er na cheir olion - ac sy'n awgrymu ei bod yn gaer o loches i deulu.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN044.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Llundain, 1978), tud. 53.
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. Gwefan y BBC
  5. Gwefan CPAT