Ffridd Faldwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
hectar
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Llinell 1: Llinell 1:
[[Bryngaer]] 5.2 [[hectar]] yng ngogledd [[Powys]] yw '''Ffridd Faldwyn'''. Saif ar fryn amlwg i'r gorllewin o [[Trefaldwyn|Drefaldwyn]]. Mae'n un o'r bryngaerau mwyaf yng Nghymru a'i maint yn 503m wrth 254m.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/92480/manylion/FFRIDD+FALDWYN+HILLFORT%2C+MONTGOMERY/ Coflein]</ref> Cyfeirnod OS: 21679690.
[[Bryngaer]] 5.2 [[hectar]] yng ngogledd [[Powys]] yw '''Ffridd Faldwyn'''. Saif ar fryn amlwg i'r gorllewin o [[Trefaldwyn|Drefaldwyn]]. Mae'n un o'r bryngaerau mwyaf yng Nghymru a'i maint yn 503m wrth 254m.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/92480/manylion/FFRIDD+FALDWYN+HILLFORT%2C+MONTGOMERY/ Coflein]</ref> {{gbmapping|SO217969}}


[[Delwedd:Ffridd Faldwyn.jpg|250px|bawd|Safle caer Ffridd Faldwyn]]
[[Delwedd:Ffridd Faldwyn 541001.jpg|bawd|Safle caer Ffridd Faldwyn]]
Mae gan safle Ffridd Faldwyn hanes hir ac mae'r preswyliad cyntaf ar y safle yn dyddio i [[Oes Newydd y Cerrig]],<ref>[http://www.cpat.org.uk/educate/guides/ffrydd/w_ffrydd.htm Gwefan CPAT]</ref> er nad yw'r gaer ei hyn yn dyddio o'r cyfnod cynnar hwnnw. Mae'n safle cymhleth a phwysig ac erys llawer o gwestiynau heb eu hateb. Ceir tystiolaeth archaeolegol fod Ffridd Faldwyn yn drigfan yn y cyfnod [[Neolithig]]. Codwyd yr amddiffynfa gynharaf yn y [[3edd ganrif CC]] pan adeiladwyd palisâd dwbl yno yn amgau o leiaf 1.2 hectar o dir ar siap ofal ar y copa. Cafwyd cyfres o ffosydd a muriau amddiffynnol ar ôl hynny, ar bedwar o gyfnodau gwahanol yn [[Oes yr Haearn]].
Mae gan safle Ffridd Faldwyn hanes hir ac mae'r preswyliad cyntaf ar y safle yn dyddio i [[Oes Newydd y Cerrig]],<ref>[http://www.cpat.org.uk/educate/guides/ffrydd/w_ffrydd.htm Gwefan CPAT]</ref> er nad yw'r gaer ei hyn yn dyddio o'r cyfnod cynnar hwnnw. Mae'n safle cymhleth a phwysig ac erys llawer o gwestiynau heb eu hateb. Ceir tystiolaeth archaeolegol fod Ffridd Faldwyn yn drigfan yn y cyfnod [[Neolithig]]. Codwyd yr amddiffynfa gynharaf yn y [[3edd ganrif CC]] pan adeiladwyd palisâd dwbl yno yn amgau o leiaf 1.2 hectar o dir ar siap ofal ar y copa. Cafwyd cyfres o ffosydd a muriau amddiffynnol ar ôl hynny, ar bedwar o gyfnodau gwahanol yn [[Oes yr Haearn]].



Fersiwn yn ôl 13:05, 29 Medi 2010

Bryngaer 5.2 hectar yng ngogledd Powys yw Ffridd Faldwyn. Saif ar fryn amlwg i'r gorllewin o Drefaldwyn. Mae'n un o'r bryngaerau mwyaf yng Nghymru a'i maint yn 503m wrth 254m.[1] cyfeiriad grid SO217969

Safle caer Ffridd Faldwyn

Mae gan safle Ffridd Faldwyn hanes hir ac mae'r preswyliad cyntaf ar y safle yn dyddio i Oes Newydd y Cerrig,[2] er nad yw'r gaer ei hyn yn dyddio o'r cyfnod cynnar hwnnw. Mae'n safle cymhleth a phwysig ac erys llawer o gwestiynau heb eu hateb. Ceir tystiolaeth archaeolegol fod Ffridd Faldwyn yn drigfan yn y cyfnod Neolithig. Codwyd yr amddiffynfa gynharaf yn y 3edd ganrif CC pan adeiladwyd palisâd dwbl yno yn amgau o leiaf 1.2 hectar o dir ar siap ofal ar y copa. Cafwyd cyfres o ffosydd a muriau amddiffynnol ar ôl hynny, ar bedwar o gyfnodau gwahanol yn Oes yr Haearn.

Codwyd mur pridd gyda wyneb pren i gymryd lle'r palisâd cyntaf. Roedd ganddo ddwy ffos a mynedfa gyda phont o'i flaen. Cafodd yr amddiffynwaith hwn ei losgi'n ulw. Ar ddechrau'r ganrif gyntaf CC codwyd amddiffynfa uchelgeisiol gyda mur â wyneb o gerrig a ffos 6 medr o led yn amgau tua 4 hectar o dir. Atgyweiriwyd hyn eto yn ddiweddarach. Yn olaf ceir olion o atgyfnerthu'r gaer yn y ganrif gyntaf OC, efallai mewn ymateb i ddyfodiad y Rhufeiniaid i'r cyffiniau tua'r flwyddyn 50. Ymddengys fod hanes y gaer fel amddiffynfa yn dod i ben yn fuan ar ôl hynny.

Ar ei mwyaf roedd y gaer yn mesur tua 1200 troedfedd (o'r de i'r gogledd) gyda lled o tua 500 troedfedd. Mae'n anodd gwybod os yw'r fryngaer i gael ei phriodoli i'r Ordovices neu eu cymdogion y Cornovii i'r dwyrain. Fel yn achos amddiffynfeydd eraill yn Y Mers efallai ei bod wedi newid dwylo o leiaf unwaith.

Mae maint a lleoliad bryngaer Ffridd Faldwyn yn dangos pwysigrwydd strategol ardal Trefaldwyn ers gwawr hanes Cymru. I'r dwyrain ceir tref Trefaldwyn a'i chastell Normanaidd gyda chwrs Clawdd Offa ar y ffin â Lloegr gerllaw. I'r gogledd ceir Caer Ffordun, caer Rufeinig ger Afon Hafren a thua 2 filltir i'r gorllewin cododd Llywelyn ap Gruffudd Gastell Dolforwyn.

Gweler hefyd

Ffynonellau

  • A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965).
  • Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain), 1974).

Cyfeiriadau