Yr Hen Ogledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Mae'r term '''yr Hen Ogledd''' yn cyfeirio at diriogaeth teyrnasoedd [[Brythoniaid|Brythonaidd]] yr ardal sydd erbyn heddiw yn rhan o ogledd [[Lloegr]] a de'r [[Yr Alban|Alban]] yn y cyfnod yn dilyn ymadawiad y [[Rhufeiniaid]], sef o tua'r [[5ed ganrif|bumed]] i'r [[7fed ganrif|seithfed ganrif]]. O'r Hen Ogledd daeth y [[llenyddiaeth Gymraeg]] gynharaf, cerddi [[Arwr|arwrol]] gan feirdd [[yr Hengerdd]] am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid a llwythau'r [[Eingl-Sacsoniaid]] oedd yn ceisio goresgyn y Brythoniaid a meddianu eu tir. O'r Hen Ogledd daeth [[Cunedda Wledig]] a'i ddilynwyr hefyd, sefydlwyr [[teyrnas Gwynedd]]. |
Mae'r term '''yr Hen Ogledd''' yn cyfeirio at diriogaeth teyrnasoedd [[Brythoniaid|Brythonaidd]] yr ardal sydd erbyn heddiw yn rhan o ogledd [[Lloegr]] a de'r [[Yr Alban|Alban]] yn y cyfnod yn dilyn ymadawiad y [[Rhufeiniaid]], sef o tua'r [[5ed ganrif|bumed]] i'r [[7fed ganrif|seithfed ganrif]]. O'r Hen Ogledd daeth y [[llenyddiaeth Gymraeg]] gynharaf, cerddi [[Arwr|arwrol]] gan feirdd [[yr Hengerdd]] am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid a llwythau'r [[Eingl-Sacsoniaid]] oedd yn ceisio goresgyn y Brythoniaid a meddianu eu tir. O'r Hen Ogledd daeth [[Cunedda Wledig]] a'i ddilynwyr hefyd, sefydlwyr [[teyrnas Gwynedd]]. |
||
Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychymygol rhwng cyffiniau [[Stirling]] a [[Loch Lomond]] a'r siroedd Seisnig presennol [[Cumbria]], [[Swydd |
Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychymygol rhwng cyffiniau [[Stirling]] a [[Loch Lomond]] a'r siroedd Seisnig presennol [[Cumbria]], [[Swydd Gaerhirfryn]], [[Swydd Durham]], [[Northumberland]], [[Swydd Efrog]] a [[Humberside]]. Mae hyn yn diriogaeth ehangach nag yw Cymru heddiw. Mae'n bosibl fod teyrnasoedd yr Hen Ogledd (trwy [[Elfed]]) yn ymestyn mor bell i'r de ag ardal [[Sir Gaer]] heddiw. Cafodd teyrnasoedd yr Hen Ogledd eu gwahanu oddi wrth Gymru gyda [[Brwydr Caer]] yn [[615]]. Ffurf ar y [[Brythoneg|Frythoneg]] a droes yn [[Cymraeg Cynnar|Gymraeg Cynnar]] oedd iaith trigolion yr Hen Ogledd: [[Cymbreg]] yw'r enw a ddefnyddir weithiau i'w disgrifio a cheir olion ohoni mewn enwau lleoedd yn Cumbria. |
||
'[[Bonedd Gwŷr y Gogledd|Gwŷr y Gogledd]]' yw'r enw tradodiadol am bobl yr Hen Ogledd. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau [[Celtiaid|Celtaidd]] y [[Votadini]], [[Selgovai]], [[Novantai]] a'r [[Dumnonii]] (yn ne'r Alban) a'r [[Brigantes]] i'r de o [[Mur Hadrian|Fur Hadrian]]. |
'[[Bonedd Gwŷr y Gogledd|Gwŷr y Gogledd]]' yw'r enw tradodiadol am bobl yr Hen Ogledd. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau [[Celtiaid|Celtaidd]] y [[Votadini]], [[Selgovai]], [[Novantai]] a'r [[Dumnonii]] (yn ne'r Alban) a'r [[Brigantes]] i'r de o [[Mur Hadrian|Fur Hadrian]]. |
Fersiwn yn ôl 15:51, 19 Mehefin 2008
Mae'r term yr Hen Ogledd yn cyfeirio at diriogaeth teyrnasoedd Brythonaidd yr ardal sydd erbyn heddiw yn rhan o ogledd Lloegr a de'r Alban yn y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, sef o tua'r bumed i'r seithfed ganrif. O'r Hen Ogledd daeth y llenyddiaeth Gymraeg gynharaf, cerddi arwrol gan feirdd yr Hengerdd am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid a llwythau'r Eingl-Sacsoniaid oedd yn ceisio goresgyn y Brythoniaid a meddianu eu tir. O'r Hen Ogledd daeth Cunedda Wledig a'i ddilynwyr hefyd, sefydlwyr teyrnas Gwynedd.
Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychymygol rhwng cyffiniau Stirling a Loch Lomond a'r siroedd Seisnig presennol Cumbria, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Durham, Northumberland, Swydd Efrog a Humberside. Mae hyn yn diriogaeth ehangach nag yw Cymru heddiw. Mae'n bosibl fod teyrnasoedd yr Hen Ogledd (trwy Elfed) yn ymestyn mor bell i'r de ag ardal Sir Gaer heddiw. Cafodd teyrnasoedd yr Hen Ogledd eu gwahanu oddi wrth Gymru gyda Brwydr Caer yn 615. Ffurf ar y Frythoneg a droes yn Gymraeg Cynnar oedd iaith trigolion yr Hen Ogledd: Cymbreg yw'r enw a ddefnyddir weithiau i'w disgrifio a cheir olion ohoni mewn enwau lleoedd yn Cumbria.
'Gwŷr y Gogledd' yw'r enw tradodiadol am bobl yr Hen Ogledd. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau Celtaidd y Votadini, Selgovai, Novantai a'r Dumnonii (yn ne'r Alban) a'r Brigantes i'r de o Fur Hadrian.
Lleolir nifer o draddodiadau a chymeriadau sydd i'w cael yn llenyddiaeth Cymraeg Canol yn yr Hen Ogledd. Yn eu plith y mae arwyr dwy o'r Tair Rhamant, sef Owain ab Urien (Iarlles y Ffynnon) a Peredur fab Efrog.
Teyrnasoedd a lleoedd
- Aeron, bro neu deyrnas yn ne'r Alban
- Din Alclud neu Alclud (Allt Clud), prif ganolfan Ystrad Clud (Dumbarton)
- Argoed Llwyfain, safle brwydr dyngedfennol
- Catraeth (Catterick yn Swydd Efrog heddiw)
- Din Eidyn, prif ganolfan Manaw Gododdin
- Coed Celyddon
- Din Rheged, prif ganolfan Rheged (ger Stranraer)
- Elmet (Elfed), canolbarth gogledd Lloegr heddiw
- Gododdin, teyrnas y Votadini
- Llwyfenydd
- Manaw Gododdin, rhan ogleddol teyrnas y Votadini
- Metcauld (ynys Lindisfarne)
- Rheged, ardal Galloway a Chaerliwelydd
- Ystrad Clud, teyrnas
Arweinwyr, beirdd a chymeriadau eraill
- Aneirin, a gyfansoddodd Y Gododdin
- Brân Galed, brenin neu gymeriad chwedlonol
- Coel Hen, brenin neu arweinydd ôl-Rufeinig
- Cunedda Wledig, sefydlwr teyrnas Gwynedd
- Cyndeyrn (Kentigern), sant o Ystrad Clud
- Cynfarch, tad Urien Rheged
- Dyfnawl Hen, un o wyrion Ceredig Wledig
- Elffin ap Gwyddno, arwr a gysylltir â Hanes Taliesin
- Gwallog, brenin Elfed efallai
- Gwenddolau, pennaeth neu frenin
- Mynyddog Mwynfawr, brenin Gododdin
- Myrddin Wyllt, cymeriad chwedlonol
- Nudd Hael, pennaeth sydd i'w uniaethu â'r duw Celtaidd Nudd efallai
- Owain ab Urien, mab Urien Rheged
- Rhydderch Hen (Rhydderch Hael), brenin Ystrad Clud
- Taliesin, bardd Urien Rheged a'i fab Owain
- Tristfardd, bardd
- Tudwal Tudclyd, pennaeth neu frenin
- Urien Rheged, brenin Rheged
Gelynion a chyngreiriaid Gwŷr y Gogledd
Eingl-Sacsoniaid y gogledd
Gwyddelod a Phictiaid
- Y Brithwyr, neu'r Pictiaid
- Dalriada, teyrnas Gwyddelig yn yr Alban
- Ysgotiaid, Gwyddelod yr Alban
Gweler hefyd
Llyfryddiaeth
- Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), Astudiaethau ar yr Hengerdd (Caerdydd, 1978)
- K. H. Jackson, Language and History in Early Britain (Caeredin, 1953)
- Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1938; argraffiad newydd, 1961)
- eto (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
- eto, The Beginnings of Welsh Poetry (Caerdydd, 1972)