Selgovae

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Selgovai)
Lleoliad tybiedig y Selgovae yn ôl Ptolemi

Llwyth Celtaidd yn byw yn ne-orllewin yr Alban oedd y Selgovae, yn ôl pob tebyg yn rhan ddwyreiniol Galloway. Er nad oes sicrwydd, mae'n debyg mai llwyth Brythoneg eu hiaith oedd y Selgovae, ac yn un o'r bobloedd a ffurfiai Yr Hen Ogledd yn ddiweddarach. Awgrymwyd gan rai y gallent fod yn llwyth Pictaidd neu'n siarad Gaeleg.

Nid oes lawer o wybodaeth ar gael amdanynt. Ceir yr unig gyfeiriad yn Geographia Ptolemi, lle lleolir hwy i'r dwyrain o'r Novantae. Mae'n enwi trefi Selgovae: Carbantorigum, Uxellum a Trimontium. Tybir i'w tiriogaethau ddod yn rhan o deyrnas Rheged yn ddiweddarach.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]