Novantae

Oddi ar Wicipedia
Lleoliad tybiedig y Novantae yn ôl Ptolemi

Llwyth Celtaidd yn byw yn ne-orllewin yr Alban oedd y Novantae, yn ôl pob tebyg yn rhan orllewinol Galloway. Er nad oes sicrwydd, mae'n debyg mai llwyth Brythoneg eu hiaith oedd y Novantae, ac yn un o'r bobloedd a ffurfiai Yr Hen Ogledd yn ddiweddarach. Awgrymwyd gan rai y gallent fod yn llwyth Pictaidd neu'n siarad Gaeleg.

Nid oes lawer o wybodaeth ar gael amdanynt. Ceir yr unig gyfeiriad yn Geographia Ptolemi, lle lleolir hwy i'r gorllewin o'r Selgovae, ac enwir Rerigonion fel eu prifddinas. Mae rhai ymchwilwyr i hanes Arthur yn awgrymu mai Rerigonion yw'r Pen Rhionydd y cyfeirir ato yn y Trioedd fel lleoliad un o lysoedd Arthur (mae Arthur ei hun yn perthyn i gyfnod diweddarach ond fe allai'r cof am y lle fod yn ddilys). Mae'n debyg i'w tiriogaethau ddod yn rhan o deyrnas Rheged yn ddiweddarach.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]