Stranraer
![]() | |
Math |
tref, small burgh ![]() |
---|---|
| |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Inch ![]() |
Sir |
Dumfries a Galloway, Leswalt ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
54.9014°N 5.035°W ![]() |
Cod OS |
NX059606 ![]() |
Tref a phorthladd yn Dumfries a Galloway, yr Alban, Mae Stranraer (Gaeleg: An t-Sròn Reamhar, sef "Y Trwyn Llydan").[1] O'r porthladd mae gwasanaethau llong fferi yn cysytllu'r dref a Belffast, Gogledd Iwerddon. Poblogaeth: 10,807 (2001). Mae Caerdydd 400.2 km i ffwrdd o Stranraer ac mae Llundain yn 499.9 km. Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 118 km i ffwrdd.
Mae Stranraer yn gorwedd ar gilfach môr Loch Ryan. I'r gorllewin mae bryniau isel hir Rinnau Galloway (Rinns of Galloway) yn ei chysgodi. Mae priffyrdd yn cysylltu'r dref â Girvan ac Ayr i'r gogledd a Newton Stewart a Dumfries i'r dwyrain. O borthladd Cairnryan, ar lan Loch Ryan tua 5 milltir o'r dref, mae gwasanaeth fferi arall yn rhedeg i Larne, Gogledd Iwerddon. Dyma ganolfan weinyddol Gorllewin Galloway.[2]
Tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Stranraer ceir pentref Dunragit a Rhos Dunragit. Credir fod yr enw Dunragit yn tarddu o'r enw 'Din Reged', "Caer Reged", a oedd yn ganolfan bwysig yn nheyrnas Rheged, un o deyrnasoedd Brythonaidd yr Hen Ogledd.
Pobl nodoedig a anwyd yn Stranraer[golygu | golygu cod y dudalen]
- Jane Taylour (1827 - 25 Chwefror 1905), ffeminist a swffragét
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ www.gaelicplacenames.org; adalwyd 11 Mai 2015
- ↑ http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-south-scotland-15780705