Jane Taylour
Jane Taylour | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1827 ![]() Stranraer ![]() |
Bu farw | 25 Chwefror 1905 ![]() Saffron Walden ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | swffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched ![]() |
Ffeminist a swffragét o'r Alban oedd Jane E. Taylour (1827 - 25 Chwefror 1905) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymgyrchu dros bleidlais i ferched, sef etholfraint.
Fe'i ganed yn Stranraer yn 1827 a bu farw ym mynwent y Crynwyr yn Saffron Walden, Essex.
Roedd Jane E. Taylour yn un o'r merched cyntaf i draddodi darlithoedd cyhoeddus. Teithiodd o gwmpas yr Alban a gogledd Lloegr yn annerch y dorf ar faterion yn ymwneud a hawliau merched, yn enwedig yr ymgyrch dros thoi'r bleidlais iddynt.
Nid oes sicrwydd pa flwyddyn y ganed Taylour, naill ai 1827[1] neu 1828[2]. Fe'i ganed yn Stranraer i Maria Angus a Nathaniel Taylor a buont fyw yn Balfour. Yn 1861 symudodd i Saffron Walden yn Essex, ac yn 1901 gwyddus iddi fod yn byw yno gyda Rachel P. Robson.[3]
Ymgyrchydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i disgrifiwyd gan Clementia Taylor fel "the energetic little woman from Stranraer".[4] Roedd yn areithwraig hynod o boblogaidd: fel arfer, nid oedd yr adeilad yn ddigon mawr i gynnal yr holl wrandawyr, a chyhoeddwyd ei hareithiau yn y papurau newydd.
Y ddwy gydymaith iddi ar y teithiau hyn oedd Mary Hill Burton ac Agnes McLaren. Teithiodd McLaren a Taylour i ogledd yr Alban "gan fod popeth y gellid ei wneud yng Nghaeredin wedi'i wneud".
Erbyn 1873 roedd wedi cynnal dros 150 o gyfarfodydd areithio yn yr Alban yn unig.[3] Gwyddys fod nifer o bwyllgorau ffeministaidd wedi eu cychwyn oherwydd iddi eu hysbrydoli e.e. Tain, Dingwall, Forres, Elgin, Banff, Invergordon, Nairn a Dunkeld.
Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol dros Hawl Merched i Bleidleisio am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Scottish women : a documentary history, 1780-1914. Breitenbach, Esther. Edinburgh: Edinburgh University Press. 2013. ISBN 9780748683406. OCLC 857078955.CS1 maint: others (link)
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref':3
- ↑ 3.0 3.1 The biographical dictionary of Scottish women : from the earliest times to 2004. Ewan, Elizabeth., Innes, Sue., Reynolds, Sian. Edinburgh: Edinburgh University Press. 2006. ISBN 9780748626601. OCLC 367680960.CS1 maint: others (link)
- ↑ Elizabeth., Crawford, (2001). The women's suffrage movement : a reference guide, 1866-1928. London: Routledge. ISBN 0415239265. OCLC 44914288.CS1 maint: extra punctuation (link)