Llwyfenydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ardal yn yr Hen Ogledd oedd Llwyfenydd. Mae ei union leoliad yn ansicr ond ymddengys y bu'n rhan o deyrnas Rheged yn amser Urien Rheged a'i fab Owain (6g).

Ceir cynifer â phum cyfeiriad at Lwyfenydd yn y cerddi gan Taliesin i Urien a'i fab a gedwir yn Llyfr Taliesin. Dethlir yr ardal am ei chyfoeth a'r bywyd llawen a geid yno. Gelwir Owain fab Urien yn "bennaeth ysblennydd Lliwelydd".

Dyfelir ei bod yn gorwedd yn yr hyn sydd erbyn heddiw yn ogledd-orllewin Lloegr. Tybir bod adlais o'r enw yn yr enw lle Leeming, ger Catraeth (Catterick) a hefyd yn enw tref Caerliwelydd. Ceir Afon Lyvennet rhwng Catterick a Chaerliwelydd.

Mae'n bosibl hefyd fod Argoed Llwyfain, safle brwydr enwog, i'w leoli yn Llwyfenydd.

Mae'r Lyvennet Beck yn rhedeg trwy Crosby Ravensworth, yn hen Swydd Westmorland. Mae ei henw yn tarddu o llwyfen ac fel enw afon neu nant, mae felly yn eithaf cyffredin. Awgrymodd Hogg[1] mai hon oedd Llwyfenydd Taliesin. Gerllaw mae caer neu ddinas yn dyddio o'r Oesoedd Tywyll o'r enw Ewe's Close.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hogg. A. H. A. (1946) 'Llwyfenydd', Antiquity, (80), tt. 210–11

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960; arg. newydd 1977).