Afon Lyvennet

Oddi ar Wicipedia
Afon Lyvennet
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCumbria Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.6283°N 2.6078°W Edit this on Wikidata
AberAfon Eden Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Leith Edit this on Wikidata
Map

Afon yn Cumbria, gogledd-orllewin Lloegr, yw Afon Lyvennet.

Tardda afon Lyvennet (fel Lyvennet Beck) ger Robin Hood's Grave ar Rosdir Crosby Ravensworth, ardal gyfoethog ei henebion. Oddi yno mae'n llifo i gyfeiriad y gogledd trwy Crosby Ravensworth, Mauld's Meaburn a King's Meaburn, lle mae'n cael yr enw Afon Lyvennet.

Mae Afon Leith yn ymuno ag afon Lyvennet cyn i'r afon honno yn ei thro gyrraedd ei chymer yn Afon Eden.

Mae'n bosibl bod afon a dyffryn Lyvennet yn cadw enw bro Llwyfenydd, y cyfeirir ati yng nghanu Taliesin i Urien Rheged a'i fab Owain ab Urien. Credir bod Llwyfenydd yn rhan o deyrnas Rheged yn y 6g. Mae'r hen ffurfiau ar yr enw yn cynnwys Leveneth, Lyuened a Leuennydd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960), tud. xxix.
Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato