Gruffudd Phylip

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gruffudd Philip)
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd proffesiynol o ardal Ardudwy, Meirionnydd, oedd Gruffudd Phylip (bu marw yn 1666). Mae'n cael ei ystyried yn un o'r clerwyr olaf.

Roedd yn un o'r teulu o feirdd o Ardudwy yn yr 16eg ganrif a'r ganrif olynnol a adnabyddir fel Phylipiaid Ardudwy. Roeddent yn ddisgynyddion i ymsefydlwyr Normanaidd yn yr ardal yn y 12fed ganrif ond cawsont eu cymathu i'r gymdeithas Gymreig o'u cwmpas. Mae'r Phylipiaid yn cynrychioli to olaf Beirdd yr Uchelwyr, y beirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru yn yr Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern. Arferent fynd ar deithiau clera gan ymweld ac aelwydau mawr gogledd Cymru. Mae eu gwaith yn ddrych i gymdeithas y cyfnod a'r newidiadau a welwyd.

Roedd Gruffudd yn fab i'r bardd Siôn Phylip ac yn frawd i fardd arall yn y teulu, sef Phylip Siôn Phylip. Mae Gruffudd yn cael ei ystyried yn un o'r clerwyr olaf. Arferai Gruffudd clera o gwmpas aelwydydd gogledd Cymru, ac yn enwedig Eifionydd ac Ardudwy. Roedd ei noddwyr yn cynnwys Fychaniaid Corsygedol, Ardudwy. Ceir tua thrigain cywydd o waith Gruffudd ar glawr heddiw. Cyfansoddodd nifer o gerddi ar y mesurau rhydd hefyd, ac mae'r ffaith yna ynddi ei hun yn dangos faint oedd y traddodiad barddol wedi dirywio erbyn cyfnod Gruffudd. Mae ei gerddi yn cynnwys cywydd moliant i Owen Wynne o'r Glyn ar achlysur ei briodas (1661) a chywydd marwnad i'w dad, Siôn Phylip (m. 1620).