Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011 | |
---|---|
"Feel Your Heart Beat" ("Teimlwch Eich Curiad Calon") | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 10 Mai 2011 |
Rownd cyn-derfynol 2 | 12 Mai 2011 |
Rownd terfynol | 14 Mai 2011 |
Cynhyrchiad | |
Lleoliad | Yr Almaen |
Cyflwynyddion | Anke Engelke Judith Rakers Stefan Raab |
Cystadleuwyr | |
Tynnu'n ôl | Neb |
Canlyniadau | |
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011 oedd y 56fed Cystadleuaeth Cân Eurovision. "Running Scared" oedd y gân fuddugol, a berfformir gan Ell a Nikki a gynrychiolai Aserbaijan. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Düsseldorf, Yr Almaen ar ôl i Lena Meyer-Landrut ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2010 gyda'i chân "Satellite". Cynheliwyd rowndiau cyn-derfynol ar 10 a 12 Mai gyda'r rownd derfynol ar 14 Mai.[1] Mae'r gwledydd sydd wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth wedi cynnwys Awstria, sydd wedi dychwelyd ar ôl absenoldeb o dair blynedd, Yr Eidal, sydd wedi cystadlu am y tro cyntaf ers 1997 ac yn awr aelod o'r "Big 5", Hwngari, ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd, a San Marino, a oedd yn cystadlu am y tro cyntaf ers 2008.
Man cyfarfod
[golygu | golygu cod]Cynhelir y gystadleuaeth yn yr Esprit Arena, Düsseldorf.[2][3] Hwn fydd y trydydd tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn yr Almaen (fe'u cynhaliwyd yn yr Almaen yn flaenorol yn 1957 a 1983). Hefyd hwn fydd y tro cyntaf y cynhelir y gystadleuaeth yn yr Almaen fel gwlad unedig. Enillydd cyntaf y '4 Mawr' yw'r Almaen. Cyfranoga'r '4 Mawr' y mwyaf o bres i'r UDE: yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a Sbaen - sydd felly yn eu caniatáu i gystadlu yn y rownd derfynol, a hynny ers i'r rheol gael ei chyflwyno yn 2000.
Dewis man cyfarfod
[golygu | golygu cod]Mynegodd sawl dinas eu diddordeb i gynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011. Bu gan Berlin, Cwlen, Düsseldorf, Frankfurt am Main, Gelsenkirchen, Hamburg, Hannover a München ddiddordeb yn wreiddiol i gynnal y gystadleuaeth yn 2011.[4][5][6] Cyhoeddodd NDR eu rhestr fer o ddinasoedd a allai gynnal y gystadleuaeth a oedd yn cynnwys Berlin, prifddinas Yr Almaen; Hamburg, dinas ail fwyaf Yr Almaen; Hannover, tref enedigol Lena; a Düsseldorf, prifddinas rhanbarth Nordrhein-Westfalen.
Esprit Arena
[golygu | golygu cod]Gall stadiwm yr Esprit Arena ddal 24,000 o wylwyr ar gyfer y Gystadleuaeth Cân Eurovision.[7] Gall Düsseldorf ddarparu 23,000 o welyâu a 2,000 mwy yn yr ardal gyfagos ac ar longau ar Afon Rhein. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Düsseldorf yn agos i'r man cyfarfod, a bydd arena athletau, sydd yn gyfagos hefyd, yn cael ei ddefnyddio fel canolfan y wasg i letya 1,500 o newyddiadurwyr.
Cysyniad y Gystadleuaeth
[golygu | golygu cod]Ar 13 Hydref 2010 cyhoeddodd Thomas Schreiber, cydlynydd i ARD, fanylion am y cysyniad: bydd yr Esprit Arena yn cael ei rhannu'n ddwy ran. Adeiladir y llwyfan ar un ochr a bydd yr ochr arall yn cael ei defnyddio fel ystafelloedd gwisgo ac ystafelloedd i gyd-weithwyr yr artistiaid. Bydd tocynnau ar gael ar gyfer saith o sioeau yn gyfan gwbl (y rownd derfynol, y ddau rownd cyn-derfynol a phedwar ymarfer gwisg).
Fformat
[golygu | golygu cod]Gall 4 gwlad "4 Mawr" a'r wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth gystadlu yn y rownd derfynol yn unig, gan osgoi'r rowndiau cynderfynol. Yng nghystadleuaeth 2011, bydd un o'r "4 Mawr" a gwlad gynnal y gystadleuaeth yr un peth, sef yr Almaen, ac o ganlyniad mae hyn wedi gadael man gwag. Yn y cyfarfod Grŵp Cyfeireb ym Melgrade, penderfynwyd y byddai llai o gyfranogwyr yn y rownd derfynol. Bydd 24 gwlad yn cystadlu yn lle 25.[8] Sut bynnag, mae'r Eidal wedi dychwelyd i'r gystadleuaeth ac wedi dod un o'r "5 Mawr" felly bydd Yr Eidal yn perfformio yn y rownd derfynol yn awtomatig sy'n golygu y bydd 25 o wledydd yn perfformio yn y rownd derfynol.
Ar 30 Awst 2010, cyhoeddodd Svante Stockselius y byddai'n ymddeol fel Goruchwyliwr Gweithredol Cystadleuaeth Cân Eurovision ar 31 Rhagfyr 2010.[9] Ar 26 Tachwedd 2010, cyhoeddodd yr UDE y bydd Jon Ola Sand yn Oruchwyliwr Gweithredol newydd Cystadleuaeth Cân Eurovision.[10]
Dyraniadau pot
[golygu | golygu cod]Cafodd y gwledydd sy'n cystadlu eu rhannu'n chwe pot, yn seiliedig ar batrymau bleidleisio hyd at 2010 ar 17 Ionawr 2011. Cafodd y gwledydd eu dewis o'r potiau i benderfynu a fyddant yn cystadlu yn y rownd cyn-derfynol cyntaf neu'r ail rownd cyn-derfynol. Hefyd, mae'r dewis yn penderfynu a fydd yn rownd gyn-derfynol y "5 Mawr" (Yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Yr Eidal, Ffrainc, Sbaen) wledydd bleidleisio ynddo.
Mae Israel wedi gofyn i gystadlu yn yr ail rownd cyn-derfynol o achos Diwrnod Cofio Israel yn gwrthdaro â'r rownd cyn-derfynol cyntaf. Roedd darlledwr yr Almaen, NDR, wedi gofyn am ganiatâd i bleidleisio yn yr ail rownd cyn-derfynol am resymau amserlennu.[11]
Pot 1 | Pot 2 | Pot 3 | Pot 4 | Pot 5 | Pot 6 |
---|---|---|---|---|---|
Cyfranogwyr
[golygu | golygu cod]
|
Cyfranogwyr y rowndiau cynderfynol
[golygu | golygu cod]Y rownd cyn-derfynol gyntaf
[golygu | golygu cod]- Cynhaliwyd y rownd cyn-derfynol gyntaf ar 10 Mai 2011.
- Mae'r 10 gwlad gyda'r mwyaf o bwyntiau o bleidleisiau'r ffôn a'r rheithgorau wedi symud ymlaen i'r rownd derfynol.
- Pleidlesiodd y Deyrnas Unedig a Sbaen yn y rownd hon.
Yr ail rownd cyn-derfynol
[golygu | golygu cod]- Cynhaliwyd yr ail rownd cyn-derfynol ar 12 Mai 2011.
- Mae'r 10 gwlad gyda'r mwyaf o bwyntiau o bleidleisiau'r ffôn a'r rheithgorau wedi symud ymlaen i'r rownd derfynol.
- Pleidleisiodd yr Almaen, yr Eidal a Ffrainc yn y rownd hon.
Cyfranogwyr y rownd derfynol
[golygu | golygu cod]- Cynhaliwyd y rownd derfynol ar 14 Mai 2011.
- Ni allai dim ond y "5 Mawr" berfformio yn y rownd derfynol yn awtomatig.
- Perfformiodd y 10 gwlad gyda'r mwyaf o bwyntiau ymhob rownd gynderfynol yn y rownd derfynol.
Artistiaid sy'n dychwelyd
[golygu | golygu cod]Artist | Gwlad | Cystadleuaeth(au) blaenorol |
---|---|---|
Dino Merlin | Bosnia-Hertsegofina | 1999 (7fed) |
Lena Meyer-Landrut | Yr Almaen | 2010 (enillwr) |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ESC-Finale 2011 findet am 14. Mai statt (Almaeneg)[dolen farw]
- ↑ [1]
- ↑ [2]
- ↑ "First host city rumours". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-02. Cyrchwyd 2010-05-31.
- ↑ "GERMANY - Seven cities already declared interest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-02. Cyrchwyd 2010-06-03.
- ↑ "Jetzt will auch Schalke den Grand Prix". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-22. Cyrchwyd 2010-06-03.
- ↑ [3]
- ↑ Reference Group gathered in Belgrade
- ↑ Svante Stockselius says Eurovision farewell
- ↑ Jon Ola Sand new Executive Supervisor
- ↑ Düsseldorf gets ready for exchange and draw
- ↑ 12.0 12.1 43 nations on 2011 participants list!
- ↑ 13.0 13.1 Eurovision Song Contest 2011 Semi-Final (1)
- ↑ 14.0 14.1 Eurovision Song Contest 2011 Semi-Final (2)
- ↑ 15.0 15.1 Eurovision Song Contest 2011 Final