Cystadleuaeth Cân Eurovision 1977

Oddi ar Wicipedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 1977
Dyddiad(au)
Dyddiad7 Mai 1977
Cynhyrchiad
LleoliadWembley Conference Centre, Llundain, Y Deyrnas Unedig
CyflwynyddionAngela Rippon
ArweinyddRonnie Hazlehurst
DarlledwrBritish Broadcasting Corporation (BBC)
Cyfarwyddwyd ganStewart Morris
Perfformiad agoriadolTaith o wledydd y Deyrnas Unedig o'r awyr
Perfformiad egwylMr Acker Bilk a'r Paramount Jazz Men
Cystadleuwyr
Nifer18
Dangosiad cyntafDim
DychweliadauBaner Sweden Sweden
Tynnu'n ôlBaner Iwgoslafia Iwgoslafia
Canlyniadau
System pleidleisioMae beirniaid proffesiynol o bob wlad yn rhoi 12, 10, 8-1 pwynt at eu deg hoff gân
'Nul points' yn y rownd terfynolDim
Cân fuddugolBaner Ffrainc Ffrainc
"L'oiseau et l'enfant"
◀1976   Cystadleuaeth Cân Eurovision   1978▶

Cystadleuaeth Cân Eurovision 1977 oedd 22ain Cystadleuaeth Cân Eurovision blynyddol. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Llundain ar ôl llwyddiant Brotherhood of Man ym 1976 gyda'r cân "Save Your Kisses For Me". Roedd y gystadleuaeth hon y gyntaf i fod ym mis Mai ers y gystadleuaeth gyntaf ym 1956. Cyflwynydd y sioe oedd Angela Rippon.

Daeth 18 wlad i'r gystadleuaeth; dychwelodd Sweden ar ôl absenoldeb yn y gystadleuaeth flaenorol, a ni chystadlodd Iwgoslafia. Roedd Tiwnisia wedi bwriadu cystadlu, ond wedi tynnu allan.

Enillodd Ffrainc gyda'r cân "L'oiseau et l'enfant" ("Yr aderyn a'r plentyn"), perfformiwyd gan Marie Myriam, ysgrifennwyd gan Joe Gracy a chyfansoddwyd gan Jean-Paul Cara. Daeth y Deyrnas Unedig yn ail gyda Lynsey de Paul a Mike Moran, ac Iwerddon, Monaco a Gwlad Groeg yn cwblhau y pump uchaf. Roedd llwyddiant Ffrainc yn record hyd yn hyn, a chafodd ei thorri gan Nodyn:Lwcsembwrg ym 1983.

Cynhyrchiad[golygu | golygu cod]

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Dewiswyd y Canolfan Cynhadledd Wembley newydd i fod y lleoliad ar gyfer y gystadleuaeth. Cafodd y canolfan ei dymchwel yn 2006.

Fformat[golygu | golygu cod]

Daeth y rheol i ganu mewn ieithoedd swyddogol mewn grym eto yn y gystadleuaeth hon, pedair mlynedd ar ôl dewisiad i sgrapio'r rheol ar gyfer y gystadleuaeth ym 1973. Serch hynny, roedd caniatad gan Yr Almaen a Gwlad Belg canu yn Saesneg am y ffaith mai'r ddau gwlad wedi dewis eu caneuon yn barod wrth ystyried y rheol fel "awgrym".[1]

Roedd nifer o gamgymeriadau yn ystod y cyfnod pleidleisio, ac roedd angen i'r goruchwyliwr Clifford Brown gywiro'r pwyntiau. Cywirwyd y pwyntiau ar ôl y darllediad.

Arweinwyr[golygu | golygu cod]

Roedd arweinydd gan y cerddorfa ar gyfer pob perfformiad.[2]

Cystadleuwyr a chanlyniadau[golygu | golygu cod]

Trefn Gwlad Canwr Cân Iaith[3][4] Cyfieithiad Pwyntiau Safle[5]
1 Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon Swarbriggs Plus Two, TheThe Swarbriggs Plus Two "It's Nice to Be in Love Again" Saesneg "Mae'n neis bod mewn cariad eto" 119 3
2 Baner Monaco Monaco Torr, MichèleMichèle Torr "Une petite française" Ffrangeg "Ffrances fach" 96 4
3 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Lester, HeddyHeddy Lester "De mallemolen" Iseldireg "Meri-go-rownd" 35 12
4 Baner Awstria Awstria Schmetterlinge "Boom Boom Boomerang" Almaeneg 11 17
5 Baner Norwy Norwy Skorgan, AnitaAnita Skorgan "Casanova" Norwyeg 18 14
6 Baner Yr Almaen Yr Almaen Silver Convention "Telegram" Saesneg "Gwifreb" 55 8
7 Baner Lwcsembwrg Lwcsembwrg B, Anne-MarieAnne-Marie B "Frère Jacques" Ffrangeg 17 16
8 Baner Portiwgal Portiwgal Amigos, OsOs Amigos "Portugal no coração" Portiwgaleg "Portiwgal yn fy nghalon" 18 14
9 Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig Paul, Lynsey deLynsey de Paul and Mike Moran "Rock Bottom" Saesneg "Y gwaelod" 121 2
10 Baner Gwlad Groeg Gwlad Groeg Pascalis, Marianna, Robert and Bessy "Mathema solfege" (Μάθημα σολφέζ) Groeg "Gwers sol-ffa" 92 5
11 Baner Israel Israel Ilanit "Ahava Hi Shir Lishnayim" (אהבה היא שיר לשניים) Hebraeg "Mae cariad yn gân i ddau" 49 11
12 Baner Y Swistir Y Swistir Lienhard Band, PepePepe Lienhard Band "Swiss Lady" Almaeneg "Menyw Swisaidd" 71 6
13 Baner Sweden Sweden Forbes "Beatles" Swedeg 2 18
14 Baner Sbaen Sbaen Micky "Enséñame a cantar" Sbaeneg "Dysgwch fi i ganu" 52 9
15 Baner Yr Eidal Yr Eidal Martini, MiaMia Martini "Libera" Eidaleg "Rhydd" 33 13
16 Baner Y Ffindir Y Ffindir Aspelund, MonicaMonica Aspelund "Lapponia" Ffineg 50 10
17 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Dream Express "A Million in One, Two, Three" Saesneg "Miliwn mewn un, dau, tri" 69 7
18 Baner Ffrainc Ffrainc Myriam, MarieMarie Myriam "L'oiseau et l'enfant" Ffrangeg "Yr aderyn a'r plentyn" 136 1

Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

Gohiriwyd y gystadleuaeth am fis oherwydd streic gan ddynion camera a thechnegwyr y BBC. Hefyd, o ganlyniad i'r streiciau a diffyg amser trefnu'r gystadleuaeth, nid oedd cardiau lluniau ar gyfer y cynhyrchiad teledu, a dangoswyd y gynulleidfa yn eu lle.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "60 years of Eurovision Song Contest - the 70's". 60 years of Eurovision Song Contest (yn Saesneg). EBU. 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-28. Cyrchwyd 6 Awst 2022.
  2. "And the conductor is..." (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-13. Cyrchwyd 5 Awst 2022.
  3. "Eurovision Song Contest 1977". The Diggiloo Thrush. Cyrchwyd 6 Awst 2022.
  4. "Eurovision Song Contest 1977". 4Lyrics.eu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-24. Cyrchwyd 6 Awst 2022.
  5. "Final of London 1977" (yn Saesneg). European Broadcasting Union. Cyrchwyd 6 Awst 2022.