Cystadleuaeth Cân Eurovision 2019

Oddi ar Wicipedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2019
"Dare to Dream"
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 114 Mai 2019
Rownd cyn-derfynol 216 Mai 2019
Rownd terfynol18 Mai 2019
Cynhyrchiad
LleoliadExpo Tel Aviv, Israel
CyflwynyddionErez Tal
Bar Refaeli
Assi Azar
Lucy Ayoub
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlBaner Bwlgaria Bwlgaria
Baner Wcráin Wcráin
Canlyniadau
◀2018   Cystadleuaeth Cân Eurovision   2020▶
Duncan Laurence gyda Thlws Eurovision, 2019

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2019 oedd y 64fed Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynheliwyd y gystadleuaeth yn Tel Aviv, Israel, ar ôl i Netta ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2012 gyda'i chân "Toy".

Enillodd Duncan Laurence o'r Iseldiroedd y gystadleuaeth gyda'r gân "Arcade".[1] Canwyd y gân yn Saesneg.[2] Ysgrifennwyd y gân gan Laurence, Joel Sjöö, Wouter Hardy a Will Knox.

Er gwaethaf ei enw Seisnig, mae Laurence yn Iseldirwr a aned yn Spijkenisse, a'i fagu yn Hellevoetsluis. Dechreuodd ei yrfa roc yn y Rock Academy yn Tilburg, gan chwarae i sawl band ysgol,[3] gan gynnwys un ei hun, The Slick and Suited yn 2013. Aeth y band yma ymlaen i berfformio yn yr Eurosonic Noorderslag.[4][5] Mae Laurence yn ddeurywiol.[6]

Manion[golygu | golygu cod]

Cymerodd 41 gwlad ran yn y gystadleuaeth ond bu Bwlgaria a Iwcrain yn absennol. Tynnodd Bwlgaria eu ymgais yn ôl gan fod aelodau o'r grwp yn gweithio ar brosiectau eraill, tra bod Iwcrain wedi bwriadu cystadlu ond wedi tynnu nôl oherwydd anghydfod dros y ffeinal cenedlaethol.

Yn 2019 gwelwyd gweriniaeth Macedonia yn perfformio am y tro cyntaf o dan ei henw swyddogol newydd, "Gogledd Macedonia". Daeth hyn wedi dros dau ddegawd o anghytuno gyda Gwlad Groeg oedd yn gwrthwynebu i'r cyn-weriniaeth yn Iwgoslafia alw ei hun yn "Macedonia" gan fod hynny, yn ôl y Groegwyr, yn awgrymu perchnogaeth dros dalaith Macedonia yng Nghroeg a hefyd lladrata hunaniaeth Roegaidd yr enw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Duncan Laurence takes 'Arcade' to Eurovision for The Netherlands". eurovision.tv. 2019-03-07. Cyrchwyd 2019-03-08.
  2. "Arcade - Single by Duncan Laurence". Apple Music. Cyrchwyd 17 Mai 2019.
  3. name=whois>"Who is The Netherlands 2019 Eurovision entrant Duncan Laurence?". Metro. 16 Mai 2019. Cyrchwyd 17 Mai 2019.
  4. "VestingPop | Duncan Laurence". VestingPop. Cyrchwyd 2019-01-21.
  5. Duncan de Moor (2014-06-15). "The Slick and Suited". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-15. Cyrchwyd 2019-01-21. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  6. "𝕯𝖚𝖓𝖈𝖆𝖓 𝕷𝖆𝖚𝖗𝖊𝖓𝖈𝖊 on Instagram: ""Some say love..." A phrase of a great song by Bette Midler. To me love has no limits and especially not in gender. A couple of years ago I…"". Instagram.