Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012

Oddi ar Wicipedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012
"Light Your Fire"
("Cyneuwch Eich Tân")
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 122 Mai 2012
Rownd cyn-derfynol 224 Mai 2012
Rownd terfynol26 Mai 2012
Cynhyrchiad
LleoliadNeuadd Grisial Baku, Baku, Aserbaijan[1]
CyflwynyddionLeyla Aliyeva,
Eldar Gasimov a
Nargiz Birk-Petersen
Perfformiad agoriadolEll & Nikki: "Running Scared"
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlBaner Armenia Armenia
Baner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Canlyniadau
◀2011   Cystadleuaeth Cân Eurovision   2013▶
Llwyfan Eurovision 2012

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012 oedd y 57ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Baku, Aserbaijan, ar ôl i Ell a Nikki ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2011 gyda'u cân "Running Scared". Enillwyd y gystadleuaeth gan y gantores Swedaidd Loreen gyda'i chân "Euphoria" felly disgwylir y bydd Sweden yn cynnal y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2013.

Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 22 a 24 Mai 2012 a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 26 Mai 2012.[2] Ymunodd 10 gwlad o bob rownd gyn-derfynol â'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen yn y rownd derfynol. Cystadleuodd 42 o wledydd,[3] yn cynnwys Montenegro, oedd yn cyfranogi am y tro cyntaf ers 2009. Penderfynodd Armenia a Gwlad Pwyl beidio â chymryd rhan.

Fformat[golygu | golygu cod]

Penderfynwyd y byddai y system bleidleisio yn dychwelyd i'r ffenestr 15-munud a ddefnyddiwyd rhwng y gystadleuaeth 1998 a'r gystadleuaeth 2009. Dim ond ar ôl i bob gwlad berfformio y cafodd y gynulleidfa ddechrau pleidleisio. Disodlodd y gyfundrefn honno system lle cafodd y gynulleidfa bleidleisio o ddechrau'r gystadleuaeth ymlaen fel yn 2010 a 2011. Heb eu newid oedd y rheolau i bennu'r canlyniadau, sef hollt 50:50 rhwng rheithgorau cenedlaethol a phleidleisiau ffôn.[4]

Yn unol â rheolau swyddogol a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2011, bu 26 o wledydd yn perfformio yn y rownd derfynol, yn cynnwys y wlad letyol, y "5 Fawr", a'r 10 cystadleuwr aeth drwodd o bob rownd gyn-defrynol.[5] Hon oedd yr ail gystadleuaeth yn hanes Eurovision lle bu 26 o berfformwyr yn cymryd rhan, y tro cyntaf ers 2003.

Dyraniadau pot[golygu | golygu cod]

Ar 25 Ionawr 2012 ym Mhalas Buta cafodd y gwledydd sy'n cystadlu (ac eithrio'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen) eu rhannu yn chwe pot, yn seiliedig ar batrymau bleidleisio. Cafodd y gwledydd eu dewis o'r potiau i benderfynu a fyddent yn cystadlu yn y rownd gyn-derfynol gyntaf neu'r ail. Hefyd, roedd y dewis yn penderfynu ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r "5 Fawr" (yr Almaen, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, a Sbaen) yn pleidleisio.

Pot 1 Pot 2 Pot 3 Pot 4 Pot 5 Pot 6

Dyluniad graffeg[golygu | golygu cod]

Mae dyluniad y gystadleuaeth yn seiliedig ar thema'r gystadleuaeth, sef "Light Your Fire!" a gafodd ei ysbrydoli gan lysenw Aserbaijan, "Gwlad y Tân" ("Land of Fire").

Cyfranogwyr[golygu | golygu cod]

Cystadleuodd 42 o wledydd yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012. Cyhoeddodd Radio Televizija Crna Gora (RTCG), cwmni darlledu Montenegro, y byddai'n dychwelyd i'r gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2009. Mynegwyd amheuon yn Armenia o'r dechrau am gystadlu o achos pryderon diogelwch am ei chynrychiolydd yn sgil Rhyfel Nagorno-Karabakh sydd yn parhau rhwng Armenia ac Aserbaijian[6] ac ar 7 Mawrth 2012 cyhoeddodd Armenia na fyddai'n cystadlu.[7]

Cyfranogwyr y rownd gyn-derfynol gyntaf[golygu | golygu cod]

Pleidleisiodd Aserbaisian, yr Eidal a Sbaen yn y rownd hon. Gohiriodd Radio Televizioni Shqiptar (RTSH), cwmni teledu Albania, ddarllediad y gystadleuaeth gan ddefnyddio pleidlais y rheithgor yn unig, ar ôl i ddamwain bws ddifrifol gymryd lle yn y wlad.

O'r het[8] Gwlad[3] Iaith Artist Cân Cyfieithiad Cymraeg Safle Pwyntiau
1 Baner Montenegro Montenegro Saesneg, Serbeg Rambo Amadeus[9] "Euro Neuro"[10] Ewro Niwro 15 20
2 Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ Saesneg Greta Salóme & Jónsi "Never Forget" Paid Byth ag Anghofio 9 75
3 Baner Gwlad Groeg Gwlad Groeg Saesneg Eleftheria Eleftheriou "Aphrodisiac" Affrodisiac 4 116
4 Baner Latfia Latfia Saesneg[11] Anmary "Beautiful Song" Cân Hardd 16 17
5 Baner Albania Albania Albaneg[A] Rona Nishliu[12] "Suus" Personol 2 146
6 Baner Rwmania Rwmania Saesneg, Sbaeneg Mandinga "Zaleilah" - 3 120
7 Baner Y Swistir Y Swistir Saesneg[13] Sinplus[13] "Unbreakable"[13] Anhoradwy 11 45
8 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Saesneg Iris[14] "Would You?" Fyddet Ti? 17 16
9 Baner Y Ffindir Y Ffindir Swedeg Pernilla Karlsson "När jag blundar" Pan Fyddaf yn Cau Fy Llygaid 12 41
10 Baner Israel Israel Hebraeg, Saesneg Izabo "Time" Amser 13 33
11 Baner San Marino San Marino Saesneg Valentina Monetta "The Social Network Song" Cân y Rhwydwaith Gymdeithasol 14 31
12 Baner Cyprus Cyprus Saesneg[15] Ivi Adamou[16] "La La Love"[17] La La Cariad 7 91
13 Baner Denmarc Denmarc Saesneg[18] Soluna Samay[18] "Should've Known Better"[18] Dylwn i Fod Wedi Gwybod yn Well 9 63
14 Baner Rwsia Rwsia Udmurt, Saesneg Buranovskiye Babushki "Party for Everybody" Parti i Bawb 1 152
15 Baner Hwngari Hwngari Saesneg Compact Disco "Sound of Our Hearts" Sain Ein Calonnau 10 52
16 Baner Awstria Awstria Almaeneg[B] Trackshittaz "Woki mit deim Popo" Sigla Dy Ben-ôl 18 8
17 Baner Moldofa Moldofa Saesneg[C] Pasha Parfeny "Lăutar" Cerddor traddodiadol 5 100
18 Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon Saesneg Jedward "Waterline" Llinell Ddŵr 6 92
  • A ^ Er bod y gân yn Albaneg, mae'r teitl yn Lladin.
  • B ^ Cenir y gân yn nhafodiaith Mühlviertlerisch (Awstria Uchaf).
  • C ^ Er bod y gân yn Saesneg, mae'r teitl yn Rwmaneg.

Cyfranogwyr yr ail rownd gyn-derfynol[golygu | golygu cod]

Pleidleisiodd Yr Almaen, y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn y rownd hon. Gofynnodd yr Almaen i bleidleisio yn y rown hon. Byddai Armenia wedi cymryd rhan yn y rownd hon ond yn ddiweddarach aeth allan o'r gystadleuaeth oherwydd rhesymau diogelwch.

O'r het[8] Gwlad[3] Iaith Artist Cân Cyfieithiad Cymraeg Safle Pwyntiau
1 Baner Serbia Serbia Serbeg Željko Joksimović[19][20] "Nije ljubav stvar" (Није љубав ствар) Nid Rhywbeth yw Cariad... 2 159
2 Baner Gogledd Macedonia Macedonia Macedoneg Kaliopi "Crno i belo" (Црно и бело) Du a Gwyn 9 53
3 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Saesneg Joan Franka "You and Me" Ti a Fi 15 35
4 Baner Malta Malta Saesneg[21] Kurt Calleja "This is the Night"[22][23] Dyma'r Nos 7 70
5 Baner Belarws Belarws Saesneg[24] Litesound "We are the Heroes" Ni yw'r Arwyr 16 35
6 Baner Portiwgal Portiwgal Portiwgaleg[25] Filipa Sousa "Vida Minha" Fy Mywyd I 13 39
7 Baner Wcráin Wcráin Saesneg Gaitana "Be My Guest" Mae Croeso i Chi 8 64
8 Baner Bwlgaria Bwlgaria Bwlgareg[D] Sofi Marinova "Love Unlimited" Cariad Di-derfyn 11 45
9 Baner Slofenia Slofenia Slofeneg Eva Boto "Verjamem" Credaf 17 31
10 Baner Croatia Croatia Croateg Nina Badrić[26][27] "Nebo" Awyr 12 42
11 Baner Sweden Sweden Saesneg Loreen "Euphoria" Ewfforia 1 181
12 Baner Georgia Georgia Saesneg Anri Jokhadze "I'm a Joker" Jôcwr Dw i 14 36
13 Baner Twrci Twrci Saesneg Can Bonomo[28] "Love Me Back" Cara Fi'n Ôl 5 80
14 Baner Estonia Estonia Estoneg Ott Lepland "Kuula" Gwranda 4 100
15 Baner Slofacia Slofacia Saesneg Max Jason Mai "Don't Close Your Eyes" Paid â Chau Dy Lygaid 18 22
16 Baner Norwy Norwy Saesneg Tooji "Stay" Aros 10 45
17 Baner Bosnia a Hercegovina Bosnia-Hertsegofina Bosneg MayaSar[29] "Korake ti znam" Mi Wn Dy Gamau 6 77
18 Baner Lithwania Lithwania Saesneg Donny Montell "Love is Blind" Mae Cariad yn Ddall 3 104

Cyfranogwyr y rownd derfynol[golygu | golygu cod]

O'r het[8] Gwlad[3] Iaith Artist Cân Cyfieithiad Cymraeg Safle Pwyntiau
1 Baner Prydain Fawr Deyrnas Unedig Saesneg Engelbert Humperdinck "Love Will Set You Free" Bydd Cariad yn Dy Ryddhau Di 25 12
2 Baner Hwngari Hwngari Saesneg Compact Disco "Sound of Our Hearts" Sain ein Calonnau 24 19
3 Baner Albania Albania Albaneg[A] Rona Nishliu "Suus" Personol 5 146
4 Baner Lithwania Lithwania Saesneg Donny Montell "Love is Blind" Mae Cariad yn Ddall 14 70
5 Baner Bosnia a Hercegovina Bosnia-Hertsegofina Bosneg MayaSar "Korake ti Znam" Mi Wn Dy Gamau 18 55
6 Baner Rwsia Rwsia Rwsieg[B], Saesneg Buranovskiye Babushki "Party for Everybody" Parti i Bawb 2 259
7 Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ Saesneg Greta Salóme & Jónsi "Never Forget" Paid Byth ag Anghofio 20 46
8 Baner Cyprus Cyprus Saesneg Ivi Adamou "La La Love" La La Cariad 16 65
9 Baner Ffrainc Ffrainc Ffrangeg, Saesneg[30] Anggun[31] "Echo (You and I)"[30] Atsain (Ti a Fi) 22 21
10 Baner Yr Eidal Yr Eidal Eidaleg, Saesneg Nina Zilli "L'amore è Femmina (Out of Love)" Mae Cariad yn Fenywaidd (Allan o Gariad) 9 101
11 Baner Estonia Estonia Estoneg Ott Lepland "Kuula" Gwranda 6 120
12 Baner Norwy Norwy Saesneg Tooji "Stay" Aros 26 7
13 Baner Aserbaijan Aserbaijan Saesneg Sabina Babayeva "When the Music Dies" Pan Fo Farw'r Gerddoriaeth 4 150
14 Baner Rwmania Rwmania Saesneg, Sbaeneg Mandinga "Zaleilah" - 12 71
15 Baner Denmarc Denmarc Saesneg Soluna Samay "Should've Known Better" Dylwn Fod Wedi Gwybod yn Well 23 21
16 Baner Gwlad Groeg Gwlad Groeg Saesneg Eleftheria Eleftheriou "Aphrodisiac" Affrodisiac 17 64
17 Baner Sweden Sweden Saesneg Loreen "Euphoria" Ewfforia 1 372
18 Baner Twrci Twrci Saesneg Can Bonomo "Love Me Back" Cara Fi'n Ôl 7 112
19 Baner Sbaen Sbaen Sbaeneg Pastora Soler[32] "Quédate Conmigo" Aros gyda Fi 10 97
20 Baner Yr Almaen Yr Almaen Saesneg Roman Lob "Standing Still" Sefyll yn Llonydd 8 110
21 Baner Malta Malta Saesneg Kurt Calleja "This is the Night" Dyma'r Nos 21 41
22 Baner Gogledd Macedonia Macedonia Macedoneg Kaliopi "Crno i belo" (Црно и бело) Du a Gwyn 13 71
23 Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon Saesneg Jedward "Waterline" Llinell Ddŵr 19 46
24 Baner Serbia Serbia Serbeg Željko Joksimović "Nije ljubav stvar" (Није љубав ствар) Nid Rhywbeth yw cariad 3 214
25 Baner Wcráin Wcráin Saesneg Gaitana "Be My Guest" Mae Croeso i Chi 15 65
26 Baner Moldofa Moldofa Saesneg[Ch] Pasha Parfeny "Lăutar" Cerddor traddodiadol 11 81

Artistiaid sy'n dychwelyd[golygu | golygu cod]

Artist Gwlad Cystadleuaeth(au) blaenorol Safle
Jónsi Baner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ 2004 19eg
Jedward Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon 2011 8fed
Kaliopi Baner Gogledd Macedonia Macedonia 1996 26ain (rownd gyn-gymhwysol)
Željko Joksimović Baner Serbia Serbia 2004 (yn cynrychioli Serbia a Montenegro) 2ail

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Crystal Hall approved as Eurovision 2012 venue | News | Eurovision Song Contest - Baku 2012
  2. Eurovision Song Contest 2012 Grand Final
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 43 countries represented at Eurovision 2012
  4. EBU restores televoting window as from 2012
  5. Extracts from the 2012 Eurovision Song Contest Rules
  6. Armenia: Application Does Not Necessarily Mean Participation in Eurovision
  7. Armenia withdraws from Eurovision 2012
  8. 8.0 8.1 8.2 Results of the 2012 Running Order Draw!
  9. Montenegro: RTCG selects Rambo Amadeus for Baku!
  10. "Montenegro: Rambo Amadeus to sing 'Euro neuro'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-28. Cyrchwyd 2019-02-07.
  11. "Latvia: 5 final songs known". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-08. Cyrchwyd 2012-01-28.
  12. "Rona Nishliu will represent Albania in Baku". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-08. Cyrchwyd 2011-12-30.
  13. 13.0 13.1 13.2 Sinplus wins Swiss final!
  14. [Belgium: Iris to represent Belgium in Baku http://www.esctoday.com/news/read/17837]
  15. "Cyprus: The three Cypriot National Final entries". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-19. Cyrchwyd 2012-01-28.
  16. "Ivi Adamou to represent Cyprus in Baku". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-11-30.
  17. [Cyprus: National Final on 25th January http://www.esctoday.com/news/read/17892 Archifwyd 2011-12-01 yn y Peiriant Wayback.]
  18. 18.0 18.1 18.2 Soluna Samay to represent Denmark in Baku
  19. [Zeljko Joksimovic to represent Serbia in Baku http://www.esctoday.com/news/read/17838]
  20. [Željko Joksimović to represent Serbia in Baku http://www.eurovision.tv/page/news?id=40433&_t=zeljko_joksimovic_to_represent_serbia_in_baku]
  21. "Malta: 62 songs qualified to 2nd phase". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-13. Cyrchwyd 2011-11-30.
  22. This is the Night to Baku ESCDaily
  23. This is the Night Eurovision.tv
  24. "Belarus: 15 candidates revealed". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-09. Cyrchwyd 2011-12-30.
  25. http://pt.scribd.com/doc/75208487/Festival-Da-Cancao-2012-Regulamento-RTP
  26. "Nina Badrić predstavlja Hrvatsku na Eurosongu" (yn Croatian). 2012-01-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-04. Cyrchwyd 10 January 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
  27. Jiandani, Sanjay (2012-01-10). "Nina Badric to represent Croatia in Baku!". ESCToday. Cyrchwyd 10 January 2012. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  28. [Can Bonomo to represent Turkey in Baku http://www.eurovision.tv/page/news?id=43793&_t=can_bonomo_to_represent_turkey_in_baku]
  29. http://escdaily.com/articles/28168[dolen marw]
  30. 30.0 30.1 http://www.leparisien.fr/tv/eurovision-anggun-a-sa-chanson-17-01-2012-1815705.php
  31. [BREAKING NEWS: Anggun to represent France in 2012! http://escdaily.com/articles/26927 Archifwyd 2011-11-30 yn y Peiriant Wayback.]
  32. Pastora Soler representará a España en Eurovisión 2012 en Bakú