Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 | |
---|---|
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | Mai 2023 |
Rownd cyn-derfynol 2 | Mai 2023 |
Rownd terfynol | Mai 2023 |
Cynhyrchiad | |
Lleoliad | I'w bennu, Y Deyrnas Unedig |
Darlledwr | British Broadcasting Corporation (BBC) |
Cystadleuwyr | |
Nifer | I'w bennu |
Canlyniadau | |
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 fydd y 67fed Cystadleuaeth Cân Eurovision, gyda dau rownd cyn-derfynol a rownd terfynol ym Mai 2023.[1] Enillodd Wcráin y gystadleuaeth yn 2022 gyda'r gân "Stefania" a pherfformiwyd gan Kalush Orchestra.
Fel arfer, cynhelir y gystadleuaeth ganlynol yn y wlad a ennillodd y gystadleuaeth flaenorol, ond o ganlyniad i Goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022, rhyddhaodd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) ddatganiad gan ddweud na fyddai'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Wcráin yn 2023.[2] Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig am y nawfed tro[3]. Roedd galwadau i'r gystadleuaeth cael ei chynnal yng Nghymru,[4][5], ond ar 3 Awst 2022 mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi na fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, oherwydd trefnir digwyddiadau eraill yn barod.[6]
Lleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar ôl y cyhoeddiad gan yr Undeb Darlledu Ewropeaidd a ddywedodd na fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Wcráin, mynegodd sawl dinas y Deyrnas Unedig ddiddordeb mewn cynnal y gystadleuaeth, gan gynnwys Caerdydd.[7]
Y llynedd, roedd meini prawf yr EBU am leoliad addas yn cynnwys digon o le am 10,000 o wylwyr a chanolfan i'r wasg, ac yn agos at faes awyr rhyngwladol a digon o lety.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Eurovision is over for another year... so what's the plan for 2023?". Eurovision.tv (yn Saesneg). 18 Mai 2022. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2022.
- ↑ "EBU STATEMENT ON HOSTING OF 2023 EUROVISION SONG CONTEST". EBU.ch (yn Saesneg). 17 Mehefin 2022. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2022.
- ↑ "United Kingdom to host Eurovision Song Contest 2023". Eurovision.tv (yn Saesneg). 25 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Galw am gynnal Eurovision yng Nghaerdydd". Golwg360. 27 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Eurovision 2023: Principality Stadium keen to host song contest". Gwefan newyddion BBC. 20 Mehefin 2022.
- ↑ "Cyngor Caerdydd 'ddim am barhau â chais i gynnal Eurovision'". Newyddion S4C. 3 Awst 2022. Cyrchwyd 3 Awst 2022.
- ↑ Nathan Picot (17 Mehefin 2022). "Cardiff express interest in a bid for Eurovision 2023" (yn Saesneg). Eurovoix. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2022.