Neidio i'r cynnwys

Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969

Oddi ar Wicipedia
Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969
Dyddiad(au)
Dyddiad29 Mawrth 1969
Cynhyrchiad
Lleoliad
CyflwynyddionLaurita Valenzuela
DarlledwrTelevisión Española (TVE)
Cyfarwyddwyd ganRamón Díez
Cystadleuwyr
Nifer y gwledydd16
Dangosiad cyntafDim
DychweliadauDim
Tynnu'n ôlBaner Awstria Awstria
Canlyniadau
System pleidleisioRoedd beirniaid deg aelod gan bob wlad yn rhannu deg pwynt ymhlith eu hoff caneuon.
Cân fuddugol
◀1968 Cystadleuaeth Cân Eurovision 1970▶

Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969 oedd y 14eg Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ym Madrid, Sbaen wedi i'r wlad ennill y gystadleuaeth 1968 gyda'r gân "La La La" gan Massiel.

Mae'r gystadleuaeth 1969 yn adnabyddus am ei phedwar enillydd, sef Sbaen gyda "Vivo cantando" gan Salomé, Y Deyrnas Unedig gyda "Boom Bang-a-Bang" gan Lulu, Yr Iseldiroedd gyda "De troubadour" gan Lenny Kuhr, a Ffrainc gydag "Un jour, un enfant" gan Frida Boccara. Nid oedd rheolau'r gystadleuaeth ar y pryd yn ystyried y posibilrwydd o dorri cyfartaledd, felly penderfynwyd bod y pedair gwlad yn gyd-enillwyr.[1] Ni fydd angen torri cyfartaledd eto hyd at y gystadleuaeth 1991.

Enillodd Ffrainc am y pedwerydd tro, a oedd yn record ar y pryd. Enillodd yr Iseldiroedd am y drydedd tro, gyda Sbaen a'r Deyrnas Unedig yn ennill am yr eildro wrth i Sbaen fod y wlad gyntaf i ennill dau Eurovision yn olynol.

Cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]

Cymerodd 16 gwlad ran yn y gystadleuaeth ond bu Awstria yn absennol.[1] Nid oedd unrhyw newidiadau eraill o ran gwledydd yn cystadlu am y tro cyntaf, tynnu'n ôl neu ddychwelyd i'r gystadleuaeth.

Roedd yna ymgais gan BBC Cymru i gystadlu yn y gystadleuaeth o dan faner Cymru gyda chân Gymraeg. Fe ddatblygwyd Cân i Gymru i ddewis y gân a pherfformiwr ar gyfer Eurovision, ond yn anffodus penderfynwyd nad oedd modd i'r BBC anfon dau berfformiwr i'r gystadleuaeth.[2]

Enillodd Margaret Williams Gân i Gymru 1969 gyda'r gân "Y Cwilt Cymreig".

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]
Canlyniadau'r Gystadleuaeth Cân Eurovision 1969[1]
TrefnGwladArtistCânIaithSaflePwyntiau
01Baner Iwgoslafia IwgoslafiaIvan"Pozdrav svijetu"Serbo-Croateg135
02Baner Lwcsembwrg LwcsembwrgRomuald"Catherine"Ffrangeg117
03Baner Sbaen SbaenSalomé"Vivo cantando"Sbaeneg118
04Baner Monaco MonacoJean Jacques"Maman, Maman"Ffrangeg611
05Baner Gweriniaeth Iwerddon IwerddonMuriel Day"The Wages of Love"Saesneg710
06Baner Yr Eidal Yr EidalIva Zanicchi"Due grosse lacrime bianche"Eidaleg135
07Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas UnedigLulu"Boom Bang-a-Bang"Saesneg118
08Baner Yr Iseldiroedd Yr IseldiroeddLenny Kuhr"De troubadour"Iseldireg118
09Baner Sweden SwedenTommy Körberg"Judy, min vän"Swedeg98
10Baner Gwlad Belg Gwlad BelgLouis Neefs"Jennifer Jennings"Iseldireg710
11Baner Y Swistir Y SwistirPaola del Medico"Bonjour, Bonjour"Almaeneg513
12Baner Norwy NorwyKirsti Sparboe"Oj, oj, oj, så glad jeg skal bli"Norwyeg161
13Baner Yr Almaen Yr AlmaenSiw Malmkvist"Primaballerina"Almaeneg98
14Baner Ffrainc FfraincFrida Boccara"Un jour, un enfant"Ffrangeg118
15Baner Portiwgal PortiwgalSimone de Oliveira"Desfolhada portuguesa"Portiwgaleg154
16Baner Y Ffindir Y FfindirJarkko a Laura"Kuin silloin ennen"Ffinneg126

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 "Madrid 1969". eurovision.tv. Cyrchwyd 2024-04-16.
  2. "Can i Gymru". ukgameshows.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-01-14. Cyrchwyd 2024-04-16.