Bryngaer Tregaron

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

52°13′N 3°55′W / 52.22°N 3.92°W / 52.22; -3.92 (Bryngaer Tregaron (Sunnyhill Wood).)

Bryngaer Tregaron
Bryngaer Tregaron
Bryngaer Tregaron

Mae Bryngaer Tregaron (y cyfeirir ato yn Saesneg yn ôl ei lleoliad fel bryngaer Sunnyhill Wood) yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Tregaron yn sir Ceredigion, Cymru; cyfeirnod OS: SN686601.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir y fryngaer ar lethrau bryn ger Tregaron tua 230 metr i fyny. Bryngaer gyda dau fur amddiffynnol ydyw, y naill o fewn y llall, ac fe'i disgrifir fel "caer ar drwyn o dir (promontory fort) wedi'i hamddiffyn yn gryf" sy'n "nodweddiadol o Oes yr Haearn".[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD108.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978), tud. 173.
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. Gwefan y BBC
  5. Gwefan CPAT