Benllech: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YsgolGO2 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
YsgolGO (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
Tref ar arfordir ddwyreiniol [[Ynys Môn]], ym mhwlyf [[Llanfair Mathafarn Eithaf]] yw Benllech. Fe'i lleolir 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o [[Porthaethwy|Borthaethwy]] ar lôn yr [[A5025]], hanner ffordd rhwng [[Pentraeth]] a [[Moelfre]]. Mae ar [[Llwybr Arfordirol Ynys Mon|Lwybr Arfordirol Ynys Môn]]. Mae'n ganolfan gwyliau glan-môr boblogaidd yn yr haf ac mae [[twristiaeth]] yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol. Mae nifer o dai newydd a byngalos yn gymysg â thai hŷn yn y dref. Mae Traeth Benllech yn lân a diogel. I'r gorllewin ceir meysydd carafanau ar gyfer ymwelwyr.

Dyma'r 5ed anheddiad mwyaf yn ôl poblogaeth ar yr ynys.
Poblogaeth Benllech yw 3,382 felly dyma'r 5ed anheddiad mwyaf yn ôl poblogaeth ar yr ynys.

==Y dref heddiw==
==Y dref heddiw==

Fersiwn yn ôl 09:05, 18 Gorffennaf 2019

Benllech
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,332 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3203°N 4.2258°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH518828 Edit this on Wikidata
Cod postLL74 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au
AS/au
Map

Tref ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, ym mhwlyf Llanfair Mathafarn Eithaf yw Benllech. Fe'i lleolir 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthaethwy ar lôn yr A5025, hanner ffordd rhwng Pentraeth a Moelfre. Mae ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Mae'n ganolfan gwyliau glan-môr boblogaidd yn yr haf ac mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol. Mae nifer o dai newydd a byngalos yn gymysg â thai hŷn yn y dref. Mae Traeth Benllech yn lân a diogel. I'r gorllewin ceir meysydd carafanau ar gyfer ymwelwyr.

Poblogaeth Benllech yw 3,382 felly dyma'r 5ed anheddiad mwyaf yn ôl poblogaeth ar yr ynys.

Y dref heddiw

Celr ysgol gynradd, meddygfa medddyg teulu, llyfrgell, swyddfa bost a nifer o gaffis a siopau bach yn y dref, ynghyd â thair tafarn. Dros y degawdau diwethaf mae nifer o bobl a arferai fynd ar eu gwyliau i Fenllech wedi prynu tai yn y dref ac mewn canlyniad mae hi wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn, yn arbennig mewn cymhariaeth â'r pentrefi bach yn y cylch.

Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.

Hanes lleol

Pen gorllewinol Traeth Benllech

Ceir dwy siambr gladdu Neolithig hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd Goronwy Owen yn Rhosfawr, dwy filltir i'r gorllewin o'r dref. Bu marchnad Croes Wion mewn bri am ganrifoedd, ac mae sïon i Gwion Goch sefydlu capel neu eglwys ar y llecyn hwn.

Yn 1939 ar Draeth Bychan rhwng Moelfre a Benllech aeth y llong danfor Thetis ar y creigiau a chollodd 99 eu bywydau.

Atyniadau eraill

  • Traeth Coch - bae llydan agored filltir a hanner i'r de-ddwyrain.
  • Dinas - bryngaer dwy filltir i'r gogledd o'r dref, ger Traeth Bychan.

Cludiant

Ceir gwasanaethau bws i Amlwch, Porthaethwy a Bangor.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: