Llanfechell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


[[Categori:Pentrefi Môn]]
[[Categori:Pentrefi Môn]]
[[Categori:Cerrig Celtaidd]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Cymru]]
[[Categori:Oes yr Efydd yng Nghymru]]
[[Categori:Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru]]
[[Category:Celfyddyd yng Nghymru]]


[[en:Llanfechell]]
[[en:Llanfechell]]

Fersiwn yn ôl 18:24, 5 Chwefror 2010

Pentref ar Ynys Môn yw Llanfechell. Saif yng ngogledd yr ynys tua 2 filltir i'r de o bentref Cemaes, ar yr arfordir i'r gogledd, a milltir i'r de o bentref Tregele, lle mae lôn yn rhedeg o'r pentref hwnnw i Llanfechell.

Delwedd:Llanfechell1.jpg
Meini hirion Llanfechell

Enwir yr eglwys a'r pentref ar ôl Sant Mechell (neu Mechyll), fab Echwydd ap Gwyn Gohoyw, a flodeuai yn y 5ed ganrif. Coffheir y sant mewn enw lle arall yn yr ardal, sef cymuned fechan Mynydd Mechell, filltir i'r de o'r pentref presennol.

Mae rhannau o'r eglwys, sydd ar ffurf croes, yn dyddio i'r 12fed ganrif. Ychwanegwyd cangell yn y 13eg ganrif a chlochdy yn yr 16eg ganrif. Mae'r bedyddfaen yn perthyn i'r 12fed ganrif. Ym mhorth yr eglwys gellir gweld beddfaen gyda cherflun anghyffredin o groes flodeuog arno, sydd i'w ddyddio i'r 13eg ganrif.

Ceir sawl safle archaeolegol ger y pentref. Fymryn i'r gogledd ceir cromlech ar Foel Fawr ac yn agosaf i'r pentref i'r un cyfeiriad ceir triongl o feini a elwir yn Feini Hirion. Hanner milltir i'r dwyrain ceir maen hir ar dir Carrog. Yng nghyffiniau Mynydd Mechell ceir Maen Arthur.