Moel Fenlli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Zorrobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: nn:Foel Fenlli
Llinell 35: Llinell 35:


[[en:Foel Fenlli]]
[[en:Foel Fenlli]]
[[nn:Foel Fenlli]]

Fersiwn yn ôl 15:43, 30 Mehefin 2011

Moel Fenlli

Bryngaer o Oes yr Haearn 511 metr ym Mryniau Clwyd yw Moel Fenlli (weithiau Foel Fenlli ar rai mapiau). Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a Llanferres uwchlaw Bwlch Pen Barras ar ochr ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. cyfeiriad grid SJ164601

Moel Fenlli yw'r fwyaf deheuol o gadwyn o fryngaerau ar gopaon Bryniau Clwyd. Mae'n amgau tua 10ha o dir ar gopa bryn o'r un enw[1] sy'n gwarchod Bwlch Pen Barras, mynedfa amlwg i Ddyffryn Clwyd o'r dwyrain. Ar gopa'r bryn ceir carnedd o Oes yr Efydd.

Dyddia'r amddiffynwaith i gyfnod rhwng y ganrif gyntaf CC a'r bedwaredd ganrif OC, fwy neu lai y cyfnod y bu'r Rhufeiniaid yn Ynys Prydain. Lleolir y prif amddiffyniad ar ochrau gogleddol a dwyreiniol y gaer, uwchlaw'r bwlch. Ceir mynedfa gynnar yn y gornel orllewinol ac yn diweddarach yn y gornel de-ddwyreiniol. Ceir olion cytiau crwn tu mewn i'r gaer. Darganfuwyd darnau o briddlestri gwyn a choch, haearn, saethau callestr a gwydr pan gloddiwyd y safle yn 1849. Yn 1816 cafwyd hyd i gelc o dros 1,500 o ddarnau pres Rufeinig, yn dyddio o'r cyfnod 307-360 OC yn bennaf. Darganfyddwyd tua 60 o dai Celtaidd y tu fewn i'r gaer. [2]

Delweddau

Tarddiad yr enw

Mae'r enw'n ddiddorol. Mae'n bosib y daw o enw'r cawr Cymreig Benlli Gawr y cyfeirir ato weithiau yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol a Nennius yn yr Historia Brittonum. Cyfeiria Cynddelw Brydydd Mawr (12fed ganrif) at Fenlli Gawr yn ei gerdd enwog i osgordd Madog ap Maredudd o Bowys.

Cyfeiriadau

  1. Coflein
  2. Gweler gwefan siroedd cyfagos [1]

Ffynonellau

  • Ellis Davies, Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire (1929)