1862 yng Nghymru
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio

Hwfa Môn (Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1862) yn ei wisg archdderwydd, gan Christopher Williams
Mae'r erthygl hon yn ymwneud ag arwyddocâd penodol y flwyddyn 1862 i Gymru a'i phobl
Deiliaid[golygu | golygu cod y dudalen]
- Tywysog Cymru - Albert Edward
- Tywysoges Cymru - yn wag
Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1 Ionawr - Rheilffordd De Cymru yn cael ei roi ar brydles i Great Western Railway cyn i'r ddau gwmni uno.
- 5 Mai – Henry Austin Bruce, Barwn 1af Aberdâr, yn gwneud araith bwysig ar bwnc addysg yng Nghymru. Fe'i penodwyd yn ddiweddarach yn is-lywydd Pwyllgor y Cyngor ar Addysg.
- 2 Mehefin - Mae Llangollen yn cael ei gysylltu â'r rhwydwaith reilffyrdd am y tro cyntaf.
- 4 Gorffennaf – Sarah Edith Wynne, soprano nodedig, yn gwneud ei début yn Llundain.
- tuag Awst - Trên cyntaf trwy Dwnnel Torpantau Rheilffordd Cyffordd Aberhonddu a Merthyr.[1]
- 7 Awst - Mae fferi o Borthmadog i Dalsarnau yn suddo gan ladd 8.[2]
- 28 Hydref - Mae Tŵr anghyflawn y Jiwbilî ar Foel Famau yn cwympo mewn storm.
- 1 Rhagfyr - Mae goleudy Pen y Gogarth yn Llandudno, a godwyd gan Fwrdd Dociau a Harbwr Merswy, yn cael ei oleuo am y tro cyntaf.[3]
- Mae Guillermo Rawson, Gweinidog Mewnol yr Ariannin, yn cwrdd â Love Jones-Parry a Lewis Jones i drafod gwladychiad Patagonia gan Gymry.
- Mae mwynglawdd y Clogau yn dechrau cynhyrchu aur.
- Mae Melin yr Wyddfa, melin flawd â phŵer stêm, yn cael ei hagor ym Mhorthmadog.
Celfyddydau a llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Celf gweledol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mae "Religion", gan Joseph Edwards, a "The Tinted Venus" gan John Gibson ymhlith cerfluniau a ddangosir yn yr Arddangosfa Fawr.
Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaernarfon. Rowland Williams (Hwfa Môn) sy'n ennill y gadair.[4]
Llyfrau newydd[golygu | golygu cod y dudalen]
- George Borrow — Wild Wales
- Rees Howell Gronow — Reminiscences of Captain Gronow
- John Ceiriog Hughes — Oriau'r Bore
- Jane Williams (Ysgafell) — Celtic Fables, Fairy Tales and Legends versified
Cerdd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Henry Brinley Richards - "God Bless the Price of Wales"
- Ebenezer Thomas (Eben Fardd) - Hymnau
Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]
Criced[golygu | golygu cod y dudalen]
- 21 Gorffennaf - Clwb Criced De Cymru yn trechu Surrey yn The Oval.
- 24 Gorffennaf - Clwb Criced De Cymru yn trechu MCC yn Lords.
Genedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 5 Ionawr – John Fisher, ysgolhaig Celtaidd (bu f. 1930)
- 16 Ionawr - Leifchild Jones, Barwn 1af Rhaeadr gwleidydd (bu f. 1939 ) [5]
- 17 Ionawr - Buckley Roderick chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru (bu f. 1908) [6]
- 23 Ionawr - Evan Richards, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru (bu f. 1931)
- 16 Chwefror - Philip Tanner, canwr gwerin (bu f. 1950 ) [7]
- 4 Mai Henry Beyer Robertson Peiriannydd a thirfeddiannwr [8]
- 5 Gorffennaf Robert Jones canwr, athro cerdd ac arweinydd côr.[9]
- 11 Ebrill - Charles Evans Hughes, gwleidydd Americanaidd o dras Gymreig (bu f. 1948)
- 27 Ebrill - Syr Hugh Vincent, cyfreithiwr a chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru (bu f. 1931)
- 17 Mai - Syr William Rice Edwards, llawfeddyg (bu f. 1923)
- 5 Awst - Robert Herbert Mills-Roberts, pêl-droediwr (bu f. 1935)
- 30 Awst Reese J. Llewellyn dyn busnes o Gymru yn America [10]
- 16 Tachwedd - Syr David Rocyn-Jones, ymarferydd meddygol a Llywydd yr WRU (bu f. 1953)
- 9 Rhagfyr - John John Evans, newyddiadurwr (bu f. 1942)
- dyddiad anhysbys
- John Daniel Evans, gwladychwr Patagonia (bu f. 1943) [11]
Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
- 3 Ionawr - Dan Jones, cenhadwr Mormon, 51 [12]
- 8 Chwefror - Hans Busk, bardd, 89 [13]
- David Hughes (Eos Iâl) Bardd a chyhoeddwr o Edeyrnion, awdur y garol plygain Ar Gyfer Heddiw'r Bore [14]
- 25 Mawrth - Timothy Davies, clerigwr
- 1 Mai - Frederick Richard West, gwleidydd, 62/63 [15]
- 22 Mehefin - Herbert Watkin Williams-Wynn milwr ac Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Maldwyn.[16]
- 28 Mai - James Henry Cotton, Deon Bangor, 82
- 2 Awst - Anthony Hill, diwydiannwr, 78
- 27 Awst - John Williams (Ab Ithel), hynafiaethydd, 51
- 13 Tachwedd - John Robert Pryse (Gweirydd ap Rhys) bardd o Ynys Môn [17]
- 31 Rhagfyr - Daniel Jones, gweinidog y Bedyddwyr, 74 [18]
- dyddiad anhysbys - Robert Edwards, emynydd, 66?
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Brecon & Merthyr Tydfil Junction Railway". Welsh Railways Research Circle. Cyrchwyd 2019-08-17.
- ↑ "Sinking of the Ferry". gwefan gymundedol Talsarnau. Cyrchwyd 2019-08-17.
- ↑ History points - goleudy Pen y Gogarth
- ↑ Owen, R. G., (1953). WILLIAMS, ROWLAND (‘Hwfa Môn’; 1823 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Chambers, Ll. G., (1997). JONES, LEIFCHILD STRATTEN LEIF (1862-1939), gwleidyddwr Rhyddfrydol a phleidiwr dirwest. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- ↑ Jenkins, R. T., (1970). TANNER, PHILIP (1862 - 1950), ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Jones, D. S. The Robertsons of Llandderfel yn Cylchgrawn Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd Cyfrol 1 t194 Gwasg y Bala 1951
- ↑ Robert Jones - Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ How Iron & Steel Helped Los Angeles Forge a Modern Metropolis
- ↑ Paul W. Birt (gol.) Bywyd a gwaith John Daniel Evans, El Baqueano. (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) ISBN 0-86381-910-9
- ↑ Williams, D., (1953). JONES, DANIEL (1811 - 1861), cenhadwr gyda'r Mormoniaid. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
- ↑ Henderson, T., & Reynolds, K. (2004, September 23). Busk, Hans, the elder (1772–1862), scholar and poet. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 17 Awst 2019
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895
- ↑ 'Death of Lt Col Herbert Williams Wynn Wrexham Advertiser 28 Mehefin 1862 tud 7 Col 5
- ↑ Roberts, E. P., (1953). PRYSE, ROBERT JOHN (‘Gweirydd ap Rhys’; 1807-1889), hanesydd a llenor. [1] Adferwyd 17 Awst 2019
- ↑ Daniel Jones - Y Bywgraffiadur Cymreig
1800au: 1800 1801 1802 1803 1804 1805 1806 1807 1808 1809 - 1810au: 1810 1811 1812 1813 1814 1815 1816 1817 1818 1819 - 1820au: 1820 1821 1822 1823 1824 1825 1826 1827 1828 1829 - 1830au: 1830 1831 1832 1833 1834 1835 1836 1837 1838 1839 - 1840au: 1840 1841 1842 1843 1844 1845 1846 1847 1848 1849 - 1850au: 1850 1851 1852 1853 1854 1855 1856 1857 1858 1859 - 1860au: 1860 1861 1862 1863 1864 1865 1866 1867 1868 1869 - 1870au: 1870 1871 1872 1873 1874 1875 1876 1877 1878 1879 - 1880au: 1880 1881 1882 1883 1884 1885 1886 1887 1888 1889 - 1890au: 1890 1891 1892 1893 1894 1895 1896 1897 1898 1899