Henry Beyer Robertson

Oddi ar Wicipedia
Henry Beyer Robertson
Ganwyd4 Mai 1862 Edit this on Wikidata
Amwythig Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mehefin 1948 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata
TadHenry Robertson Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Peiriannydd a thirfeddiannwr oedd Syr Henry Beyer Robertson (4 Mai 18622 Mehefin 1942).

Dyddiau Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Robertson yn Yr Amwythig ar 4 Mai 1862[1] yn fab i'r peiriannydd a'r gwleidydd Henry Robertson ac Elizabeth (gynt Dean), ei wraig.

Fe'i addysgwyd yn ysgol bonedd Eton ac yng Ngholeg yr Iesu Prifysgol Caergrawnt. Wedi gorffen ei astudiaethau ym 1884 dychwelodd i gartref ei deulu yn y Pale, Llandderfel i gynorthwyo ym musnes peirianyddol ei dad. Byrhoedlog fu'r bartneriaeth rhwng y tad a'r mab gan i Henry Robertson farw ddwy flynedd yn ddiweddarach gan adael ei holl fuddiannau busnes i'w fab.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ym mis Mai 1889 bu'r Frenhines Victoria ar ymweliad a Sir Feirionnydd gan aros yn Y Pale, cartref Robertson; y flwyddyn ganlynol fe gafodd ei urddo'n farchog partly in view of his personal services to Her Majesty and his representative position in the life of North Wales and partly as a posthumous tribute to the memory of his most esteemed father[3]

Ym 1890 priododd â Florence, merch Mr & Mrs J. A. Kates o Blas Llantysilio, Llangollen a Bishop's Nympton, Dyfnaint,[4] ganwyd iddynt 7 o blant Jean (1892), Mary Florence (1893), Elizabeth (1894), Annie (1896), Syr Henry (1898), Duncan (1900) a John (1904). Bu farw'r Ledi Florence Robertson ar 23 Chwefror 1944.

Diddordebau Busnes[golygu | golygu cod]

Ar wahân i fuddiannau ei dad yng Ngwaith Dur Brymbo, pyllau glo gogledd Cymru a rheilffyrdd Cymru a'r Gororau etifeddodd Syr Henry fuddiannau Charles Fredrick Beyer, ei dad bedydd, a phrif bartner cwmni gwneud trenau enwog Beyer Peackock and Company. Ac eithrio ehangu rhywfaint ar waith Brymbo cadw'r busnesau i fynd trwy'r ddau Ryfel Byd oedd brif gyfraniad Syr Henry i'r diwydiant peirianyddol. Cenedlaetholwyd y rhan fwyaf o'i fuddiannau gan Lywodraeth Lafur 1945-1951.

Gwasanaeth Cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Penodwyd Syr Henry i fainc Ustusiaid Heddwch Meirionnydd ym 1884, ac yn is-Raglaw'r Sir ym 1886. Ym 1911 fe'i etholwyd fel Cynghorydd Sir dros blwyf Llandrillo ar Gyngor Sir Feirionydd ac yn Henadur sirol ym 1923; gwasanaethodd fel cadeirydd y cyngor ym 1922. Fe'i penodwyd yn Gadeirydd Sesiwn Chwarterol Meirionnydd o 1927 i 1941 ac yn is-Gadeirydd o 1941 hyd ei farwolaeth.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Syr Henry ar 2 Mehefin 1948 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Llandderfel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 17 Awst 1883 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3290251/ART12
  2. Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 21 Medi 1888 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3171455/ART171
  3. Jones, D. S. The Robertsons of Llandderfel yn Cylchgrawn Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd Cyfrol 1 t194 Gwasg y Bala 1951
  4. Cambrian News and Merionethshire Standard 21 Tachwedd 1890 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3312211/ART57