Leif Jones

Oddi ar Wicipedia
Leif Jones
Ganwyd16 Ionawr 1862 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1939 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadThomas Jones Edit this on Wikidata
MamJane Jones Edit this on Wikidata

Roedd Leifchild Stratten Leif-Jones, Barwn 1af Rhaeadr, PC (16 Ionawr 1862 - 26 Medi 1939 ), a elwid yn Leif Jones cyn ei ddyrchafiad i'r bendefigaeth ym 1932, yn arweinydd Cymreig o'r mudiad Dirwest ac yn wleidydd Rhyddfrydol.[1]

Cefndir ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Leifchild Stratten Jones ar 16 Ionawr 1862 yn St Pancras, Llundain, y pumed o chwe phlentyn Thomas Jones (1819-1882), clerigwr Annibynnol, gynt o Dreforys, Abertawe, a Jane Jones, merch John Jones o Ddowlais. Ei frodyr a chwiorydd hŷn oedd David Brynmor (g. 1851), Annie, John Viriamu (g. 1862) ac Irvonwy; ei frawd iau oedd Morlais Glasfryn. Byddai ei frodyr David Brynmor Jones a John Viriamu Jones ill dau yn dod i amlygrwydd mewn bywyd cyhoeddus.[2] Ym 1867, pan oedd Leifchild yn bum mlwydd oed, bu farw ei fam, ac ym 1869 gadawodd ei dad Lundain, am resymau iechyd, gan symud yn gyntaf yn ôl i Abertawe (1870-1877) ac wedi hynny i Melbourne, Awstralia (1877-1880), lle cafodd Leifchild ei addysg yn y Scotch College, Melbourne, rhwng 31 Gorffennaf 1877 a Rhagfyr 1878.[3] Wedi hynny aeth Leifchild yn fyfyriwr i Goleg y Drindod, Rhydychen .[4]

Aelod Seneddol ac ymgyrchydd dirwest[golygu | golygu cod]

Rhwng 1905 ac Ionawr 1910 gwasanaethodd Leif Jones fel Aelod Seneddol Appleby, yn Cumbria .[4][5] Tra'n AS, pleidleisiodd o blaid Mesur Rhyddfreinio Merched 1908.[6]

Rhwng mis Rhagfyr 1910 a 1918 gwasanaethodd fel yr Aelod dros Rushcliffe, yn Swydd Nottingham .[4][7] Ym 1917 fe'i codwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor.[8] Rhwng 1923 a 1924 ac o 1929 i 1931 gwasanaethodd fel yr Aelod dros Camborne, yng Nghernyw.[4][9]

Ar 25 Ionawr 1932 dyrchafwyd Jones i'r bendefigaeth fel y Barwn Rhaeadr, o Rhaeadr yn Sir Faesyfed.[10] Er mwyn iddo barhau i gael ei adnabod wrth ei enw cyfarwydd 'Leif Jones' penderfynodd yn gynharach yn yr un mis i newid ei gyfenw trwy bôl gweithred o 'Jones' i 'Leif-Jones'.[11]

Er gwaethaf ei yrfa wleidyddol hir, cofir amdano yn bennaf fel arweinydd dirwest. Roedd yn Llywydd Cynghrair Dirwest y Deyrnas Unedig (UKA), y prif sefydliad gwaharddol ym Mhrydain, rhwng 1906 a 1932. Yn gynharach roedd wedi bod yn ysgrifennydd preifat i Iarlles Carlisle, ymgyrchydd gwaharddol amlwg.[12] Fel ymgyrchydd dirwestol cyfeiriwyd at Leif Jones weithiau fel 'Tea-leaf Jones'.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw'r Arglwydd Rhayader ym Marylebone, Llundain, ym mis Medi 1939, yn 77 oed, daeth y farwniaeth i ben gyda'i farwolaeth.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fahey, D. (2006, May 25). Jones (later Leif-Jones), Leifchild Stratten, Baron Rhayader (1862–1939), temperance advocate and politician. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 15 Awst 2019
  2. Chambers, Ll. G., (1997). JONES, LEIFCHILD STRATTEN LEIF (1862-1939), gwleidyddwr Rhyddfrydol a phleidiwr dirwest. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
  3. Scotch College Admission Register No.2, Entry 2429
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 thepeerage.com Leifchild Stratten Leif-Jones, 1st and last Baron Rhayader
  5. "leighrayment.com House of Commons: Andover to Armagh South". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-05. Cyrchwyd 2019-08-16.
  6. http://hansard.millbanksystems.com/commons/1908/feb/28/womens-enfranchisement-bill-1
  7. "leighrayment.com House of Commons: Rochester to Ryedale". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-16. Cyrchwyd 2019-08-16.
  8. London Gazzette 29 Ionawr 1932 Rhif:33794 tudalen:628
  9. "leighrayment.com House of Commons: Caernarfon to Cambridgeshire South West". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-07. Cyrchwyd 2019-08-16.
  10. London Gazzette 29 Ionawr 1932 Rhif:33794 Tudalen:628
  11. London Gazzette 15 January 1932 Rhif:33790 Tudalen:387
  12. Gwybodaeth am Leif Jones yn Alcohol and Temperance in Modern History: Volume I.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • D.M. Fahey, 'Leif Jones', yn Biographical Dictionary of Modern British Radicals, Vol. 3 (1870-1974) (1988)
  • M.H.C. Haylor, The Vision of a Century, 1853-1953: the United Kingdom Alliance in historical perspective (1953)
  • G.B. Wilson, Leif Jones, Lord Rhayader, Temperance Reformer and Statesman (1948)