John Viriamu Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mab gweinidog yr Annibynwyr (Thomas Jones) oedd John Viriamu Jones (2 Ionawr 1856 - 1 Mehefin 1901) ac roedd yn wyddonydd deallus a galluog. Cafodd ei eni ym Mhentre Poeth, Abertawe.

Bu ym mhrifysgolion Llundain a Rhydychen lle lwyddodd i gael gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg a ffiseg. Yn 1881 fe'i gwnaed yn brifathro Coleg Ffrith a newidiwyd ei enw'n ddiweddarach i Brifysgol Sheffield. Yn 1883, ac yntau'n dal yn ei ugeiniau, daeth yn brifathro Prifysgol Caerdydd ac yn Ganghellor y brifysgol yn 1895.

Yn 1901 bu farw yn Geneva.

Cofiant[golygu]

  • Katherine Viriamu Jones - Life of John Viriamu Jones (Llundain, 1915)
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Scientist.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddonydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.