Ar Gyfer Heddiw'r Bore

Oddi ar Wicipedia
Yn sugno bron Maria
'n faban bach

Mae Ar Gyfer Heddiw'r Bore yn garol plygain Gymraeg, gyda'r geiriau wedi eu sgwennu gan David Hughes (Eos Iâl).[1] Ceir sawl tôn iddi ac mae'n garol boblogaidd, ond y dôn wreiddiol oedd 'Mentra Gwen'. Yn y fersiwn wreiddiol o'r geiriau, a gyhoeddwyd yn Y Drych, roedd ganddi deuddeg pennill.[2]

Geiriau[golygu | golygu cod]

Ar gyfer heddiw'r bore
  'n faban bach, faban bach,
Y ganwyd gwreiddyn Iesse
  'n faban bach;
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Seina,
Yr Iawn gaed ar Galfaria
  'n faban bach, faban bach,
Yn sugno bron Maria
  'n faban bach.

Caed bywiol ddŵfr Eseciel
  ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel
  ar lin Mair;
Caed bachgen doeth Eseia,
'R addewid roed i Adda,
Yr Alffa a'r Omega
  ar lin Mair, ar lin Mair;
Mewn côr ym Meth'lem Jiwda,
  ar lin Mair.

Diosgodd Crist o'i goron,
  o'i wirfodd, o'i wirfodd,
Er mwyn coroni Seion,
  o'i wirfodd;
I blygu'i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog
I ddioddef dirmyg llidiog,
  o'i wirfodd, o'i wirfodd,
Er codi pen yr euog,
  o'i wirfodd.

Am hyn, bechadur, brysia,
  fel yr wyt, fel yr wyt,
I 'mofyn am dy Noddfa,
  fel yr wyt
I ti'r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,
  fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon,
  fel yr wyt.

Fersiynau[golygu | golygu cod]

Dyma rai o'r artistiaid a chorau sydd wedi perfformio fersiynau o'r gân: Parti Fronheulog, Hogia'r Wyddfa, Côr Rhuthun, Moniars, Meredydd Evans, Bryn Terfel a Brigyn, Sorela, Côr y Drindod Dewi Sant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 115-6.
  2. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.