David Hughes (Eos Iâl)
David Hughes | |
---|---|
Ffugenw | Eos Ial, Eos Iâl |
Ganwyd | 1794 Bryneglwys |
Bu farw | 1862 Unknown |
Man preswyl | Cynwyd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, cyhoeddwr |
Bardd a chyhoeddwr o Edeirnion oedd David Hughes a ddefnyddiai'r enw barddol Eos Iâl (1794? - 2 Mawrth 1862)[1]. Mae'n adnabyddus fel awdur y garol plygain Ar Gyfer Heddiw'r Bore.[2]
Y person
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed ym "Mrynllwynog", Bryneglwys ger Corwen, Sir Ddinbych a bu'n byw yng Nghynwyd, ym mhlwyf Llangar, ychydig filltiroedd i ffwrdd o 1824 hyd 1831. Priododd ddwywaith; y tro cyntaf gyda merch o Gynwyd a gladdwyd yn Eglwys Llangar. Cafodd wyth o blant: "Wyth o blant eitha blin" canodd unwaith mewn cywydd. Yn ei ieuenctid, bu'n hoff iawn o'r ddiod, ond daeth dan ddylanwad y diwygiad dirwestol a chyn hir roedd yn un o'u harweinwyr ac roedd yn aelod selog o'r Oddfellows, Cymdeithas i ddynion a oedd yn cyfarfod yng Nghynwyd.
Yn ôl Janes Mary Jones o'r "Hendre", Cynwyd, roedd yn ŵr lled dal, o bryd tywyll a golwg penderfynol arno. Cododd dŷ iddo'i hun a galwodd ef yn "Llety'r Siswrn", gan mai ei waith oedd crudd; tynnwyd y tŷ i lawr yn 1972. Dywed Janes iddo ddyfeisio peiriant argraffu. Symudodd o Gynwyd i Morfydd, rhan o ardal Carrog.[3]
Bu hefyd yn byw yn "Nhŷ yr Ardd", Pentre - sef pentrefan rhwng Bryneglwys a Charog a bu'n aelod yng nghapel y Bedyddwyr yng Nghynwyd ac yna yng Nghapel y Bedyddwyr, 'Llansanffraid' (Carrog heddiw), lle'i claddwyd. Bu farw'n 67 oed.
Bardd
[golygu | golygu cod]Yn 1824 enillodd mewn eisteddfod yng Nghorwen a hyd at 1835 bu'n gystadleuwr brwd. Yn 1839 cyhoeddodd gyfrol o gerddi caeth a rhydd, a fu'n hynod o boblogaidd. Yn ôl Bob Owen, Croesor, nid yw ei gerdd i werth parhaol, fodd bynnag.[4] Roedd y rhan fwyaf o'i gerddi'n beirniadu pydredd cymdeithasol a moesol ei oes.[5]
Argraffu a chyhoeddi
[golygu | golygu cod]Yn 1837 adeiladodd gwasg argraffu bren yn ei gartref, cafodd afael mewn hen deip o eiddo Thomas Thomas, argraffydd o Gaer, a chyda'r rhain argraffodd ychydig o lyfrau a nifer o garolau a baledi. Yn Nrych y Cribddeiliwr soniai am ei wasg bren ac iddo ef a'i wraig fynd i Lerpwl i brynnu 'llythrennau o swp o waste, a bu o a'i wraig yn didoli caps etc am ddyddiau![6]
Cyhoeddiaidau
[golygu | golygu cod]- Ffrwyth y Profiad neu Waedd yn Erbyn Meddwdod (pamffled)
- Araith Beelsebub Tywysog y Fagddu Fawr (pamffled)
- Udgorn y Jubili a'r Gynadledd (32 a 24 tud. heddiw yn Llyfrgell Prifysgol Bangor)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ehedydd Iâl (15 Awst 1815 – 15 Chwefror 1899)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ceir dyddiad ei farwolaeth ym Mlodau'r Gân (1862) gan Hugh Derfel Hughes.
- ↑ O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.
- ↑ O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 115-6.
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ Papurau digidol y Llyfrgell Genedlaethol; t. 167 adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ Papurau digidol y Llyfrgell Genedlaethol; t. 168 adalwyd Rhagfyr 2016.