John Gibson (cerflunydd)

Oddi ar Wicipedia
John Gibson
Ganwyd19 Mehefin 1790 Edit this on Wikidata
Conwy Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ionawr 1866 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd Edit this on Wikidata

Cerflunydd Fictorianaidd o fri oedd John Gibson (bed. 19 Mehefin 1790; marw 27 Ionawr 1866), a anwyd yn Nhŷ Capel Forddlas, Llansanffraid Glan Conwy ac a magwyd yn y Gyffin, ger Conwy. Astudiodd yn Rhufain gyda'r meistr Antonio Canova.[1][2] Ymhlith ei waith mwyaf nodedig y mae Robert Peel a welir yn Abaty Westminster, cerflun o William Huskisson yn St George's Square ac un o'r Frenhines Victoria yn Mhalas Westminster.

Penderfynnodd y teulu symud i America, pan oedd yn 9 oed; wedi cyrraedd Lerpwl, fodd bynnag, penderfynnwyd bwrw angor yn y dref honno.[3] Yno, prentisiodd gyda chwmni dodrefn cyn symud i ddysgu sut i greu cerfluniau allan o farmor, gyda'r Meistri Francis. Daeth i gysylltiad a rhai o geflunwyr mawr ei gyfnod wedi iddo symud i Lundain yn 1817. Bu'r hanesydd William Roscoe yn noddwr iddo am flynyddoedd; priododd ŵyres Roscoe â Henry Sandbach, o Hafodunos, Abergele, a bu hi a Gibson yn ffrindiau oes.

Ym Hydref 1817 symudodd i Rufain i weithio yng ngweithdy y cerflunydd Eidalaidd enwog Antonio Canova, efallai'r cerflunydd neo-glasurol mwya. Roedd ei gerfluniau i gyd yn yr arddull Glasurol, a cheisiodd Gibson atgyfodi'r arfer o beintio cerfluniau marmor gyda lliwiau llachar fel y gwnaeth y Groegiaid hynafol. Ef oedd hoff gerflunydd y Frenhines Victoria. Mae 10 o'i gerfluniau i'w gweld yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain a phump yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Bu Gibson yn byw am gyfnod hir fel oedolyn yn Rhufain gyda’i bartner, yr arlunydd o Gymro, Penry Williams. Roedd ei waith enwocaf 'The Tinted Venus' wedi achosi dadlau pan gafodd ei arddangos gyntaf. Gellir ei weld yn awr yn Oriel Gelf Walker yn Lerpwl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Irwin, David, "Antonio Canova, marchese d'Ischia | Italian sculptor", Britannica.com, cyrchwyd 1 Ebrill 2017
  2. "Canòva, Antonio nell'Enciclopedia Treccani", Treccani.it, cyrchwyd 1 Ebrill 2017
  3. Ellis, M., (1953). GIBSON, JOHN (1790-1866), R.A., cerflunydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 13 Meh 2022, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GIBS-JOH-1790; adalwyd 13 Mehefin 2022