Hans Busk

Oddi ar Wicipedia
Hans Busk
Ganwyd28 Mai 1772 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 1862 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
TadWadsworth Busk Edit this on Wikidata
PriodMaria Green Edit this on Wikidata
PlantRachel Harriette Busk, Hans Busk, Julia Clara Byrne, Sophia Æmelia Busk, Maria Georgiana Busk Edit this on Wikidata

Roedd Hans Busk yr hynaf (28 Mai 17728 Chwefror 1862) yn ysgolhaig a bardd Eingl-Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Busk yn fab ieuengaf Syr Wadsworth Busk twrnai cyffredinol Ynys Manaw a thrysorydd y Deml Ganol, ac Alice, merch ac Etifedd Edward Parish o Ipswich a Walthamstow

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn ei ieuenctid treuliodd beth amser yn Rwsia, lle'r oedd yn aelod o farchogion gwarchodol Catrin Fawr.

Roedd yn berchen ar ystâd yn Glanalder, Sir Faesyfed. Mae Glanalder yn sefyll rhyw 3 milltir o Rhaeadr Gwy. Cymerodd ddiddordeb gweithredol ym musnes y sir; roedd yn ynad heddwch, ac yn uchel siryf ym 1837.[2].

Neilltuwyd amser hamdden Busk i astudiaethau clasurol a llenyddiaeth gyffredinol, a chyhoeddodd sawl cyfrol o benillion ysgafn. Roedd ei gerddi yn cynnwys teitlau fel "The Banquet", "The Dessert" a "The Vestriad". Er eu bod yn anhysbys bellach, cawsant ychydig o sylw yn eu dydd, er enghraifft adolygwyd "The Banquet" a "The Vestriad" yn y Literary Gazette, yr olaf ar y dudalen flaen.[3] Ymysg ei gyfeillion agos ym myd llên oedd Thomas Burke, Richard Brinsley Sheridan, yr Arglwydd Byron, a Walter Scott.[4]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym mis Ebrill neu fis Mai 1814 priododd Maria, merch Joseph Green. Ei fab hynaf oedd Hans Busk yr ieuengaf. Ei ferched oedd Julia Clara Pitt Byrne; Rachel Harriette Busk; Maria Georgiana Loder, gwraig Syr Robert Loder, Barwnig 1af; Amelia Sophia Crawford (1817-1896); a Frances Rosalie Vansittart (a oedd yn ymwneud ag achos cyfreithiol pwysig Vansittart v. Vansittart yn erbyn ei gŵr yn Llys y Siawnsri). Mae'r llyfr Converts to Rome yn rhestru pob un o'i bum merch fel rhai oedd wedi cael tröedigaeth i Gatholigiaeth, er yn achos Maria Georgiana yr oedd pan oedd hi yn ei saithdegau.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Great Cumberland Place, Hyde Park, Llundain yn 89 mlwydd oed

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Henderson, T., & Reynolds, K. (2004, September 23). Busk, Hans, the elder (1772–1862), scholar and poet. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 17 Awst 2019
  2. "A distinguished High Sheriff". Radnorshire Society transactions. Cylchgronau Cymru Rhif 28, 1958, tud 38–39 adalwyd 17 Awst 2019
  3. "Review of New Books: The Vestriad, a Poem. By Hans Busk, Esq. London, 1819". The London Literary Gazette. 3 (129): 433-435. 10 Gorffennaf 1819. Adalwyd 17 Awst 2019
  4. "Notitle - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1862-02-21. Cyrchwyd 2019-08-17.