John Daniel Evans

Oddi ar Wicipedia
John Daniel Evans
John Daniel Evans, El Baqueano
Ganwyd1862 Edit this on Wikidata
Aberpennar Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Trevelin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr Edit this on Wikidata

Roedd John Daniel Evans (18626 Mawrth 1943) yn un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia. Oherwydd ei fod yn amlwg fel arweinydd teithiau i’r paith, cafodd yr enw El Baqueano.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed John Daniel Evans yn Aberpennar, Morgannwg, yn fab i Daniel a Mary Evans. Roedd y teulu yn y fintai gyntaf a deithiodd i Batagonia ar y Mimosa yn 1865. Efallai mai dylanwad tad Mary, John Jones o Aberdâr, oedd yn gyfrifol am hyn, oherwydd roedd ei deulu ef yn gyfran sylweddol o deithwyr y Mimosa.[1]

Daeth John Evans yn amlwg fel un oedd yn awyddus i fforio’r Paith. Yn Nhachwedd 1883 arweiniodd grŵp tua'r Andes, yn chwilio am aur ac am dir ffrwythlon. Ar y ffordd, deuthant ar draws mintai o filwyr yn dwyn carcharorion Tehuelche i Valcheta, rhan o un o ymgyrchoedd olaf Concwest yr Anialwch. Penderfynodd rhai o'r grŵp droi yn ôl, ond aeth pedwar yn eu blaenau dan arweiniad John Evans.[1]

Erbyn diwedd Chwefror 1884, roeddynt wedi cyrraedd Afon Gualjaina, ac yno roedd tri aelod o'r llwyth oedd dan arweiniad y cacique Foyel. Roedd un o'r tri, Juan Salvo, yn eu hadnabod, a dywedodd ei fod yn amau eu bod yn ysbïo dros y fyddin, Ceisiodd ei harwain at Foyel, a phan wrthodasant, datblygodd cweryl. Penderfynodd y pedwar ddychwelyd i ran isaf Dyffryn Camwy, 600 km i ffwrdd, gyda rhyfelwyr Foyel yn ei dilyn. Ar 4 Mawrth ymosodwyd arnynt, a lladdwyd tri cydymaith Evans. Anelodd Evans, ar gefn Malacara, tua dibyn serth, a llamodd y ceffyl i lawr y dibyn ac i fyny yr ochr arall. Ni feiddiai yr un o'r ymosodwyr geisio ei ddilyn, a llwyddodd John Evans i ddychwelyd i'r Wladfa yn ddiogel. Cafodd y man lle bu'r ymosodiad yr enw Dyffryn y Merthyron (Sbaeneg:Valle de los Mártires).[1]

Yn 1885 roedd John Evans yn un o arweinyddion y fintai a aeth ar daith i’r ardaloedd ger yr Andes gyda’r Rhaglaw Luis J. Fontana. Ar y daith yma y darganfuwyd Cwm Hyfryd, ardal a wladychwyd gan y Cymry. Yn Hydref 1891 mudodd John Evans a’i deulu i Gwm Hyfryd. Adeiladodd felin yno, a’r felin hon a roes yr enw Trefelin i’r pentref. Bu farw ei wraig yn 1897, ac ail-briododd yn 1900 ag Annie Hughes de Williams. Daeth John Evans yn eithaf cefnog erbyn y cyfnod yma. Bu farw yn 1943.[1]

Cof[golygu | golygu cod]

Codwyd tŷ mor debyg ag oedd modd i dŷ cyntaf John Evans yn Nhrefelin dan yr enw "Cartref Taid", sy’n gweithredu fel amgueddfa. Yn Nhrefelin hefyd gellir gweld bedd Malacara.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Paul W. Birt (gol.) Bywyd a gwaith John Daniel Evans, El Baqueano. (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) ISBN 0-86381-910-9

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Paul W. Birt (gol.) Bywyd a gwaith John Daniel Evans, El Baqueano.