Mimosa (llong)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mimosa)
Gyrfa (Y Deyrnas Unedig)
Enw: Mimosa
Perchennog: Robert Vining, William Killey, Lerpwl; Daniel Green
Adeiladwyd: Alexander Hall a'i Feibion, Aberdeen
Cost: £5,916
Lansiwyd: 21 Mehefin 1853 [1]
Tynged: Collwyd yn Calabar.[2]
Nodweddion cyffredinol
Pwysau: 447 tunnell NM, 540 tunnell OM
Hyd: 139.9 tr.
Trawst: 25.5 tr.
Dyfnder yr hold: 15.6 tr.
Cynllun yr hwyliau: 3 hwylbren [1]
Ffotograff o Michael D. Jones, trefnydd y daith. Llun: LlGC

Llong hwylio oedd y Mimosa, Tea Clipper wedi'i haddasu i gludo pobl, efo 447 tunnell o gynhwysedd. Teithiodd tua 160 o Gymry arni i Batagonia yn yr Ariannin (i ran a elwir bellach yn: Wladfa) a hynny yn 1865.

Gadawodd Lerpwl yn Lloegr ar 28 Mai, 1865 a chyrraedd Borth Madryn (heddiw: Puerto Madryn) ym Mae Newydd (Golfo Nuevo yn Sbaeneg), Patagonia ar ôl taith o 2 fis, ar 28 Gorffennaf. Er fod y tywydd yn dda yn ystod y daith, roedd bywyd yn galed iawn a bu nifer o blant farw. Ysgrifennodd Joseph Seth Jones, argraffydd o Ddinbych, ddyddiadur ar y llong sydd yn dangos pa mor galed oedd y daith.

Stamp answyddogol i ddathlu canmlwyddiant glanio'r 'Mimosa' (1865-1965)

Ar y dechrau, roedd yn rhaid byw mewn ogofâu clogwyn ar draeth Porth Madryn am amser, ac ar ôl mynd i Rawson roedd yn rhaid dygymod â'r tir gwahanol a hinsawdd dieithr, ac roedd prinder bwyd yn parhau am rai blynyddoedd.

Mae olion yr ogofâu lle roedd y Cymry'n byw yn ystod y cyfnod cyntaf i'w weld erbyn heddiw.

Teithwyr 1865[golygu | golygu cod]

Enw Nodyn
Austin, Thomas Tegai Ganwyd: 1854, Aberpennar. Amddifad. Yn byw gyda Daniel & Mary Evans.
Priodwyd: Mary Elizabeth Williams, 27 Mai 1875, Y Wladfa.
Austin, William Ganwyd: 1852, Aberpennar. Amddifad. Yn byw gyda Daniel & Mary Evans.
Priodwyd: Jane Hughes, 19 Mehefin 1873, Rawson, Y Wladfa.
Davies, Evan Aberdâr
Davies, Ann Aberdâr. Gwraig Evan Davies.
Davies, Margaret Ann Aberdâr. Merch Evan & Ann Davies.
Davies, James (Iago Dafydd) Ganwyd: c. 1847, Brynmawr. Bu farw: Chwefror 1866, Y Wladfa.
Davies, John (Ioan Dafydd) Ganwyd: c. 1847, Aberpennar.
Davies, Lewis Ganwyd: c. 1841, Aberystwyth.
Davies, Rachel Aberystwyth. Gwraig Lewis Davies.
Davies, Thomas G. Aberystwyth. Mab Rachel & Lewis Davies.
Davies, Robert Llandrillo.
Davies, Catherine Llandrillo. Gwraig Robert Davies.
Davies, William Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies.
Davies, Henry Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies.
Davies, John Ganwyd: c. 1864, Llandrillo. Mab Robert & Catherine Davies. Bu farw: 27 Mehefin 1865 ar y Mimosa.
Davies, John E. Aberpennar.
Davies, Selia Aberpennar. Gwraig John E. Davies.
Davies, John Aberpennar. Mab John E. & Selia Davies.
Davies, Thomas Aberdâr.
Davies, Eleanor Ganwyd 1819, Blaenporth.
Yn dilyn marwolaeth ei gŵr cyntaf yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais.
Ail-briododd â Thomas Davies yn Aberdâr yn 1863.
Bu farw: 1884, Y Wladfa.
Davies, David Aberdâr. Mab Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, Hannah Aberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, Elizabeth Aberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, Ann Aberdâr. Merch Thomas Davies (priodas 1af).
Davies, William Lerpwl.
Ellis, John Lerpwl.
Ellis, Thomas Lerpwl.
Ellis, Richard Llanfechain, Llanidloes.
Ellis, Frances Llanfechain, Llanidloes.
Evans, Daniel Aberpennar. Priodwyd: Mary Jones
Evans, Mary Gwraig Daniel Evans. Ganwyd: 1836, Y Pîl. Bu farw: 1912, Y Wladfa.
Evans, Elizabeth Merch Daniel & Mary Evans. Ganwyd: c. 1860, Aberpennar.
Evans, John Daniel Mab Daniel & Mary Evans. Ganwyd: c. 1862, Aberpennar. Bu farw: 6 Mawrth 1943.
Evans, Thomas Pennant (Twmi Dimol) Ganwyd: c. 1836, Pennant Melangell. Criw.
Priodwyd: Elizabeth Pritchard, 30 Mawrth 1866. Bu farw: Chwefror 1868 ar Y Denby.
Greene, Thomas William Nassau Ganwyd: 1844, Kilea, Swydd Kildare, Iwerddon. Criw: Llawfeddyg. Bu farw: Ionawr 1921, Dulyn, Iwerddon.
Harris, Thomas Aberpennar.
Harris, Sara Aberpennar. Gwraig Thomas Harris.
Harris, William Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, John Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, Thomas Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Harris, Daniel Aberpennar. Mab Thomas & Sara Harris.
Hughes, Catherine Penbedw.
Hughes, Griffith Ganwyd: c. 1829, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog. Glöwr.
Hughes, Mary Gwraig Griffith Hughes. Ganwyd: c. 1834, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, Jane Merch Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1853, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Priododd â William Austin, 19 Mehefin 1873, Rawson
Hughes, Griffith Mab Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1856, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, David Mab Griffith & Mary Hughes. Ganwyd: c. 1859, Llanuwchllyn. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, John Yn fyw yn Rhosllannerchrugog. Ganwyd: c. 1835. Bu farw: 13 Mawrth 1866, Y Wladfa
Hughes, Elizabeth Gwraig John Hughes. Ganwyd: c. 1826. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, William John Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1855. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, Myfanwy Mary Merch John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1861. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, John Samuel Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1863. Bu'n byw yn Rhosllannerchrugog.
Hughes, Henry Mab John & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1864, Rhosllannerchrugog. Bu farw 5 Awst 1865, Porth Madryn.
Hughes, Hugh J. (Cadfan) Ganwyd: c. 1825, Sir Fôn. Bu'n byw yn Lerpwl. Saer.
Hughes, Elizabeth Gwraig Hugh J Hughes (Cadfan). Ganwyd: c. 1820, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, Jane Merch Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1843, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, David Mab Hugh J & Elizabeth Hughes. Ganwyd: c. 1854, Sir Gaernarfon. Bu'n byw yn Lerpwl.
Hughes, Llewelyn Mab Hugh J & Elizabeth Hughes. Ganwyd: 1861, West Derby, Lerpwl.
Hughes, Richard Caernarfon.
Hughes, William Ynys Môn.
Hughes, Jane Ynys Môn. Gwraig William Hughes.
Hughes, Jane Ynys Môn. Merch William & Jane Hughes.
Hughes, William Abergynolwyn.
Humphreys, Maurice Ganwyd: c. 1838, Ganllwyd, Dolgellau. Priodwyd: Elizabeth Harriet Adams, 1864, West Derby, Lerpwl.
Humphreys, Elizabeth Harriet Ganwyd: 1844, Cilcain. Gwraig Maurice Humphreys.
Humphreys, Lewis Ganllwyd, Dolgellau.
Humphreys, John Ganllwyd, Dolgellau.
Huws, Rhydderch Manceinion.
Huws, Sara Manceinion. Gwraig Rhydderch Huws.
Huws, Meurig Manceinion. Gwraig Rhydderch & Sara Huws.
Jenkins, Aaron Ganwyd: 1 Awst 1831, Sain Ffagan, Caerdydd.
Priodwyd (1): Mary James Davies, 27 Ionawr 1855, Merthyr Tudful.
Priodwyd (2): Rachel Evans, 14 Medi 1860, Merthyr Tudful.
Priodwyd (3): Margaret Jones, 12 Medi 1868, Coednewydd, Y Wladfa.
Bu farw: 17 Mehefin 1879, Chubut, Y Wladfa. Glöwr.
Jenkins, Rachel Aberpennar. Ail wraig Aaron Jenkins.
Jenkins, James Aberpennar. Mab Aaron & Rachel Jenkins.
Jenkins, Richard Mab Aaron & Rachel Jenkins. Ganwyd: 5 Mai 1861, Troed-y-rhiw, Merthyr Tudful.
Priodwyd: Mary Evans 22 Mehefin 1895. Bu farw: Esquel, Y Wladfa.
Jenkins, Thomas Ganwyd: 3 Rhagfyr 1862, Aberpennar. Bu farw: 11 Mehefin 1865 ar y Mimosa.
Jenkins, Rachel Merch Aaron & Rachel Jenkins. Ganwyd: 26 Mehefin 1865 ar y Mimosa. Bu farw: 22 Medi 1865, Rawson.
Jenkins, William Aberpennar.
John, David Aberpennar.
John, Mary Ann Aberdâr.
Jones, Evan Ganwyd 1845, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr.
Bu farw: 1930, Y Wladfa.
Jones, Thomas Ganwyd 1849, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr.
Priododd â Sarah Jones (gweddw James Jones) yn 1870.
Bu farw: 1934, Y Wladfa.
Jones, David Ganwyd 1852, Llangoedmor. Mab Eleanor Davies (priodas 1af).
Yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr.
Bu farw: 1899, Buenos Aires.
Jones, Elizabeth Ganwyd 1855, Llangoedmor. Merch Eleanor Davies (priodas 1af).
Yn dilyn marwolaeth ei thad yn 1857, symudodd y teulu i Dowlais, ac wedyn i Aberdâr.
Bu farw: 1889, Y Wladfa.
Jones, Elizabeth Aberpennar.
Jones, Anne Bethesda.
Jones, George Lerpwl.
Jones, David Ganwyd: 1847, Lerpwl. Bu farw: 1868, Y Wladfa.
Jones, James Ganwyd c. 1838, Sir Gaerfyrddin. Ymfudodd o Aberpennar. Bu farw: 1868, pan suddodd y 'Denby' oddi ar arfordir Y Wladfa.
Jones, Sarah Ganwyd 1840. Gwraig James Jones. Ymfudodd o Aberpennar.
Ail-briododd â Thomas Jones yn 1870.
Bu farw: 1907, Y Wladfa.
Jones, Mary Anne Aberpennar. Merch James & Sarah Jones.
Jones, James Aberpennar. Mab James & Sarah Jones.
Jones, John Ganwyd 1805, Y Pîl.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Ail-briododd â Catherine Hughes (Beaumaris) yn 1870.
Bu farw: 1882, Y Wladfa.
Jones, Elizabeth Ganwyd 1810, Y Pîl.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Bu farw: 1869, Y Wladfa.
Jones, Richard Ganwyd 1843, Llangynwyd. Mab John & Elizabeth Jones.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Jones, Ann Ganwyd 1849, Maesteg. Merch John & Elizabeth Jones.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Priododd Edwyn Cynrig Roberts yn 1866.
Bu farw: 1913, Bethesda.
Jones, Margaret Ganwyd 1850, Llangynwyd. Merch John & Elizabeth Jones.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Priododd ag Aaron Jenkins yn 1868.
Bu farw: 1914, Y Wladfa
Jones, John (jnr) Ganwyd 1834, Y Pîl. Mab John & Elizabeth Jones.
Ymfudodd y teulu o Aberpennar.
Jones, Mary Aberpennar. Gwraig John Jones.
Jones, Thomas Harries Aberpennar.
Jones, Joseph Seth Dinbych.
Jones, Joshua Cwmaman, Aberdâr.
Jones, Mary Aberpennar.
Jones, Stephen Caernarfon. Brawd Lewis Jones.
Jones, William R. (Bedol) Y Bala.
Jones, Catherine Y Bala. Gwraig William R. Jones (Bedol).
Jones, Mary Ann Y Bala. Merch William R. & Catherine Jones.
Jones, Jane Y Bala. Merch William R. & Catherine Jones.
Jones, Richard (Berwyn) Ganwyd: c. 1838, Tregeiriog (teulu o'r ardal Y Berwyn). Symudodd i Efrog Newydd, UDA. Criw - Cyfrifydd.
Priodwyd: Elizabeth Pritchard, 25 Rhagfyr 1868, Rawson. Bu farw: 25 Rhagfyr 1917.
Lewis, Anne Abergynolwyn.
Lewis, Mary Aberpennar.
Matthews, Abraham Aberdâr.
Matthews, Gwenllian Aberdâr. Gwraig Abraham Matthews.
Matthews, Mary Annie Aberdâr.
Morgan, John Pen-y-Garn, Aberystwyth.
Nagle, Robert F Ganwyd: c. 1833, Abermaw. Criw - Stiward y teithwyr. Bu farw: Chwefror 1868 ar Y Denby
Owen, Ann Lerpwl.
Price, Edward Lerpwl.
Price, Martha Lerpwl. Gwraig Edward Price.
Price, Edward Lerpwl. Mab Edward & Martha Price.
Price, Martha Lerpwl. Merch Edward & Martha Price.
Price, Griffith Ffestiniog.
Pritchard, Elizabeth Caergybi.
Rhys, James Berry Ganwyd: c. 1842. Priodwyd: Grace Roberts, 3 Gorffennaf 1868, Glan Camwy.
Rhys, William Thomas Tregethin (neu Trefethin, ger Aberpennar?).
Richards, William Aberpennar
Roberts, Elizabeth Bangor.
Roberts, Grace Bethesda. Priodwyd: James Berry Rhys, 3 Gorffennaf 1868, Glan Camwy.
Roberts, John Moelwyn Ffestiniog.
Roberts, John, Ffestiniog.
Roberts, Mary Ffestiniog. Gwraig John Roberts.
Roberts, Mary Ffestiniog. Merch John & Mary Roberts.
Roberts, Thomas Ffestiniog. Mab John & Mary Roberts
Roberts, John Ffestiniog. Mab John & Mary Roberts
Roberts, William Seacombe, Lerpwl
Solomon, Griffith Ganwyd: c. 1841, Dolbenmaen. Priodwyd: Elizabeth Edwards, Ffestiniog, 1861.
Solomon, Elizabeth Gwraig Griffith Solomon. Ganwyd: c. 1835, Ffestiniog.
Solomon, Elizabeth Merch Griffith & Elizabeth Solomon. Ganwyd: 1864, Ffestiniog. Bu farw: 18 Gorffennaf 1864 ar y Mimosa.
Thomas, John Murray Ganwyd: 1847, Pen-y-bont ar Ogwr. Bu farw: 1924, Gaiman, Y Wladfa.
Thomas, Robert Bangor.
Thomas, Mary Bangor. Gwraig Robert Thomas.
Thomas, Mary Bangor. Merch Robert & Mary Thomas.
Thomas, Catherine Jane Bangor. Merch Robert & Mary Thomas.
Thomas, Thomas Aberpennar.
Williams, Amos Ganwyd: 1841, Llangïan. Criw - Cogydd y deithwyr.
Williams, Eleanor Gwraig Amos Williams.
Williams, Elizabeth Merch Amos & Eleanor Williams.
Williams, Dafydd Ganwyd: c. 1829, Aberystwyth. Bu farw: 1965, Y Wladfa.
Williams, Jane Lerpwl.
Williams, John Penbedw. Ganwyd yn Nolwyddelan, yn gysylltiedig â fferm Penrhiw.
Williams, Elizabeth Penbedw. Gwraig John Williams.Ganwyd yng Ngwalchmai.
Williams, John Penbedw. Mab John & Elizabeth Williams.
Williams, Elizabeth Penbedw. Merch John & Elizabeth Williams.
Williams, Watkin William Ganwyd: 1832, Abermaw. Yn fyw yn Lerpwl.
Williams, Elizabeth Louisa Chwaer Watkin William Williams. Ganwyd: 1838, Abermaw, Yn byw yn Lerpwl.
Williams, Watkin Wesley Brawd Watkin William Williams. Ganwyd: 1838, Abermaw. Yn byw yn Lerpwl.
Williams, Catherine
Williams, Robert Meirion Ganwyd: c. 1814, Llanfairfechan.
Williams, Richard Howell Ganwyd: 1847, Llanfairfechan. Mab Robert Meirion Williams. Priodwyd: 15 Mehefin 1867, Porth Madryn
Williams, Thomas Aberpennar.
Williams, Mary Ganwyd: c. 1810, Aberpennar. Bu farw: 1865. Rawson, Y Wladfa
Williams, William Lerpwl.
Wood, Elizabeth Lerpwl.
Enw Nodyn
Roberts, Edwyn Cynrig Ganwyd: 28 Chwefror 1837, Cilcain. Ymfudodd y teulu i Wisconsin yn 1847.
Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865.
Priodwyd: Ann Jones, 19 Ebrill 1866. Dychwelodd i Gymru. Bu farw: 1893, Bethesda.
Jones, Lewis Ganwyd: 20 Ionawr 1836, Caernarfon. Priodwyd: Ellen Griffith, 1859, Sir Fôn.
Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865.
Bu farw 24 Tachwedd 1904, Trelew. Claddodd ym Mynwent Moriah yn y dre. Cyhoeddwr.
Jones, Ellen Lerpwl. Ganwyd: c. 1840, Niwbwrch. Gwraig Lewis Jones. Gadawodd i Buenos Aires ar yr Y Córdoba ar 12 Mawrth 1865.

Awdl[golygu | golygu cod]

Yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, ‘Patagonia’ oedd testun yr awdl a'r enillydd oedd Richard Bryn Williams a ymfudodd o Flaenau Ffestiniog i Drelew, Chubut pan oedd yn saith mlwydd oed. Meddai Geraint Bowen, un o’r beirniaid: “Fel cynganeddwr, fel triniwr geiriau a lluniwr cerdd, y mae'n rhagori ar weddill yr ymgeiswyr.”

Dyma ran ohoni:

Perffaith y gorwel porffor,
Heulwen Mai ar lan y môr;
Hwyl ar gwch fel aur a gwin
Ar y lliwiog Orllewin;
A daw o sisial y dŵr
Heriol lais yr Arloeswr.
Eiddil Fimosa drwy ddylif misoedd
Hwyliai i’w hantur ar wamal wyntoedd.
Ei chragen yn herio’r llydan foroedd,
A rhoddwyd i’w llywio freuddwyd lluoedd:
Anelu o fro’r niwloedd – digariad,
A morio i wlad y mawr oludoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Wilkinson, Susan (2007). Mimosa: The Life and Times of the Ship that Sailed to Patagonia. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. tt. 57–60, 69. ISBN 978-0-86243-952-1. Cyrchwyd 15 Chwefror 2011.
  2. Aberdeen City Council (2010). "Aberdeen Built Ships". Aberdeen Ships, Mimosa. Cyrchwyd 15 Chwefror 2011.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Joseph Seth Jones, Dyddiadur Mimosa / El diario del Mimosa, gol. Elvey Mac Donald, Cyfres Dyddiaduron Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2002) [Cymraeg a Sbaeneg]
  • Susan Wilkinson, Mimosa: The Life and Times of the Ship that sailed to Patagonia (Y Lolfa, 2007) [Saesneg]
  • Susan Wilkinson, Mimosa's Voyages: Official Logs, Crew List and Masters (Y Lolfa, 2007) [Saesneg]
  • Berwyn's Register, 1865 to 1875. http://www.argbrit.org/Patagonia/Berwynbirths.htm [Saesneg]