Charles Evans Hughes
Gwedd
| Charles Evans Hughes | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Ebrill 1862 Glens Falls |
| Bu farw | 27 Awst 1948 o niwmonia Osterville |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithegwr, barnwr, cyfreithiwr, diplomydd |
| Swydd | Uwch Farnwr Unol Daleithiau'r America, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Ustus Cysylltiol Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau, Llywodraethwr Efrog newydd, aelod o fwrdd |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
| Mam | Mary Catherine Hughes |
| Priod | Antoinette Carter Hughes |
| Plant | Charles Evans Hughes, Jr., Elizabeth Hughes Gossett, Helen Hughes, Catherine Hughes Waddell |
| llofnod | |
Gwladweinydd o'r Unol Daleithiau, cyfreithiwr, a gwleidydd Gweriniaethol oedd Charles Evans Hughes yr Hynaf (11 Ebrill 1862 – 27 Awst 1948). Roedd yn 36ain Lywodraethwr Efrog Newydd o 1907 hyd 1910, a Phrif Ustus yr Unol Daleithiau rhwng 1930 a 1941. Bu ond y dim iddo ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau; ar 7 Tachwedd 1916 roedd llawer o bapurau newydd y wlad yn datgan mai ef fyddai'r Arlywydd, ond collodd o drwch blewyn i Woodrow Wilson.
Cafodd ei eni ym 1862 ac roedd ei dad wedi mewnfudo o Gymru. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Madison, Prifysgol Brown, a Phrifysgol Columbia. Roedd yn siarad Cymraeg yn rhugl.[1][2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- ↑ "Y Cymro a fu bron yn Arlywydd". BBC Cymru Fyw. 2025-01-21. Cyrchwyd 2025-01-22.