1853 yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bedd Bernard Barham Woodward awdur The History of Wales

Mae'r erthygl hon yn sôn am arwyddocâd arbennig y flwyddyn 1853 i Gymru a'i phobl.

Deiliaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 23 Ionawr - Mae chwe aelod o griw bad achub y Rhyl yn cael eu boddi pan fydd cwch yn troi drosodd. [1]
  • 11 Tachwedd - Rhoddir cymeradwyaeth i agor llinell Rheilffordd Dyffryn-nedd o Gelli Tarw i Merthyr Tudful, a ohiriwyd ar sail diogelwch. [2]
  • dyddiad anhysbys
    • Mae David Williams (Alaw Goch) yn agor pwll glo newydd yng Nghwmdâr.
    • Mae John Williams (Ab Ithel) yn ffraeo gyda'i ffrind a'i gyd-olygydd Harry Longueville Jones, ac yn ymddiswyddo fel golygydd Archaeologia Cambrensis.
    • Cyhoeddir dau gyfieithiad o Uncle Tom's Cabin : Caban F'Ewyrth Twm gan Hugh Williams (Cadfan) a (fersiwn gryno) Crynodeb o Gaban 'Newyrth Tom gan Thomas Levi neu William Williams o dan yr enw pen (Y Lefiad). [3]
    • Penodwyd William Roberts (Nefydd) yn asiant De Cymru ar gyfer Cymdeithas Ysgolion Prydain a Thramor.
    • Daw Hugh Owen yn Brif Glerc Comisiwn Cyfraith y Tlodion. [4]
    • Mae Robert Fulke Greville yr ieuengaf yn dychwelyd i'w ystâd deuluol yn Aberdaugleddau.

Celfyddydau a llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerflyn o John Ardalydd Bute gan John Evan Thomas. Sgwar Callaghan, Caerdydd.

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfrau newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mae Robert James (Jeduthyn) yn priodi chwaer ei gyd-gerddor Joseph Parry.

Celfyddydau gweledol[golygu | golygu cod y dudalen]

Genedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cochfarf
  • 9 Mawrth — Edward Thomas (Cochfarf), gwleidydd lleol, ceidwad y cledd (fu farw 1912)
  • 20 Awst - Charles Lewis, chwaraewr rygbi (fu farw 1923)
  • 26 Medi - Godfrey Darbishire, Chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru (fu farw 1889)
  • 27 medi — William Pari Huws, gweinidog a bardd (fu farw 1936)

Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Association for the Advancement of Science. Meeting (1858). Report of the Annual Meeting. Office of the British Association. p. 323.
  2. Reports from Commissioners, Vol. XXXVIII, Railways, Woods and Forests, Local Acts. 1854. p. 68.
  3. yn debyg o fod gan Thomas Levi: gweler Journal of the Welsh Bibliographical Society, Cyf. 2, Rhif. 3 Rhagfyr 1918, tud. 115.
  4. Bwletin Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Gwasg Prifysgol Cymru. 1966. p. 166.
  5. Manylion y llyfr yng Nghatalog yr Hathi Trust