Benjamin Thomas Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Benjamin Thomas Williams
Ganwyd 19 Tachwedd 1832 Edit this on Wikidata
Arberth Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Mawrth 1890 Edit this on Wikidata (57 oed)
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Barnwr, Gwleidydd, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Benjamin Thomas Williams (19 Tachwedd 183221 Mawrth 1890) yn fargyfreithiwr, yn farnwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin o 1878 i 1882[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd B T Williams yn Arberth yn fab hynaf i'r Parch Thomas R Williams, gweinidog Annibynnol, a Mira (née Thomas) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin, gyda'r bwriad o ddilyn ei Dad i weinidogaeth yr Annibynwyr. Tra yn y Coleg cafodd dröedigaeth i achos yr Undodiaid a rhoddodd ymaith ei fwriad i ddyfod yn weinidog. Wedi ennill ysgoloriaeth Dr Williams aeth i Brifysgol Glasgow, lle enillodd gwobrau'r coleg am resymeg a metaffiseg, a graddio'n MA ym 1854.[2]

Ym 1857 priododd Margaret unig ferch B R Thomas Arberth, bu iddynt dau fab a merch.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Galwyd Williams i'r Bar yn Grey's Inn ym 1859 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr ar Gylchdaith De Cymru. Roedd yn eistedd fel cofiadur Sir Gaerfyrddin o 1872 i 1878 a chafodd ei godi yn Gwnsler y Frenhines ym 1875. Roedd yn awdur nifer o erthyglau ar wahanol agweddau o'r gyfraith a fu'n olygydd y Law Magazine a'r Commercial Compendium. Cafodd ei benodi yn Farnwr Llys y Goron Sir Forgannwg ym 1882[4] ond bu'n rhaid iddo ymddeol cyn pen tair blynedd oherwydd problemau iechyd meddwl.[5]

Ar adeg ei ymddiswyddiad B T Williams oedd yr unig Barnwr Llys y Goron yng Nghymru a oedd yn gallu'r Gymraeg; gwnaed cais i'r Iarll Selbourn, yr Arglwydd Ganghellor, i sicrhau bod Cymro Cymraeg arall yn cael ei benodi yn ei le a bod ystyriaeth yn cael ei roi i sicrhau bod llefydd gwag eraill yn cael eu cynnig i siaradwyr yr iaith. Chwerthin am ffolineb y syniad bod Siarad Cymraeg yn gymhwyster cyfreithiol bu ymateb yr Arglwydd Ganghellor.[6]

Bu hefyd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch ar feinciau Sir Benfro, Sir Frycheiniog a Sir Forgannwg.

Prifysgol Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel anghydffurfiwr nid oedd gan Williams yr hawl i astudio mewn prifysgolion yn Lloegr, yr oedd yn teimlo bod hyn yn anghyfiawn, roedd hefyd yn teimlo ei fod yn anghyfiawn bod myfyrwyr Cymreig o unrhyw enwad yn gorfod mynych brifysgol y tu allan i Gymru; ym 1853 fe'i ysgrifennodd traethawd yn amlinellu'r angen am brifysgol anenwadol yng Nghymru. O ganlyniad i draethawd B T Williams, gynhaliwyd pwyllgor yn Llundain a chyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru a arweiniodd, yn y pendraw, at sefydlu Prifysgol Aberystwyth ym 1872.[7]

Gwasanaethodd fel aelod o Gyngor Prifysgol Glasgow, is lywydd ac ysgrifennydd Prifysgol Aberystwyth ac fel un o lywodraethwr Prifysgol Bangor[8]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1867 fe ymgeisiodd Thomas am gefnogaeth y Rhyddfrydwyr i fod yn ymgeisydd am ail sedd Merthyr Tudful ond bu'n aflwyddiannus.[9]

Ym 1878 ymddiswyddodd AS Ryddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin, Syr John Cowell-Stepney o'r Senedd a chafodd B T Williams ei ddewis yn unfrydol i'w olynu, yr anghydffurfiwr cyntaf i gynrychioli'r sedd[10]. Cafodd ei ail ethol yn etholiad cyffredinol 1880 ond ymddiswyddodd o'r Senedd ym 1882 ar ôl gael ei benodi yn Farnwr Llys y Goron.[11]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

O dan bwysau salwch meddwl cyflawnodd weithred o hunnan laddiad yn Seilam y Siroedd Unedig, Caerfyrddin, yn 57 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur ar lein WILLIAMS , BENJAMIN THOMAS (1832 - 1890) [1] adalwyd 16 Awst 2015
  2. Eminent Welshmen, Williams Benjamin Thomas [2] adalwyd 16 Awst 2015
  3. "ELECTION NEWS - Wrexham Guardian". William Garratt Jones & John Hamlyn. 1878-05-18. Adalwyd 2015-08-17. 
  4. "JUDGE B T WILLIAMS AT SWANSEA - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1882-01-11. Adalwyd 2015-08-17. 
  5. "JUDGE B T WILLIAMS - The Western Mail". Abel Nadin. 1885-03-11. Adalwyd 2015-08-17. 
  6. Leeds Mercury 30 Mai 1885, T6 colofn 4 Politics and Society
  7. "HOW THE UNIVERSITY AROSE - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1896-06-27. Adalwyd 2015-08-17. 
  8. "DEATH OF MR B T WILLIAMS QC - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1890-03-22. Adalwyd 2015-08-17. 
  9. "MERTHYR - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1867-09-28. Adalwyd 2015-08-17. 
  10. "AELOD SENEDDOL NEWYDD BWRDEISDREFI CAERFDDIN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1878-05-17. Adalwyd 2015-08-17. 
  11. "CYNRYCHIOLAETH SENEDDOL CAERFYRDDIN - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1881-12-22. Adalwyd 2015-08-17. 
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur Cowell-Stepney
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
18781882
Olynydd:
John Jones Jenkins