John Iltyd Nicholl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Iltyd Nicholl
Ganwyd 21 Awst 1797 Edit this on Wikidata
Llan-faes Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Ionawr 1853 Edit this on Wikidata (55 oed)
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth cyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol, Tori Edit this on Wikidata

Roedd John Iltyd Nicholl (21 Awst 179727 Ionawr 1853) yn dirfeddiannwr, yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Ceidwadol a chynrychiolodd etholaeth Caerdydd yn y Senedd rhwng 1832 a 1852.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Nicholl yn fab i John Nicholl, Ystâd Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr; barnwr amlwg ac aelod seneddol dros nifer o etholaethau poced yn Lloegr a Judy (née Birt) ei wraig.[2]

Cafodd ei addysgu yn ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y clasuron ym 1822, Bagloriaeth yn y Gyfraith Cyffredin 1823 a Doethuriaeth yn y Gyfraith Cyffredin ym 1826.[3]

Ym 1821[4] priododd Jane Harriet, merch Thomas Mansel Talbot (a brawd Christopher Rice Mansel Talbot AS Sir Forgannwg 1830 – 1890), bu iddynt 7 o blant.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i galwyd i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1824 a daeth i feddiant yr ystâd deuluol ar farwolaeth ei dad ym 1838

Rhwng 1838 a 1841 bu'n gwasanaethu fel Ficer Cyffredinol a Meistr y Cyfadrannau Talaith Caergrawnt, swydd gyfreithiol yn Eglwys Loegr yn ymwneud a rhwymiadau priodas, penodi notarïaid cyhoeddus, tyngu llwon, dyfarnu ar gyfraith claddu a chynnig cyngor cyfreithiol i'r Archesgob.

Gwasanaethodd fel Barnwr Adfocad Cyffredinol y Lluoedd Arfog (pennaeth y system Llys Farsial) rhwng 1841 a 1846.[5]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol Marchnad Rhydd yn etholiad cyffredinol 1832 gan guro'r ymgeisydd Rhyddfrydol Yr Arglwydd Crichton Stewart yn gyffyrddus, gan dal y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd etholiad 1852 pan gollodd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol Walter Coffin.

Gwasanaethodd fel Arglwydd Comisiynydd y Trysorlys rhwng mis Mawrth ac Ebrill 1835.

Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1841.

Carreg Coffa John Nicholl, Eglwys Gadeiriol Llandaf

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi colli ei sedd seneddol aeth ar daith i'r Eidal a bu farw yn Rhufain yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Campo Cestio, Rhufain (y fynwent i estroniaid nad ydynt yn Gatholigion – lle claddwyd y beirdd Keats a Shelley hefyd). Mae llun o'i fedd i'w gweld ar wefan Find a Grave [6], ac mae cofadail iddo yn Eglwys Gadeiriol Llandaf

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Members for Cardiff - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1891-10-03. Cyrchwyd 2016-01-24.
  2. Y Bywgraffiadur NICHOLL, JOHN (1797 - 1853) [1] adalwyd 24 Ionawr 2016
  3. Page:Alumni Oxoniensis (1715-1886) volume 3.djvu/246. (2015, August 14). In Wikisource. Retrieved 03:38, January 24, 2016, from https://en.wikisource.org/w/index.php?title=Page:Alumni_Oxoniensis_(1715-1886)_volume_3.djvu/246&oldid=5584557
  4. Wales, Glamorgan Parish Registers, 1558-1900," database, FamilySearch : adalwyd 24 Ionawr 2016, John Nicholl & Jane Harriet Talbot, 1821; Marriage, citing Penrice, Glamorgan, Wales, Glamorgan Family History Society, Cardiff.
  5. Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions [2] adalwyd 24 Ionawr 2016
  6. Find a Grave John Nicholl [3] adalwyd 24 Ionawr 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Patrick Crichton-Stewart
Aelod Seneddol Caerdydd
18321852
Olynydd:
Walter Coffin