Neidio i'r cynnwys

John Evan Thomas

Oddi ar Wicipedia
John Evan Thomas
Marwolaeth y Brenin Tewdrig
Ganwyd15 Ionawr 1810 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw9 Hydref 1873 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata
SwyddSiryf Sir Frycheiniog Edit this on Wikidata

Cerflunydd o Gymru oedd John Evan Thomas (15 Ionawr 1810 - 9 Hydref 1873). Cafodd ei eni yn Aberhonddu yn 1810 a bu farw yn Llundain. Roedd yn arbennig o nodedig am ei gerflun 'Marwolaeth Tewdrig' a arddangoswyd yn 1848 yn Eisteddfod y Fenni ac yna yn yr 'Arddangosfa Fawr' yn Hyde Park, Llundain yn 1851, ac am ei ddau gerflun efydd o Henry de Loundres a William, Iarll Penfro yn siambr Tŷ'r Arglwyddi, Llundain.

Mae yna enghreifftiau o waith John Evan Thomas yng nghasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ym 1857 gadawodd ei bractis yn Llundain a phrynodd plasty bychan, Penisha'r-Pentre, yn Llansbyddid. Daliodd ei afael yn ei stiwdio yn Pimlico, Llundain. Yn 1868 fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Brycheiniog.


Dyma ddetholiad o weithiau gan John Evan Thomas:

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]