William Spurrell
Gwedd
William Spurrell | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1813 Caerfyrddin |
Bu farw | 22 Ebrill 1889 Unknown |
Man preswyl | 37 & 38 Heol y Brenin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyhoeddwr, argraffydd, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau, gwerthwyr deunydd ysgrifennu, llenor |
Cyflogwr | |
Plant | Walter Spurrell, Effie Spurrell |
Llinach | Teulu'r Spurrells |
Argraffydd a chyhoeddwr Cymreig oedd William Spurrell (30 Gorffennaf 1813 – 22 Ebrill 1889), y cysylltir ei enw ag un o'r geiriaduron Cymraeg mwyaf poblogaidd erioed, sef y Spurrell's Welsh Dictionary Saesneg-Cymraeg.
Brodor o Sir Gaerfyrddin oedd Spurrell. Yn 1840 sefydlodd argraffwasg yn nhref Caerfyrddin a dyfodd i fod yn un o'r gweisg mwyaf safonol yng Nghymru.
Etifeddwyd cwmni Spurrell gan ei fab Walter (1858-1934) ar farwolaeth William Spurrell yn 1889. Cyn sefydlu Gwasg Prifysgol Cymru, Spurrell oedd yn argraffu a chyhoeddi llyfrau safonol ar ran Prifysgol Cymru a hefyd ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gyfnod.
Cyhoeddir geiriadur Spurrell gan gwmni Harper Collins heddiw, fel y Collins Spurrell Welsh Dictionary.