Thomas Levi
Gwedd
| Thomas Levi | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 Hydref 1825 Ystradgynlais |
| Bu farw | 16 Mehefin 1916 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, golygydd |
| Plant | Catherine Levi |

Gweinidog, awdur a golygydd o Gymru oedd Thomas Levi (12 Hydref 1825 – 16 Mehefin 1916).
Ganed ef ym Mhenrhos, gerllaw Ystradgynlais, a bu'n gweithio yng ngwaith haearn Ynyscedwyn. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ystradgynlais tua 1855-60. Bu'n weinidog yn Nhreforus o 1860 hyd 1876, yna yn Aberystwyth hyd 1901.
Sefydlodd Trysorfa y Plant yn 1862, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn hyd 1911; yn y cyfnod yma, cyrhaeddodd y cylchrediad 44,000 y mis. Ysgrifennodd 30 o lyfrau gwreiddiol.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- Hanes Prydain Fawr 1862
- Bywyd a Theithiau Livingstone 1857
- Gweddiau Teuluaidd 1863
- Hanesion y Beibl 1870
- (golygydd) Casgliad o Hen Farwnadau 1872
- Hanes y Beibl Cymraeg 1876
- Traethodau Bywgraffyddol 1882