Rhodri Morgan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Hywel Rhodri Morgan)
Rhodri Morgan
Ganwyd29 Medi 1939 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 2017 Edit this on Wikidata
Gwenfô Edit this on Wikidata
Man preswylLlanfihangel-y-pwll Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Cymru, Arweinydd y Blaid Lafur, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Yr Ysgrifennydd dros Ddatblygiad Economaidd a Materion Ewropeaidd, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadT. J. Morgan Edit this on Wikidata
PriodJulie Morgan Edit this on Wikidata
Rhodri Morgan

Cyfnod yn y swydd
16 Hydref 2000
(Prif Ysgrifennydd ers 9 Chwefror 2000)
 – 10 Rhagfyr 2009
Dirprwy Mike German
(2000-2001)
Jenny Randerson
(2001-2002)
Mike German
(2002-2003)
Ieuan Wyn Jones
(2007-2009)
Rhagflaenydd Alun Michael (Prif Ysgrifennydd)
Olynydd Carwyn Jones

Geni

Gwleidydd Cymreig a Phrif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol o 2000 i 2009 oedd Hywel Rhodri Morgan (29 Medi 193917 Mai 2017). Daeth i swydd y Prif Weinidog ar ôl ymddiswyddiad Alun Michael, ac felly ef oedd yr ail berson i arwain Cynulliad Cenedlaethol Cymru ond y cyntaf i ddefnyddio'r teitl Prif Weinidog. Fe'i etholwyd yn swyddogol yn Brif Weinidog ar 16 Chwefror 2000. Cyhoeddodd yn Chwefror 2008 y byddai'n ymddeol yn 2009 pan fyddai'n 70 mlwydd oed.[1] Ar 1 Hydref 2009 cadarnhaodd ei fwriad i sefyll lawr, ac ymddiswyddodd yn swyddogol ar 8 Rhagfyr 2009.[2] Y diwrnod canlynol ar 9 Rhagfyr 2009 enwebwyd Carwyn Jones, ei olynydd fel arweinydd Llafur Cymru, yn Brif Weinidog.[3]

Bywyd cynnar a phersonol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Morgan ar 29 Medi 1939 yng Nghaerdydd, yn fab i'r Athro T. J. Morgan ac roedd yn frawd i'r hanesydd Prys Morgan. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, a mynychodd brifysgolion Rhydychen (Coleg Sant Ioan) a Harvard. Priododd Julie Morgan yn 1967; roedd hithau hefyd yn weithgar yn y Blaid Lafur. Trigodd y ddau yn Llanfihangel-y-pwll gan gefnogi Cymdeithas Dyneiddiaeth Prydain. Ganwyd dwy ferch i'r cwpl a fe mabwysiadwyd mab ganddynt.

Ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil a gweithiodd yn Adran Masnach a Diwydiant, fel Swyddog Datblygiad Diwydiannol i Gyngor Sir De Morgannwg o 1974 i 1980. Ef oedd y gwas sifil â'r cyflog uchaf yng Nghymru.[4] Daeth yn bennaeth swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru o 1980 i 1987.

Ar 9 Gorffennaf 2007 cafodd llawdriniaeth yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd i wella llif y gwaed i'w galon ar ôl iddo dioddef o boenau yn ei stumog.[5]

Bu farw ar 17 Mai 2017 yn 77 oed. Y diwrnod canlynol agorwyd llyfr coffa yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac yn swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn.[6] Talwyd teyrnged iddo gan wleidyddion o sawl plaid[7]:

"Mae Cymru nid yn unig wedi colli gwleidydd arbennig, ond hefyd wedi colli ffigwr tadol"

—Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones

"Roedd Rhodri Morgan yn gawr y Gymru ddatganoledig"

Andrew R. T. Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

"Mi fydd Rhodri Morgan yn cael ei gofio am ei waith yn arwain Cymru yn y blynyddoedd cynnar, ac am roi gwleidyddiaeth Cymru ar droedle cadarn"

Mark Williams AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

.

Cynhaliwyd ei angladd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 31 Mai 2017 a llywiwyd y seremoni gan yr offeiriad dyneiddiol Lorraine Barret.[8][9]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Morgan yn Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Caerdydd yn etholiad cyffredinol 1987, sedd a ddaliodd nes iddo ei gadael yn 2001. Yn yr Wrthblaid daeth yn llefarydd y Blaid Lafur ar Ynni (1988-1992) a materion Cymreig (1992-1997). Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1997 bu'n Gadeirydd Pwyllgor Dethol y Tŷ Cyffredin ar Weinyddiaeth Gyhoeddus (1997-1999).

Cynulliad Cyntaf[golygu | golygu cod]

Daeth Morgan yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd yn etholiad Cynulliad 1999 ac fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd y Cynulliad dros Ddatblygu Economaidd a Materion Ewropeaidd.

Ymgeisiodd am enwebiad Llafur am swydd y Prif Ysgrifennydd, gan golli i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Ron Davies. Ymddiswyddodd Davies yn dilyn sgandal ynghylch "eiliad o wallgofrwydd" ar Gomin Clapham yn 1998, ac ymgeisiodd Morgan am y swydd unwaith eto. Y tro hwn, etholwyd ei wrthwynebydd Alun Michael fel y Prif Ysgrifennydd ond ymddiswyddodd hwnnw lai na blwyddyn yn ddiweddarach yn dilyn ansicrwydd am gefnogaeth digonol o fewn ei blaid ei hun, a bygythiad o bleidlais o ddiffyg hyder gan y gwrthbleidiau. Daeth Rhodri yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ac yn Brif Ysgrifennydd Cymru ar 9 Chwefror 2000 a Phrif Weinidog Cymru ar 16 Hydref 2000 pan newidiwyd enw'r swydd.

Morgan a'r teulu brenhinol yn agoriad y Senedd Ddydd Gŵyl Dewi 2006 (o'r chwith i'r dde: Camilla, Duges Cernyw, y Tywysog Siarl, Morgan, y Tywysog Philip, y Frenhines Elisabeth)
Morgan a'i ddirprwy Ieuan Wyn Jones tu allan i'r Senedd

Cafodd ei benodi'r i'r Cyfrin Gyngor yng Ngorffennaf 2000.[10] Bu'n arweinydd rhwng Chwefror 2000 a Mai 2003 mewn clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ar ôl etholiad y Cynulliad ym Mai 2003, enillodd Llafur digon o seddau i allu llywodraethu heb glymblaid.

Ail Gynulliad[golygu | golygu cod]

Yn Ebrill 2007 yn ystod yr ymgyrch etholiadol, dywedodd y byddai yn ymddeol fel Prif Weinidog pe bai Llafur yn colli'n drwm yn etholiad Cynulliad 2007 ond gwrthododd ddweud faint o seddau fyddai rhaid colli cyn i hynny ddigwydd.[11]

Trydydd Cynulliad[golygu | golygu cod]

Yn dilyn yr etholiad yr oedd gan Lafur 26 sedd o gymharu â 30 yn 2003, ac wrth i drafodaethau ddechrau ar ffurfio llywodraeth newydd dywedodd Morgan y byddai hi'n "annhebyg" i Lafur gytuno i glymbleidio ag unrhyw blaid arall.[12] Ond dechreuwyd trafodaethau rhwng Ceidwadwyr, Plaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol, a dywedodd Rhodri ei fod yn dal yn obeithiol y gallai Llafur ddal i arwain y llywodraeth fel y blaid fwyaf.[13] Methwyd ffurfio clymblaid ar ôl i'r Democratiaid Rhyddfrydol rhoi'r gorau i'r trafodaethau, a chynhaliwyd sesiwn arbennig yn y Cynulliad ar 25 Mai, tair wythnos ar ôl yr etholiad, i enwebu Morgan i gadw swydd y Prif Weinidog gyda llywodraeth leiafrifol o 26 sedd allan o 60.[14] Dywedodd yn ystod y sesiwn:

Mae'n anrhydedd i mi gael 'yn enwebu, ond dwi'n derbyn na fydd y dasg yn hawdd. Fel llywodraeth a phlaid fe fyddwn ni'n gwrando ac yn dysgu oherwydd yr hyn ddewisodd pobl Cymru yn yr etholiad ar Fai 3 ... fe fyddwn yn trafod gyda'r pleidiau. Mae her arwain llywodraeth yn anodd ac mae'n fraint na chafodd arweinwyr o Gymru, lawer gwell na fi ... ond fyddwn i ddim yn anwybyddu her ffurfio'r drydedd weinyddiaeth.[14]

Ym Mehefin 2007 dechreuodd trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru am ffurfio llywodraeth glymblaid[15] a lluniwyd y rhaglen llywodraethu ddadleuol Cymru'n Un. Ffurfiwyd y glymblaid ar ôl i 78.43% o aelodau Llafur pleidleisio o blaid clymblaid â Phlaid Cymru ("mwyafrif llethol" yn ôl Morgan) ar 6 Gorffennaf,[16] a 92% o aelodau Plaid Cymru o blaid y diwrnod wedyn.[17]

Barnau a pholisïau gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Rhyfel Irac[golygu | golygu cod]

Ar rifyn 2 Chwefror 2006 y rhaglen BBC Question Time, recordiwyd yn Aberystwyth, gwrthododd Morgan dweud a oedd yn cefnogi Rhyfel Irac ar ôl i'r cwestiwn cael ei ofyn sawl tro gan aelodau'r gynulleidfa a'r panel a'r cyflwynydd, David Dimbleby. Dywedodd nid oedd ganddo farn oherwydd: "Ro'n i wedi gadael Tŷ'r Cyffredin - pe bawn i wedi aros yn y Senedd, byddwn i wedi cael pleidlais."[18] Ar 16 Ebrill, 2007 cyfaddefodd i BBC Cymru y byddai mwy na thebyg wedi pleidleisio yn erbyn y rhyfel pe bai'n AS ar y pryd.[19]

Yr iaith Gymraeg[golygu | golygu cod]

Roedd Morgan yn siaradwr y Gymraeg ac yn credu nad yw'n "iaith y gorffennol",[20] ond ni chefnogodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 gan ddweud taw deddf wan i sefydlu cwangos oedd hi. Derbyniodd Morgan feirniadaeth gan Gymdeithas yr Iaith am newid ei feddwl am y ddeddf ar ôl dod yn Brif Weinidog. Cefnogodd ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ond nid pasio Deddf Iaith Newydd.[21]

Iechyd[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Morgan nifer o addewidion ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru ym maes iechyd. Yn ystod ei arweinyddiaeth cyflwynwyd gwaharddiad ysmygu a presgripsiynau am ddim yng Nghymru. Cyn etholiad Cynulliad 2007 amlinellodd cynlluniau ar gyfer sefydlu system gwyno er mwyn i gleifion a theuluoedd yng Nghymru fynegi eu pryderon am bolisi iechyd y llywodraeth.[22] Dywedodd yn Ebrill 2007, "mae gweddill Prydain yn cenfigennu aton ni am fod y Cymry'n cael moddion am ddim, ac am fod y gwaharddiad smygu wedi dod i rym ymhell cyn Lloegr".[23]

Tony Blair[golygu | golygu cod]

Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Tony Blair, a Rhodri Morgan yn ystod ymgyrch etholiad Cynulliad 2007

Ar ôl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Tony Blair, ddatgan ar 10 Mai 2007 ei fwriad i ymddiswyddo ar 27 Mehefin y flwyddyn honno, dywedodd Morgan:

Fe fydd Tony yn cael ei gofio fel ffrind da i Gymru oherwydd roedd ei fuddugoliaeth yn etholiad cyffredinol 1997 yn ein harwain at ddatganoli . . . Fe wnaeth lwyddo lle'r oedd eraill wedi methu am iddo gyfuno egwyddorion gwleidyddol gyda greddf anhygoel i asesu teimladau'r wlad.[24]

Ar yr un ddiwrnod dywedodd yn ystod cyfweliad ag ITV ei fod yn teimlo iddo gael ei drin yn wael gan Blair ar ôl i Blair sicrhau swydd Prif Weinidog Cymru i Alun Michael yn 1999:

Mae'n rhyfedd sefyll yma heddiw yn siarad am berson a'm bradychodd i unwaith, ond ar y llaw arall, o'i gymharu â'r hyn sydd wedi digwydd yn Irac, dyw e ddim yn llawer a bod yn onest. Mae bywyd yn rhy fyr i ddal dig. Dwi'n sicr erioed wedi dal dig am hynny, a dwi ddim yn dal dig heddiw, oherwydd dwi'n meddwl am beth mae wedi ei wneud i'r Deyrnas Unedig ac i Gymru ac mae hynny'n gadarnhaol.[25]

Amddiffynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, sylwadau Morgan gan ddweud: "Dwi wedi cysylltu â swyddfa Rhodri ac mae'r sylw wedi ei gymryd allan o'i gyd-destun."[25]

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Roedd Morgan yn cael ei adnabod am ambell i sylw dadleuol, a arweinidod yn anochel at feirniadaeth gan ei wrthwynebwyr.

Taflen a ddosbarthwyd i dai yn ward San Silian, Casnewydd, gan y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mawrth 2007 sy'n beirniadu Morgan am ei sylwadau ar newid hinsawdd

Yn Chwefror 2007, derbyniodd Morgan feirniadaeth gan arweinwyr pleidiau eraill ar ôl dweud mewn araith ar newid hinsawdd:

Os bydd hinsawdd Cymru'n debycach i Sbaen neu dde California yn y dyfodol, yna bydd hinsawdd Sbaen yn debycach i'r Sahara. Os na allwn ni osgoi'r fath newid erbyn 2050, go brin na fydd hyn o fudd i Gymru.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, bod y sylwadau yn "hollol anghyfrifol" a Mike German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, bod gan Morgan "agwedd hunanfodlon iawn" tuag at gynhesu byd-eang.[26]

Yn hwyrach yn yr un mis, bu ragor o feirniadaeth ar ôl i Morgan ddweud jôc am Ian Paisley, arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd, mewn cinio cyn cynhadledd y Blaid Lafur. Dywedodd fod Dr Paisley wedi troi'n Babydd cyn marw oherwydd y byddai'n well colli Pabydd na Phrotestant. Dywedodd llefarydd ar ran yr Unoliaethwyr Democrataidd "nid oedd yn sylw y byddai disgwyl i Brif Weinidog unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol ei wneud", ac ymateb mab Dr Paisley, Ian, oedd dylai gwleidyddion "gael eu geni â chromosôm ychwanegol" fel bod eu croen yn fwy trwchus.[27]

Morgan yn llygad y cyhoedd, dychan a diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod]

Bu Morgan yn enwog yn llygad y cyhoedd am ei ddyfyniadau dryslyd yn y Saesneg, a rhoddwyd gwobr "baglu dros eiriau" (Foot in Mouth) yr Ymgyrch Saesneg Clir (The Plain English Campaign) iddo dwywaith.[28][29] Enillodd y tro cyntaf yn 1998 pan atebodd Jeremy Paxman mewn cyfweliad ar y rhaglen BBC Two Newsnight, pan gafodd ei ofyn os oedd e'n dymuno bod yn arweinydd Llafur yn y Cynulliad newydd, gan ddweud "Does a one-legged duck swim in circles?". Yr ail dro, yn 2005, dywedodd mewn dadl yn y Cynulliad ar ddyfodol heddluoedd Cymru: "The only thing which isn't up for grabs is no change and I think it's fair to say, it's all to play for, except for no change." Ymatebodd Morgan i ennill y wobr yr ail waith gan ddweud:

Enillais y wobr o'r blaen am y dyfyniad am yr hwyaden ungoes. Mewn gwirionedd, mae wedi gwneud enw i mi. Mae Jeremy Paxman yn dal i geisio darganfod a oes ystyr ddyfnach i'r hyn ddywedais i. Dyw'r wobr ddiweddaraf ddim yn yr un cae â honno felly mae'n rhaid ei bod yn flwyddyn wan. Ond dwi wrth fy modd fod yr Ymgyrch Saesneg Clir yn edrych ar y cynulliad bob dydd Mawrth yn ystod y cyfnod holi gan aros am ddyfyniad tebyg i'r un am yr hwyaden ungoes.[28]

Bu Morgan hefyd yn adnabyddus am y ddelwedd ganfyddadwy o'i wallt a'i ddillad anniben. Cafodd ei ddychanu ar y rhaglen S4C Cnex, gyda chyfeiriadau aml i'w wallt. Ar ail rifyn y pumed cyfres o raglen comedi BBC Cymru High Hopes, atebodd y cymeriad Kurt Stable (a chwaraewyd gan yr actor gwadd Dewi 'Pws' Morris)[30] cwestiwn amlwg gan ddweud "Does Rhodri Morgan need a new jacket?".

Ym Mawrth 2005 cyrhaeddodd Morgan stiwdios BBC Cymru i ymddangos ar y rhaglen Dragon's Eye pan gafodd ei anfon i'r ystafell gwisgo anghywir gan aelod newydd o staff ar ôl cael ei gamgymryd am rodiwr ar gyfer y gyfres ffuglen wyddonol Doctor Who.[31]

Ymddangosodd Morgan ar y rhaglen The Big Welsh Joke, a gyflwynwyd gan Rhod Gilbert ar BBC 2W, ym Mawrth 2007 yn dweud jôc am dân yn y Rhondda a dyn-tân Jamaicaidd o Gaerdydd.

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Yn 2017 sefydlwyd Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe, melin drafod newydd, wedi ei enwi ar ôl Rhodri. Nod yr Academi yw gwneud ymchwil a gomisiynwyd ac ymchwil 'awyr las' yn y gwyddorau cymdeithasol a'r celfyddydau a'r dyniaethau. Maent hefyd yn trefnu darlith flynyddol er cof am Rhodri Morgan. Traddodwyd y cyntaf ar 25 Medi 2018 gan Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban, yn cymharu’r cynnydd a wnaed o ran sicrhau hawliau dynol plant a phobl ifanc yng Nghymru a’r Alban ers datganoli.[32]

Enwyd cwch patrolio newydd yn FPV Rhodri Morgan, cwch sy'n rhan o fflyd fydd yn gofalu am ddyfroedd Cymru gan chwilio am weithgarwch pysgota anghyfreithlon.[33]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pwy fydd olynydd Morgan?", BBC, 9 Chwefror, 2008.
  2. "Rhodri'n ildio'r awenau", BBC, 8 Hydref 2009.
  3. Carwyn Jones yn cael ei enwebu i fod yn Brif Weinidog , BBC Cymru, 9 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 11 Rhagfyr 2018.
  4. (Saesneg) "Rhodri Morgan", The Guardian, 16 Mawrth, 2001.
  5. "Llawdriniaeth i Rhodri", BBC, 9 Gorffennaf, 2007.
  6.  Gwahodd pobl i ddangos eu parch i'r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan. Cynulliad Cymru (18 Mai 2017).
  7. Y byd gwleidyddol yn gweld eisiau Rhodri Morgan , Golwg360, 18 Mai 2017.
  8.  Angladd Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (23 Mai 2017).
  9. Cynnal angladd Rhodri Morgan yn y Senedd yng Nghaerdydd , BBC Cymru Fyw, 31 Mai 2017.
  10. (Saesneg) "Morgan made privy councillor", BBC, 24 Gorffennaf, 2000.
  11. "Canlyniad gwael: Morgan i adael", BBC, 5 Ebrill, 2007.
  12. "Morgan: Clymblaid yn 'annhebyg'", BBC, 15 Mai, 2007.
  13. "Rhodri Morgan yn dal yn obeithiol", BBC, 19 Mai, 2007.
  14. 14.0 14.1 "Enwebu Morgan i fod wrth y llyw", BBC, 25 Mai, 2007.
  15. "Dwy blaid: 'Bargen hanesyddol'", BBC, 13 Mehefin, 2007.
  16. "Llafur yn pleidleisio dros glymblaid", BBC, 6 Gorffennaf 2007.
  17. "'Ie' i lywodraeth glymblaid", BBC, 7 Gorffennaf 2007.
  18. "Rhodri: 'Dim barn ar Irac'", BBC, 3 Chwefror, 2006.
  19. "Morgan 'yn erbyn rhyfel'", BBC, 16 Ebrill 2007.
  20. "Morgan: Annog agwedd 'mynd amdani'", BBC, 20 Medi, 2006.
  21. "Protest: Targedu Rhodri Morgan", BBC, 2 Awst 2005.
  22. "Morgan: Iechyd yn flaenoriaeth", BBC, 20 Mawrth, 2007.
  23. "Morgan: 'Cymru'n ffynnu'", BBC, 3 Ebrill, 2007.
  24. "Gwleidyddion Cymru'n talu teyrnged", BBC, 10 Mai, 2007.
  25. 25.0 25.1 "Morgan: 'Blair wedi bradychu'", BBC, 11 Mai, 2007.
  26. "Newid hinsawdd: 'Anghyfrifol'", BBC, 14 Chwefror, 2007.
  27. "Jôc: Morgan o dan y lach", BBC, 28 Chwefror, 2007.
  28. 28.0 28.1 "Ail wobr rwdlan i Rhodri", BBC, 13 Rhagfyr, 2005.
  29. (Saesneg) Foot in Mouth. Yr Ymgyrch Saesneg Clir. Adalwyd ar 6 Gorffennaf, 2007.
  30. (Saesneg) High Hopes - The Episode Guide. Adalwyd ar 7 Gorffennaf, 2007.
  31. (Saesneg) "AM in Doctor Who villain mix-up", BBC, 21 Mawrth, 2005.
  32.  Darlith Goffa Flynyddol Rhodri Morgan. Cynulliad Cymru (20 Medi 2018). Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2018.
  33.  Lesley Griffiths yn enwi cwch patrolio pysgodfeydd newydd ym Mae Caerdydd ar ôl y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan. Llywodraeth Cymru (5 Rhagfyr 2018). Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Stefan Terlezki
Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd
19872001
Olynydd:
Kevin Brennan
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd
19992011
Olynydd:
Mark Drakeford
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Gweinidog dros Ddatblygiad Economaidd a Materion Ewropeaidd
19992000
Olynydd:
Michael German
Rhagflaenydd:
Alun Michael
Arweinydd Plaid Lafur y Cynulliad Cenedlaethol
20002009
Olynydd:
Carwyn Jones
Rhagflaenydd:
Alun Michael
Prif Ysgrifennydd Cymru
Prif Weinidog Cymru
20002009
Olynydd:
Carwyn Jones